Ynglŷn â’r Rheolau
Mae’r BBC yn rhoi cyfle i wylwyr, gwrandawyr a darllenwyr ledled y DU i awgrymu stori er mwyn i dîm BBC Cymru ei hystyried fel rhan o'n harlwy ar gyfer etholiad y Senedd 2026.
Rydyn ni’n chwilio am syniadau gwych, straeon sy'n bwysig i chi neu faterion yr hoffech chi roi sylw iddynt.
Os caiff eich stori ei dewis, byddwch yn gweithio gyda newyddiadurwyr a chynhyrchwyr y BBC i droi eich syniad yn ddarn neu’n drafodaeth a fydd yn ymddangos ar y BBC. Gallai eich stori neu'ch syniad ymddangos ar deledu neu radio (naill ai’n fyw neu wedi’i recordio ymlaen llaw), yng nghynnwys ar-lein BBC News, BBC Sounds a/neu ffrydiau Cyfryngau Cymdeithasol y BBC. Mae angen i chi deimlo'n gyfforddus yn cael eich adnabod.
Nid oes angen unrhyw brofiad newyddiadurol arnoch chi i gyflwyno syniad neu stori. Rydyn ni eisiau bod mor gynhwysol â phosib – rhowch wybod i ni am unrhyw beth a allai fod angen addasiadau rhesymol er mwyn eich galluogi i gyflwyno stori neu syniad. Gallai hyn gynnwys unrhyw ofynion anabledd neu fynediad. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch [email protected]
Rheolau BBC Cymru: Dy Lais, Dy Bleidlais
Sut i gyflwyno
1. Rhannwch eich stori neu syniad drwy ein ffurflen ar-lein.
Cymhwysedd
2. Gall unrhyw un sy'n byw yn y DU, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw sydd yn 18 oed neu'n hŷn wneud cais am y Cyfle hwn. Ceisiadau unigol yn unig, ni dderbynnir ceisiadau gan grwpiau.
3. Bydd angen i chi roi eich enw, manylion cyswllt a lleoliad.
4. Bydd angen i chi rannu eich syniad neu stori, hyd at 250 o eiriau ysgrifenedig yn ateb y cwestiwn: Dywedwch wrthym am yr un mater sydd bwysicaf i chi yn etholiad y Senedd a pham?
5. Gofynnwn i chi ddatgan gydag “Ydw” neu “Nac ydw” os ydych chi'n ymgeisio am rôl wleidyddol, wedi dal rôl wleidyddol neu wedi bod yn rhan o sefydliad gwleidyddol neu ymgyrchu yn ystod y pymtheg (15) mlynedd ddiwethaf.
6. Bydd angen i chi gadarnhau eich oedran a gofynion cyflwyno cyn cyflwyno eich ffurflen.
7. Mae'r ffurflen yn agor ddydd Llun, 1af Medi 2025 am 06:00 a bydd yn cau ddydd Mercher, 6ed Mai 2026 am 17:00. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl yr amser hwn yn cael eu derbyn.
8. Bydd stori neu syniad yn cael ei darllen gan staff cynhyrchu’r BBC, a’i dewis ar sail:
- Teilyngdod golygyddol – cryfder ac addasrwydd y stori;
- Gwreiddioldeb a/neu bersbectif unigryw; a
- Cymhelliant dros adrodd y stori.
9. Os caiff eich stori neu syniad ei dewis, bydd staff cynhyrchu’r BBC yn cysylltu â chi yn ystod yr ymgyrch etholiadol, sy’n gorffen ar 6ed Mai 2026. Efallai y bydd angen i chi fod ar gael i gymryd rhan mewn recordiadau neu gyfweliadau yn ystod y cyfnod hwn. Efallai y bydd eich enw'n cael ei gyhoeddi ar radio neu deledu’r BBC, ar bbc.co.uk a/neu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y BBC.
10. Lle bo modd, bydd y tîm cynhyrchu yn ceisio gweithio o amgylch unrhyw ymrwymiadau sydd gennych yn barod. Serch hynny, os nad ydych ar gael ar yr adegau sy'n ofynnol gan y tîm cynhyrchu, mae’r BBC yn cadw'r hawl i dynnu’r Cyfle yn ôl, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, a dewis stori neu syniad arall.
11. Ni fydd y BBC yn rhoi adborth ar straeon neu syniadau. Mae penderfyniad y BBC ar y ceisiadau a ddewisir yn derfynol.
12. Os na ellir cysylltu â chi ar ôl ymdrechion rhesymol, mae’r BBC yn cadw'r hawl i dynnu eich cais yn ôl a symud ymlaen at yr ymgeisydd nesaf ar y rhestr fer.
Cyffredinol
13. Ni allwch fod yn gweithio neu wedi gweithio i’r BBC, aelodau staff Grŵp y BBC neu weithwyr llarwydd y BBC, neu unrhyw un sy'n gysylltiedig yn agos â'r Cyfle hwn.
14. Gall y tîm cynhyrchu gynnal gwiriadau cyfryngau cymdeithasol o ymgeiswyr y Cyfle hwn. Mae ymgeiswyr yn gwarantu nad ydynt wedi gweithredu nac wedi hepgor gweithredu mewn modd a fydd yn arwain at ddwyn anfri ar y BBC. Lle caiff ei farnu’n briodol, gall y BBC ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriadau DBS, a chytunir ar fanylion y rhain rhwng y BBC a’r ymgeisydd, os oes angen. Bydd gwybodaeth a ddarganfuwyd neu a allai fod wedi'i datgelu gan yr ymgeiswyr eu hunain yn llywio'r penderfyniad o ran dewis y stori neu syniad. Ni fydd gwaharddiad yn awtomatig, ond mae'r penderfyniad yn ôl disgresiwn llwyr y BBC. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda chynghorwr polisi golygyddol y BBC ar gyfer y Cyfle hwn ac yn cael ei drin yn gyfrinachol iawn ac fel gyda phob data personol, yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd y BBC.
15. Dim ond un cais fesul cyfeiriad e-bost fydd yn ddilys; ni fydd unrhyw geisiadau dilynol yn cael eu darllen.
16. Dim ond pan gânt eu cyflwyno drwy'r ffurflen ar-lein y bydd ceisiadau’n cael eu hystyried.
17. Rhaid i'ch cais (i) fod yn waith gwreiddiol eich hun, (ii) peidio â difenwi na thorri unrhyw hawlfraint, a (iii) peidio â thorri hawliau unrhyw barti arall na chynnwys unrhyw beth y gellid ei ystyried yn dramgwyddus neu'n amhriodol. Nid yw’r BBC yn derbyn unrhyw atebolrwydd os yw ymgeiswyr yn anwybyddu'r Rheolau hyn ac mae ymgeiswyr yn cytuno i indemnio'r BBC yn llawn yn erbyn unrhyw hawliadau gan unrhyw drydydd parti sy'n deillio o dorri'r Rheolau hyn.
18. Dylai eich cais fod yn addas ar gyfer cynulleidfa deuluol. Bydd unrhyw ddeunydd yr ystyrir yn anaddas, fel cynnwys iaith dramgwyddus, ddim yn wreiddiol (copi neu enghraifft o lên-ladrad), cynrychioli neu hyrwyddo ymddygiad troseddol neu wrthgymdeithasol, themâu oedolion, a gwaith y gellid ei ystyried fel ymosodiad ar unigolion neu grwpiau, yn cael ei dynnu o'r broses a'i wahardd.
19. Dylai ymgeiswyr gadw copi oherwydd ni fydd unrhyw geisiadau’n cael eu dychwelyd. Rhaid i geisiadau fod yn addas i'w darlledu neu eu cyhoeddi gan y BBC. Am wybodaeth bellach, gweler Canllawiau Golygyddol y BBC a Thelerau Defnyddio’r BBC.
20. Ni chaniateir defnyddio offer deallusrwydd artiffisial (AI) cynhyrchiol i greu neu ddatblygu unrhyw ran o gais, a bydd yn arwain at waharddiad.
21. Mae’r BBC yn cydnabod bod perchnogaeth unrhyw hawliau eiddo deallusol yn y cais yn parhau gyda'r ymgeisydd, ond drwy wneud cais, mae pob ymgeisydd yn rhoi'r hawl i’r BBC ddefnyddio neu atgynhyrchu, yn rhad ac am ddim, eu cais neu ran ohono, at ddiben y Cyfle, gan gynnwys rhoi cyhoeddusrwydd iddo ym mhob cyfrwng am byth ledled y byd, cyflawni'r Cyfle ac unrhyw gyhoeddusrwydd/sylw cysylltiedig ar unrhyw wasanaeth neu sianel y BBC, ar-lein, cwmnïau Grŵp y BBC neu ei drydydd partïon dethol.
