
Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i sut i dreiglo'n feddal gydag ansoddeiriau ac adferfau
- Tri gweithgaredd i ymarfer treiglo'n feddal gydag ansoddeiriau ac adferfau
Lesson content
- One introduction on how to use the soft mutation with adjectives and adverbs
- Three activities to practise using the soft mutation with adjectives and adverbs

Y treiglad meddal
Mae treiglo yn elfen bwysig iawn os wyt ti am siarad ac ysgrifennu’n gywir yn Gymraeg.
Y treiglad mwyaf cyffredin yn Gymraeg yw’r treiglad meddal.
Mae nifer fawr o reolau ar gyfer pryd i ddefnyddio’r treiglad meddal, ond bydd y wers hon yn canolbwyntio ar y rheolau sy’n ymwneud ag ansoddeiriau ac adferfau yn unig.
Dyma dabl o’r llythrennau sy’n treiglo feddal a’r newid sy’n cymryd lle.
| Llythyren | Ansoddair/Adferf | Ansoddair/Adferf wedi ei dreiglo'n feddal | |
|---|---|---|---|
| p > b | pwysig | bwysig | |
| t > d | trwm | drwm | |
| c > g | cyflym | gyflym | |
| b > f | budr/brwnt | fudr/frwnt | |
| d > dd | diddorol | ddiddorol | |
| g > - | gweddol | weddol | |
| ll > l | llithrig | lithrig (ond ddim ar ôl 'yn') | |
| m > f | mewnol | fewnol | |
| rh > r | rhyfeddol | ryfeddol (ond ddim ar ôl 'yn') |
Cofia mai:
- gair sy’n disgrifio enw yw ansoddair
- gair sy'n disgrifio berf yw adferf
Wrth ddefnyddio ansoddeiriau ac adferfau, mae rheolau penodol dylet ti eu dilyn.
1. Ar ôl rhai arddodiaid
Rhaid treiglo ansoddeiriau sy’n dechrau gyda c, p, t, g, b, d, ll, m, rh ar ôl yr arddodiaid hyn:
am, ar, at
dan, dros, drwy
wrth, gan, hyd
heb, i, o
- bendigedig > am fendigedig!
- rhad > ofnadwy o rad
- gwahanol > Anfonwyd y gwahoddiadau i wahanol bobl.
I ddysgu rhagor am yr arddodiaid a’r treiglad meddal, cer i’r wers ar Arddodiaid.
2. Ansoddeiriau, ansoddeiriau cymharol ac adferfau yn dilyn yr ‘yn’ traethiadol
Swyddogaeth yr ‘yn’ traethiadol yw cyflwyno beth yw rhywbeth. Mae'r 'yn' traethiadol yn gallu cyflwyno ansoddair neu adferf. Rhaid defnyddio'r treiglad meddal ar ôl yr 'yn' traethiadol.
Ansoddeiriau: enghreifftiau
Yn Gymraeg, rhaid defnyddio’r ‘yn’ traethiadol i gyflwyno ansoddair os nad yw’n dilyn enw.
- coch > yn goch
- bendigedig > yn fendigedig
- parhaol > yn barhaol
- tal > yn dal
- tal > yn dalach na(g)…
- creulon > yn greulon
- creulon > yn fwy creulon na(g)…
Ond cofia, does dim rhaid defnyddio’r treiglad meddal ar gyfer ‘ll’ a ‘rh’ pan maent yn dilyn yr ‘yn’ traethiadol:
- llym > mae'r athro yn llym
- rhad > mae'r llyfr yn rhad
Adferfau: enghreifftiau
Mae adferfau yn disgrifio berfau ac yn cynnig mwy o wybodaeth am y weithred. Mae'r 'yn' traethiadol yn cyflwyno adferf.
Cofia fod angen treiglad meddal ar ôl yr 'yn' traethiadol:
- cyflym > rhedeg yn gyflym
- tawel > siarad yn dawel
- parhaus > cwyno yn barhaus
- trwm > cysgu yn drwm
Does dim rhaid defnyddio’r treiglad meddal ar gyfer adferfau sy’n dechrau gydag ‘ll’ a ‘rh’ pan maent yn dilyn yr ‘yn’ traethiadol:
- llyfn > nofio yn llyfn
- rheolaidd > darllen yn rheolaidd
3. Ansoddeiriau sy’n dilyn ‘gweddol’, ‘lled’, ‘rhy’
- cryf > yn weddol gryf
- tenau > yn rhy denau
- byr > yn lled fyr
- caled > yn rhy galed
4. Ar ôl ‘mor / cyn’ wrth gymharu ansoddeiriau neu ddefnyddio ansoddeiriau cyfartal
- tywyll > mor dywyll / cyn dywylled â/ag…
- poeth > mor boeth / cyn boethed â/ag
- tal > cyn daled â/ag…
- creulon > mor greulon â/ag
5. Mae angen treiglad meddal ar gyfer ansoddeiriau sy’n dilyn enw benywaidd unigol
Mae ansoddeiriau yn disgrifio enwau, ac weithiau mae modd defnyddio ansoddair yn syth ar ôl enw, ee cath dda.
- merch + tal > merch dal
- gardd + mawr > gardd fawr
- cath + bach > cath fach
- ffrog + coch > ffrog goch
6. Ansoddair yn y radd eithaf pan wyt ti’n cyfeirio at enw benywaidd
- tal > y dalaf (er enghraifft, cyfeirio at y ferch fwyaf tal)
- gorau > yr orau (er enghraifft, cyfeirio at y gath orau)

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Llenwa'r bylchau canlynol gyda’r ansoddair wedi’i dreiglo’n feddal.
- Roedd y dyn yn _______. (cryf)
- Nid oedd Dafydd yn _______ iawn am golli’r bws. (trist)
- Mae Mari’n _______ heddiw am iddi fynd i’r gwely’n hwyr neithiwr. (cysglyd)
- Dydw i ddim yn hoffi afalau – maen nhw’n _______. (ofnadwy)
- Roedd yr athrawes yn hoffi ei hystafell yn _______ (taclus) ac yn _______. (trefnus)
- Mae’r llyfr hwn yn cynnwys gwybodaeth sy’n _______ i mi. (diddorol)
- Hoffwn i fod yn _______ (tal) fel Dad.
- Roedd Myrddin y dewin yn _______ (medrus) tu hwnt.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Noda’r enwau benywaidd unigol sydd yn y rhestr isod.
- merch bert
- llyfr glas
- basged binc
- coes flewog
- blodyn tal
- drws mawr
- hosan gynnes
Pa reol sy'n dy helpu di i adnabod enw benywaidd unigol o’r rhestr?

Gweithgaredd 3 / Activity 3
Llenwa’r bylchau isod gyda’r adferfau coll. Mae'r opsiynau wedi eu rhestu isod.
- Roedd Mair fel arfer yn rhedeg yn ________.
- Cysgais yn ________ neithiwr!
- Rwyt ti’n gweithio’n ________ ar gyfer dy arholiadau.
- Edrychais ar y llun yn ________ er mwyn gweld y maylion arbennig.
- Siaradodd Sam yn ________ pan gerddodd i mewn i'r llyfrgell.
Opsiynau
- tawel
- caled
- cyflym
- trwm
- manwl

Cwis
Ceisia wneud y cwis canlynol i brofi dy hun.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
