Stori Blodeuwedd

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un fideo yn adrodd stori Blodeuwedd
  • Syniadau ar gyfer arddull ysgrifennu ymson
  • Un gweithgaredd yn ymarfer ysgrifennu ymson Blodeuwedd

Lesson content

  • One video telling Blodeuwedd’s story
  • Ideas on the language to use when writing a monologue/soliloquy
  • One monologue/soliloquy writing activity based on the story of Blodeuwedd
Llinell / Line

Blodeuwedd

Mae stori Blodeuwedd yn ymddangos ym mhedwaredd Gainc y Mabinogi, sef chwedl Math fab Mathonwy. Hanes merch a gafodd ei chreu o flodau gan y dewin Gwydion a Math yw hi.

Llinell / Line

Fideo / Video

Stori Blodeuwedd

Llinell / Line

Ymson Blodeuwedd

Mae sawl cyfle ar gyfer ymson gan Blodeuwedd yn y stori:

  • ar ôl i Lleu ei gadael i fynd i weld Math
  • ar ôl iddi hi a Gronw Pebr benderfynu lladd Math
  • ar ôl i Gwydion ei throi’n dylluan

Ymson Blodeuwedd ar ôl iddi gael ei throi’n dylluan

Mae Gwydion yn dial ar Blodeuwedd am fradychu Lleu pan gwympodd mewn cariad gyda Gronw Pebr ac yna ceisio ei ladd er mwyn priodi Gronw. Mae Gwydion yn dewis peidio â'i lladd ond yn hytrach ei throi’n dylluan.

Llinell / Line

Arddull ysgrifennu ymson

Cofia ddefnyddio’r arddulliau ysgrifennu yma:

  • defnyddia dy synhwyrau er mwyn disgrifio dy deimladau a dy feddyliau
  • gwna ddefnydd o ansoddeiriau, cyffelybiaethau, trosiadau ac yn y blaen i ddisgrifio’n fyw a dal sylw’r darllenydd
  • defnyddia amser presennol y ferf

Enghraifft - “Sylwaf ar y tywyllwch sydd wedi cau amdanaf fel llen.”

Llinell / Line
  • edrycha yn ôl ar ddigwyddiadau’r gorffennol a thrafoda’r dyfodol a dy obeithion

Enghraifft - “Cofiaf weld wyneb Lleu am y tro cyntaf wedi i Gwydion fy nghreu, a gwyddwn na allwn ei garu.”

Llinell / Line
  • defnyddia frawddegau hir a byr i ddangos bod dy feddyliau’n neidio o un peth i’r llall

Enghraifft - “Dyma fi! Tylluan unig y goedwig heb obaith a heb neb i fy ngharu. Dyma fy nhynged nawr am fradychu Lleu. Dyw e ddim yn deg!”

Llinell / Line
  • defnyddia gwestiynau rhethregol

Enghraifft - “Pam wnaethon nhw hyn i mi? Oeddwn i’n haeddu’r fath driniaeth?”

Llinell / Line
  • cyfeiria at dy synhwyrau

Enghraifft - “Sylwaf ar y byd yn symud yn ei flaen tra swatiaf fan hyn yn oerni’r nos heb ffrind na theulu”.

Os nad wyt ti’n siŵr sut mae ysgrifennu ymson, clicia neu bwysa ar y wers 'Cynllunio ymson'.

Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Ti yw Blodeuwedd. Ysgrifenna ymson sy’n rhannu dy deimladau ar ôl i ti gael dy droi’n dylluan.

Galli ddefnyddio’r sgerbwd syniadau isod er mwyn rhoi strwythur i gynnwys dy waith.

Paragraff 1
Sut ydw i (Blodeuwedd) yn teimlo’r funud hon ar ôl cael fy nhroi’n dylluan? Beth alla i ei weld, arogli a chlywed o fy nghwmpas? Ydw i’n ofnus ac yn bryderus o fod yn y sefyllfa hon? Pa fath o ddyfodol sydd o fy mlaen i yn y goedwig hon?

Paragraff 2
Disgrifia dy deimladau a dy feddyliau wrth i ti hel atgofion am dy berthynas gyda Lleu.

Paragraff 3
Disgrifia sut roedd Gronw Pebr yn edrych a pha fath o bersonoliaeth oedd ganddo. Ym mha ffyrdd roedd e’n wahanol i Lleu? Sut oedd e wedi dy ddenu a dy hudo?

Paragraff 4
Esbonia’r camau oedd angen eu cymryd er mwyn ei ladd – a oedd y tasgau’n galed? Beth fu’n rhaid gwneud?

Paragraff 5
Disgrifia’r hyn ddigwyddodd a sut newidiodd Lleu yn eryr – sut oeddet ti’n teimlo wedi i ti lwyddo? Oeddet ti’n drist neu’n gyffrous o’i weld yn troi’n eryr ac yn diflannu i dywyllwch y nos?

Paragraff 6
Sut wyt ti’n teimlo ar y funud hon? A oedd y cyfan werth e?

Llinell / Line

Nodiadau i rieni

Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn:

  • gyfarwydd â stori Blodeuwedd
  • yn medru ysgrifennu ymson gan Blodeuwedd

Notes for parents

After completing the lesson, students will be:

  • familiar with Blodeuwedd’s story
  • able to write a monologue/soliloquy by Blodeuwedd

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU