Rhagenwau - 3ydd person

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un cyflwyniad i'r rhagenwau, gan ganolbwyntio ar y rhagenwau trydydd person
  • Un gweithgaredd i ymarfer rhagenwau'r trydydd person

Lesson content

  • One introduction to the pronouns, concentrating on the third person pronouns
  • One activity to practise the third person pronouns
Llinell / Line

Beth yw rhagenw?

Gair bach sy'n cyfeirio at yr hyn sy'n eiddo i berson yw rhagenw.

Mae rhagenwau yn bodoli yn y person cyntaf, yr ail a'r trydydd.

Yn y tabl isod, mae dwy golofn - y golofn gyntaf yw'r unigol, sydd bob tro yn cyfeirio at un person yn unig, a'r ail golofn yw'r lluosog, sy'n cyfeirio at fwy nag un person.

UnigolLluosog
Person cyntafFyEin
Ail bersonDyEich
Trydydd personEi (g) / Ei (b)Eu

Rhagenwau yn y trydydd person

Efallai dy fod di'n meddwl ei bod hi ychydig yn rhyfedd fod dau air yn y blwch unigol trydydd person, sydd wedi eu sillafu yr un peth - ei (g) ac ei (b).

Mae un 'ei' yn cyfeirio at fachgen. Mae'r (g) sy'n ymddangos ar ôl 'ei' yn sefyll am y gair 'gwrywaidd'.

Ystyr ei (g) yw his yn Saesneg.

Mae'r 'ei' arall yn cyfeirio at ferch. Mae'r (b) yn sefyll am y gair 'benywaidd'.

Ystyr ei (b) yw her.

Ond mae ei (g) ac ei (b) wastad yn cyfeirio at un person yn unig.

Mae sillafiad y rhagenw trydydd person lluosog - eu - ychydig yn wahanol.

Ystyr eu yw their.

Mae nifer o dafodieithoedd yn ynganu'r tri gair yr un peth, ond mae tafodieithoedd eraill yn ynganu 'i' ac 'u' yn wahanol. Serch hynny, mae'n hawdd eu cymysgu.

Llinell / Line

Mae'r hyn sy'n digwydd ar ôl y rhagenw trydydd person yn hanfodol bwysig. Pam?

Gan fod ei (g), ei (b) ac eu i gyd yn swnio'n debyg iawn i'r glust, yr unig ffordd o wybod pa un rwyt ti'n ei olygu yw drwy dreiglo rhai geiriau sy'n dilyn.

Treiglo ar ôl ei (g)

Treiglad meddal sydd yn dod ar ôl ei (g).

Dysga'r frawddeg yma i dy helpu gyda'r treiglad meddal.

Peintiodd
Tad
Catrin
Bont
Dafydd
Gyda
Lliw
Melyn
Rhyfedd

Llythyren gyntaf pob gair yn y frawddeg yma yw'r naw llythyren sy'n gallu treiglo'n feddal. Does dim un llythyren arall yn treiglo'n feddal.

Cofia'r frawddeg.

Dyma sut mae'r llythrennau yn newid:

LlythyrenNewid
P>B
T>D
C>G
B>F
D>Dd
G>-
Ll>L
M>F
Rh>R

Os oes gair sy'n dechrau gydag un o'r llythrennau yma ar ôl rhagenw trydydd person unigol gwrywaidd, yna rhaid treiglo yn feddal.

  • cadair > ei gadair ef
  • llaw > ei law ef

Ond does dim angen treiglo geiriau sydd ddim yn dechrau ag un o'r naw llythyren uchod, fel:

  • ffenestr - ei ffenestr ef

Cwis 1

Ceisia wneud y cwis canlynol sydd yn profi dy ddealltwriaeth o'r treiglo ar ôl y rhagenw trydydd person gwrywaidd.

Llinell / Line

Treiglo ar ôl ei (b)

Gyda'r ail fath o ragenw trydydd person unigol - ei (b) - mae treiglad llaes yn digwydd.

Mae tair llythyren yn newid ar ddechrau gair, a dyma sut:

LlythyrenNewid
T>Th
C>Ch
P>Ph

Dyma rai enghreifftiau:

  • tad > ei thad hi
  • pêl > ei phêl hi

Ond does dim treiglad ar gyfer geiriau sy'n dechrau gydag unrhyw lythyren arall:

  • bag > ei bag hi

Cofia

Un peth pwysig arall sydd rhaid i ti ei gofio. Os oes gen ti air sy'n dechrau gyda llafariad, sef:

  • a
  • e
  • i
  • o
  • u
  • w
  • y

rhaid i ti ychwanegu'r llythyren H i ddechrau'r gair, ee:

  • afal > ei hafal hi
  • ysgol > ei hysgol hi

Cwis 2

Ceisia wneud y cwis canlynol am dreiglo ar ôl y rhagenw trydydd person benywaidd.

Llinell / Line

Treiglo ar ôl eu

Nid oes angen treiglo o gwbl ar ôl y rhagenw trydydd person lluosog, sef eu.

Ond, os yw'r gair ar ôl eu yn dechrau gyda llafariad, sef:

  • a
  • e
  • i
  • o
  • u
  • w
  • y

rhaid i ti ychwanegu 'h' i ddechrau'r gair, ee:

  • ysgol > eu hysgol nhw
  • orenau > eu horenau nhw

Cwis 3

Ceisia wneud y cwis canlynol i brofi dy hun ar y rhagenwau trydydd person.

Llinell / Line

Gweithgaredd / Activity

Faint wyt ti'n ei gofio am y rhagenwau trydydd person?

Cywira'r brawddegau canlynol:

  1. Eisteddodd John ar ei beic.
  2. Ei tad ef gafodd sioc.
  3. Roedd ei cath hi yn ddel.
  4. Mae ei trwyn hi yn dwt.
  5. Roedd ei coes ef yn dost.
  6. Cafodd Angharad ei arian hi yn ôl yn y pendraw.
  7. Roedd eu freichiau nhw yn flinedig.
  8. Mae eu ysgol nhw ar gau heddiw.

Clicia yma ar gyfer yr atebion cywir i'r brawddegau uchod

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU