
Cynnwys y wers hon
- Un fideo yn adrodd chwedl Branwen ferch Llŷr
- Dau weithgaredd i ymgyfarwyddo gyda’r chwedl
Lesson content
- One video retelling the tale of Branwen ferch Llŷr
- Two activities to familiarise you with the story

Fideo / Video
Chwedl Branwen ferch Llŷr yw ail stori Pedair Cainc y Mabinogi. Mae’r stori’n digwydd yng Nghymru ac Iwerddon.
Gwylia’r fideo yma sy’n adrodd y stori.
Branwen ferch Llŷr

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Creu poster
Mae pair y dadeni’n chwarae rhan bwysig yn y chwedl.
Cer ati i greu poster yn ymffrostio am allu’r pair ac yn gwahodd pobl i ddod i’w weld.
Cofia ddefnyddio iaith ac arddull bwrpasol i ddweud dy neges mewn ffordd gynnil a bachog:
- defnyddia deitl bachog a hiwmor, o bosib
- defnyddia eiriau pwrpasol
- defnyddia ferfau byrlymus ac addas, ee gelli di ddefnyddio ffurf orchmynnol y ferf:
- Edrycha! (ffurf unigol/anffurfiol)
- Edrychwch! (ffurf luosog/ffurfiol)
- cofia strwythuro’r poster yn ofalus – oes dilyniant llyfn, ac ydy'r drefn yn gwneud synnwyr?
- noda’r holl wybodaeth angenrheidiol, ee y lleoliad i bobl ddod i’w weld
Mae’n bwysig bod dy boster yn edrych yn drawiadol ac yn hawdd i’w ddarllen felly:
- defnyddia luniau syml
- defnyddia liw
- paid â llwytho’r poster gyda gormod o wybodaeth – dewisa’r wybodaeth angenrheidiol yn unig
Cyn mynd ati i lunio dy boster, edrycha ar hwn.
Sut allet ti wella ar y poster yma? Beth sydd ar goll a beth allai fod yn well?


Gweithgaredd 2 / Activity 2
Yn y chwedl, mae Branwen yn ysgrifennu llythyr i’w brawd, y cawr Bendigeidfran, yn sôn am ba mor anhapus mae hi a pha mor wael mae’n cael ei thrin.
Dychmyga mai ti yw Branwen.Ysgrifenna lythyr yn ymbil ar Bendigeidfran i ddod i dy achub.Cofia, mae Bendigeidfran yn frawd i ti felly ysgrifenna’r llythyr mewn iaith anffurfiol.
Os nad wyt ti’n siŵr sut mae ysgrifennu llythyr, clicia neu bwysa ar y linc yma.
Dyma rai syniadau:
Medri di ddefnyddio ebychnodau i bwysleisio dy deimladau yn y llythyr. Cofia, mae gennyt ti deimladau cryf am dy sefyllfa di ar hyn o bryd!
Beth am ddechrau yn syth gyda dy deimladau? Rwyt ti eisiau rhoi portread llawn o dy sefyllfa i dy frawd. Er enghraifft:
- Dw i mor anhapus!
- Dw i mor ddigalon!
Beth am ddechrau gyda chwestiwn, gan fod y llythyr yn gofyn am gyngor? Er enghraifft:
- Be wnâi?
- Sut dw i’n dianc o’r sefyllfa yma?
Beth am ddechrau’n syth gyda’r naratif? Rwyt ti eisiau rhannu dy sefyllfa’n syth. Er enghraifft:
- Mae Matholwch wedi fy nghosbi ar gam!
- Dw i wedi fy ngharcharu yn y gegin!

Nodiadau i rieni
Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- adrodd chwedl Branwen ferch Llŷr yn hyderus
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- retell the tale of Branwen Ferch Llŷr with confidence

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
