
- Un cyflwyniad am lythyron a negeseuon e-bost
- Tri gweithgaredd i ddysgu mwy am sut i ysgrifennu llythyron a negeseuon e-bost
- One introduction to writing letters and emails
- Three activities to learn more about writing letters and emails


Llythyr
Pwrpas llythyr yw rhannu gwybodaeth gyda rhywun arall. Galli di gael llythyrau ffurfiol ar gyfer ysgrifennu at bobl mewn awdurdod er enghraifft, ac anffurfiol ar gyfer ffrind neu rywun rwyt ti’n ei adnabod yn dda.
Wrth fynegi barn neu berswadio gan amlaf mae angen llythyr ffurfiol.
Llythyr ffurfiol - iaith ac arddull
- Rhaid gosod dy gyfeiriad personol, a chyfeiriad y person sydd yn derbyn y llythyr ar dop y llythyr.
- Rhaid dechrau’r llythyr gyda chyfarchiad, ee Annwyl Syr neu Fadam; Annwyl Ms Jones; Annwyl Dr Roberts.
- Rhaid defnyddio ail berson lluosog – chi/eich – wrth gyfeirio at dderbynnydd y llythyr er mwyn dangos parch a ffurfioldeb.
- Rhaid nodi pam rwyt ti’n ysgrifennu ar ddechrau’r llythyr, ee ysgrifennaf atoch…
- Rhaid cynnwys paragraffau i roi trefn ar y gwaith.
- Rhaid defnyddio iaith ffurfiol, ac felly osgoi defnyddio iaith lafar.
- Rhaid defnyddio’r ail berson lluosog – chi/eich.
- Rhaid ysgrifennu yn yr amser presennol i nodi pam rwyt ti'n ysgrifennu, yn yr amser gorffennol i nodi beth sydd wedi digwydd, ac yn y dyfodol i nodi beth hoffet ti ei weld yn digwydd.
- Rhaid defnyddio arddull mynegi barn, ee berfau gorchmynnol, cwestiynau rhethregol, ailadrodd a rhestru os oes angen.
- Rhaid gorffen y llythyr gyda ffarwél ffurfiol a dy enw llawn, ee Yr eiddoch yn gywir, Janet Jones. Yn gywir, Daniel Davies.
Llythyr anffurfiol neu bersonol – iaith ac arddull
- Rhaid gosod dy gyfeiriad personol, a chyfeiriad y person sydd yn derbyn y llythyr ar dop y llythyr.
- Rhaid dechrau’r llythyr gyda chyfarchiad anffurfiol, ee Helô Sara, Shwmae!; Annwyl Deiniol.
- Gellir defnyddio ail berson unigol – ti – wrth gyfeirio at dderbynnydd y llythyr fel pe baet yn siarad â nhw.
- Rhaid nodi pam rwyt ti’n ysgrifennu ar ddechrau’r llythyr, ee Rwy’n ysgrifennu atat ti i / er mwyn…
- Gellir cynnwys cwestiynau personol, ee Sut wyt ti’n cadw?
- Rhaid cynnwys paragraffau i roi trefn ar y gwaith.
- Gellir defnyddio iaith anffurfiol ac iaith lafar, ee Mam, roedd y lle ‘ma yn hyfryd!
- Rhaid ysgrifennu yn yr amser presennol i nodi pam rwyt ti'n ysgrifennu, yn yr amser gorffennol i nodi beth sydd wedi digwydd, ac yn y dyfodol i nodi beth hoffet ti ei weld yn digwydd.
- Rhaid gorffen y llythyr gyda ffarwél bersonol, ee Hwyl am y tro; Welai di’n fuan; Cariad; Oddi wrth; Cofion cynnes.

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Darllena'r enghraifft isod o lythyr yn mynegi barn.
Annwyl Syr/Madam,
Ysgrifennaf atoch i gyhoeddi fy nicter tuag at gynlluniau i foddi Cwm Celyn. Ar ôl cysylltu gydag aelodau o gymuned Capel Celyn, mae’n amlwg fod y rhan helaeth yn cytuno bod hyn yn warthus. Hoffwn gynrychioli barn pobl y cwm a barn eraill ledled Cymru yn y llythyr hwn.
Yn gyntaf, hoffwn sôn am y cenedlaethau a’r teuluoedd sydd wedi adeiladu pentref, neu’n hytrach, cymuned ers canrifoedd. Heb Gwm Celyn, does dim cartrefi, dim bywoliaeth a dim swyddi gan gymdogion y cwm. Petaech chi’n boddi’r cwm, byddech chi hefyd yn boddi cenedlaethau o fywydau. Dychmygwch eich teulu chi yn gorfod gadael eu pentref a’u holl atgofion! Fyddech chi’n eistedd yn ôl a gadael i’r fath beth ddigwydd?
Yn gywir,
Deian Llwyd
Noda ble mae enghreifftiau o’r nodweddion arddull canlynol:
- berfau gorchmynnol
- cyfarch y darllenydd
- cwestiynau rhethregol
- ailadrodd/rhestru
Clicia yma i weld ble mae'r nodweddion arddull yn cael eu defnyddio

Neges e-bost
Ffurf fwy diweddar o lythyr yw neges e-bost. Pwrpas neges e-bost yw i roi gwybodaeth neu ofyn am wybodaeth. Gall e-bost fod yn ffordd o gysylltu gydag eraill i fynegi barn am bwnc.
Arddull
- Rhaid i ti nodi cyfeiriad e-bost y person sydd yn derbyn yr e-bost a nodi gan bwy mae’r e-bost.
- Rhaid i ti nodi beth yw pwnc yn yr e-bost yn y blwch ‘Pwnc’.
- Rhaid i ti ddechrau neges e-bost ffurfiol drwy ddefnyddio termau cyfarch, ee Annwyl Syr/Madam.
- Rhaid i ti ofyn cwestiynau addas er mwyn cael gwybodaeth yn ôl.
- Rhaid i ti gynnwys technegau, ee ailadrodd, cwestiynau rhethregol, rhestru os bydd angen.
Enghraifft o neges e-bost ffurfiol
Annwyl Mr Owen,
Rwy’n cysylltu â chi heddiw er mwyn cael ychydig mwy o wybodaeth am y swydd Prif Gogydd yn eich bwyty ‘Cwmni Blas’ yn Nhre’r Sosban. Gwelais yr hysbyseb yn y papur newydd lleol.
Rwy'n meddwl ymgeisio am y swydd a hoffwn gael mwy o wybodaeth am delerau’r swydd hon. Hoffwn wybod a fydd angen i mi weithio ar y penwythnosau. A hefyd a fydd posib i mi gael cynllunio fy mwydlen fy hun yn hytrach na dilyn y fwydlen bresennol?
Rwy'n awyddus iawn i ymgeisio am y swydd hon a byddaf yn ysgrifennu llythyr cais ac yn ei yrru atoch yn fuan. Rwy’n berson gweithgar iawn ac mae gen i lawer iawn i’w gynnig i chi ar gyfer agor eich bwyty.
Edrychaf ymlaen at glywed yn ôl gennych yn fuan ac rwy’n gobeithio y bydd fy llythyr cais yn eich plesio.
Cofion cynhesaf,
Mari Hughes

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Ysgrifenna neges e-bost at ffrind yn sôn am benwythnos hwylus rwyt ti newydd ei gael.
Cofia ystyried y canlynol cyn i ti ffurfio dy neges e-bost bersonol.
- Rhaid i ti ddechrau neges e-bost bersonol drwy ddefnyddio termau cyfarch anffurfiol, ee Helô Hana, Shwmae Siôn!
- Rhaid i ti ofyn cwestiynau addas er mwyn cael gwybodaeth yn ôl.
- Rhaid i ti gynnwys technegau, ee ailadrodd, cwestiynau rhethregol, rhestru os bydd angen.
- Gellir defnyddio iaith anffurfiol ac iaith lafar, ee Hana, roedd Dydd Sadwrn yn anhygoel!

Gweithgaredd 3 / Activity 3
Dychmyga dy fod yn trefnu disgo. Ysgrifenna lythyr ffurfiol yn perswadio’r prifathro i gael cynnal y disgo yn neuadd yr ysgol.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