22. Nid oes taliad na gwobr am eich cais nac am gymryd rhan yn y Cyfle hwn ac unrhyw ddarllediadau neu gyfweliadau ar ôl hynny.
23. Os yw'n berthnasol, rydych chi'n cytuno i ymrwymo i unrhyw gytundeb sy'n ofynnol er mwyn cymryd rhan yn y Cyfle hwn.
24. Nid yw'r Cyfle hwn yn cyfyngu nac yn ymyrryd ag unrhyw allbwn cyfredol y BBC neu allbwn y BBC yn y dyfodol. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i gyhoeddi cynnwys cyfredol neu newydd ar yr un pynciau neu bynciau tebyg i'ch cais.
25. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i wrthod eich cais os ydych chi wedi darparu manylion personol a/neu wybodaeth gelwyddog, anghywir, neu gamarweiniol, a/neu wedi methu â chydymffurfio â'r Rheolau hyn.
26. Efallai y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwch i wirio'ch cymhwysedd, gan gynnwys eich oedran a'ch hunaniaeth yn ogystal â gwiriadau cyfryngau cymdeithasol a gwiriadau cefndir. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i atal cynnydd unrhyw ymgeisydd yn dilyn y gwiriadau hyn.
27. Ystyriwch breifatrwydd unrhyw un adnabyddadwy a allai gael ei grybwyll yn eich cais. Efallai y bydd angen i ni gadarnhau gyda chi eu bod yn hapus i’r cais gyfeirio atynt a/neu eu cynnwys.
28. Rydych yn cytuno i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd rhesymol ar gyfer y Cyfle hwn.
29. Ni ellir dal y BBC yn gyfrifol am unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl sy'n ymwneud â gorfod canslo neu ohirio’r Cyfle hwn.
30. Ni allwch ddefnyddio nac atgynhyrchu unrhyw enwau rhaglenni, brandiau na logos sy'n gysylltiedig â'r Cyfle hwn mewn unrhyw ffordd.
31. Caiff ymgeiswyr eu hatgoffa na ellir defnyddio eu cyfranogiad yn y Cyfle mewn hysbysebion neu hyrwyddiadau masnachol, i ddenu cyllid allanol, i lobïo neu ymgyrchu, neu i ddenu rhoddion. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau yn y meysydd hyn at y BBC ymlaen llaw.
32. I'r graddau y caniateir gan y gyfraith, ni fydd y BBC yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod (p'un a oedd y golled neu’r difrod wedi’i ragweld, gellid ei ragweld, yn hysbys neu fel arall) gan gynnwys colled ariannol, colli enw da neu siom.
33. Ni all y BBC, ei is-gontractwyr, ei is-gwmnïau a/neu ei asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw fethiant technegol neu gamweithrediad, nac am unrhyw broblem arall gydag unrhyw weinydd, rhwydwaith, system neu fel arall a allai arwain at beidio â chofrestru unrhyw gais yn iawn. Nid yw prawf o anfon yn brawf o dderbyn.
34. Ystyrir bod ymgeiswyr wedi derbyn y Rheolau hyn ac yn cytuno i fod yn rhwym iddynt.
35. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i: (i) diwygio’r Rheolau hyn; (ii) gwahardd unrhyw ymgeisydd sy’n torri’r Rheolau, wedi gweithredu'n dwyllodrus mewn unrhyw ffordd neu wedi dwyn anfri ar y BBC (yn ôl ei ddisgresiwn llwyr); (iii) lle bo'n berthnasol, gwahardd unrhyw ymgeisydd neu dynnu'n ôl neu roi unrhyw Gyfle yn ei le, os bydd unrhyw ymgeisydd, unrhyw bryd, yn arddangos ymddygiad amhriodol neu beryglus (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i fod dan ddylanwad alcohol, cyffuriau anghyfreithlon neu sylweddau cemegol neu achosi niwsans) cyn neu tra ar yr awyr neu wrth fynychu safleoedd y BBC; (iv) canslo neu ddiwygio'r Cyfle, ar unrhyw gam, os yw o'r farn ei fod yn angenrheidiol, os bydd amgylchiadau'n codi y tu hwnt i'w reolaeth, neu os nad yw ceisiadau’n cyrraedd y safon ofynnol.
36. Mae'r telerau a’r amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.
37. Mae Telerau Defnyddio’r BBC yn berthnasol i’r Cyfle hwn.