Mae eich ymddiriedaeth yn bwysig iawn i ni. Mae hyn yn golygu bod y BBC wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn fel eich bod yn ymwybodol o sut a pham rydyn ni’n defnyddio data personol o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod ac ar ôl eich perthynas â ni, yn unol â’r gyfraith diogelu data.
Pam rydyn ni'n gwneud hyn a sut allwch chi gymryd rhan?
Mae BBC Cymru yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd awgrymu stori er mwyn i dimau ei hystyried ym mlwyddyn yr etholiad. Gyda’n cynhyrchwyr, bydd gan y gynulleidfa gyfle i gyfrannu syniadau, er mwyn dod â phersbectif a lleisiau newydd i’n rhaglenni newyddion ar-lein, ar radio ac ar deledu.
I gofrestru eich diddordeb ac i gyflwyno syniad, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein. Bydd y BBC yn casglu’r data personol a restrir isod o’r ffurflen ar-lein hon.
Bydd cynhyrchwyr, newyddiadurwyr a golygyddion BBC Cymru yn adolygu’r hyn a gyflwynir a’r golygyddion fydd yn gwneud y penderfyniadau terfynol ar ba bynciau fydd y rhaglen yn mynd i’r afael â nhw er mwyn creu darn ar gyfer ein rhaglenni a’n gwefan. Bydd y darnau yn cael eu gwneud i gydymffurfio â safonau golygyddol y BBC.
Pan fyddwch chi'n cyfrannu at y BBC, efallai y byddwn yn defnyddio eich cyfraniad yn ein rhaglenni neu gynnwys, ond ni allwn addo defnyddio popeth a dderbyniwn. Os byddwn yn darlledu eich cyfraniad, gall hyn gynnwys bod y rhaglen ar gael ar-lein a/neu ar-alw, a gallai eich cyfraniad gael ei ddefnyddio eto mewn darllediad yn y dyfodol. Efallai y bydd eich cyfraniad yn cael ei ddefnyddio ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y BBC hefyd.
Am wybodaeth sy'n ymwneud â sut bydd y BBC yn prosesu eich data personol pan fyddwch chi’n darparu cyfraniadau i'n rhaglenni, gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd i Gyfranwyr fan hyn.
Pa ddata personol fydd y BBC yn ei gasglu a sut fyddwn ni'n ei ddefnyddio?
Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu’r data personol at ddibenion dewis grwpiau posib ac i gysylltu â nhw am eu syniadau a’u haddasrwydd.
Data personol:
Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i gymryd rhan.
Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol amdanoch chi:
- Enw llawn
- Oedran
- Rhif Ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Eich lleoliad (wedi'i restru yn ôl rhanbarthau BBC News)
- Eich ateb ynglŷn â'r hyn sy'n bwysig i chi yn yr etholiad hwn a pham
- Datganiad am eich rôl mewn rolau gwleidyddol neu ymgyrchoedd a sefydliadau
Efallai bydd y BBC hefyd yn prosesu datacategori arbennig yn dibynnu ar gynnwys yr hyn a gyflwynwch i ni. Gallai hyn gynnwys er enghraifft:
- Credoau crefyddol neu athronyddol
- Barn wleidyddol
Gwiriadau Cyfryngau Cymdeithasol
Byddwn yn cynnal gwiriadau sgrinio ar-lein a chyfryngau cymdeithasol ar bob cyfraniad yr hoffem ei gynnwys. Bydd y BBC yn storio data personol o negeseuon cyfryngau cymdeithasol a nodwyd fel rhai sy'n anghydnaws â'n gwerthoedd neu ganllawiau golygyddol.
Pwy yw’r Rheolwr Data?
Y BBC yw “rheolwr data” eich data personol. Mae hyn yn golygu bod y BBC yn penderfynu ar gyfer beth y defnyddir eich data personol, a'r ffyrdd y caiff ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, bydd eich data personol yn cael ei gasglu a'i brosesu at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn unig. Fel y rheolwr data, mae gan y BBC gyfrifoldeb i gydymffurfio a dangos cydymffurfiaeth â'r gyfraith diogelu data.
Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol
Y sail gyfreithlon y mae'r BBC yn prosesu eich data personol arni, a gasglwyd ar gyfer Eich Llais, Eich Pleidlais, yw perfformio ei rôl gyhoeddus. Rôl y BBC yw gweithredu er budd y cyhoedd ac i wasanaethu ei holl gynulleidfaoedd gyda chynnwys sy'n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.
Ar gyfer gwiriadau sgrinio ar-lein a chyfryngau cymdeithasol, y sail gyfreithiol yw ein buddiant dilys wrth sicrhau bod gwerthoedd unrhyw ymgeisydd ar gyfer y cyfle hwn yn cyd-fynd â'r BBC. Mae gennym hefyd rwymedigaeth i gadw at ganllawiau golygyddol. Rydyn ni wedi ystyried yr effaith arnoch chi yn ofalus ac ni fyddwn yn defnyddio eich data personol lle mae'r effaith yn drech na'n buddiannau ni.
Mae’r BBC yn prosesu’r data categori arbennig a gyflwynwch ar y sail gyfreithlon bod prosesu yn angenrheidiol amresymau budd y cyhoedd sylweddol yn seiliedig ar ddibenion 'statudol a llywodraethol'. Mae hyn oherwydd bod y BBC wedi’i greu i gynhyrchu’r allbwn a'r gwasanaethau mwyaf creadigol, o'r ansawdd uchaf ac unigryw er mwyn adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol holl genhedloedd a rhanbarthau'r DU.
Rhannu eich data personol
Mae’r BBC yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Dim ond ar ran y BBC y mae'r partneriaid hyn yn defnyddio'ch data personol ac nid yn annibynnol ar y BBC.
Mae’n bosib y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti lle mae’n ofynnol neu y caniateir i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Cadw eich data personol
Bydd y BBC yn cadw’r data personol a gyflwynwch ar gyfer Dy Lais, Dy Bleidlais am hyd at flwyddyn (1) ar ôl cyflwyno eich darn, ac ar ôl hynny caiff ei ddileu. Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y bydd y BBC yn cysylltu ynglŷn â chyfleoedd eraill rydyn ni’n credu y byddech chi/y grŵp yn addas ar eu cyfer.
Bydd y data personol sy'n perthyn i geisiadau a ddefnyddir yn ein rhaglenni yn cael ei gadw am gyfnod o saith (7) mlynedd, ac ar ôl hynny bydd yn cael ei ddileu.
Cedwir canlyniadau gwiriadau cyfryngau cymdeithasol am (1) flwyddyn.
Os darlledir eich cyfraniad, bydd eich data personol yn cael ei gadw a’i archifo am byth gan y BBC.
Bydd eich data personol yn cael ei storio o fewn y DU a’r AEE (Ardal Economaidd Ewropeaidd).
Eich hawliau a mwy o wybodaeth
Mae gennych chi hawliau o dan gyfraith diogelu data:
- Gallwch ofyn am gopi o'r data personol y mae'r BBC yn ei storio amdanoch chi.
- Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch.
- Mae gennych hawl i ofyn i’r data personol a gasglwn amdanoch gael ei ddileu, serch hynny, mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon, a all roi’r hawl i’r BBC wrthod eich cais.
- Mewn amgylchiadau penodol, mae gennych hawl i gyfyngu prosesu eich data personol neu i wrthwynebu prosesu eich data personol.
- Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu sefydliad arall, mewn amgylchiadau penodol.
Gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau, neu os ydych am gael mwy o fanylion am eich hawliau, ewch i Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC.
Os oes gennych bryderon ynglŷn â’r ffordd y mae’r BBC wedi trin eich data personol, gallwch godi eich pryderon gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn
Byddwn yn adolygu'r hysbysiad preifatrwydd os bydd newidiadau sylweddol i'r ffordd rydyn ni’n defnyddio eich data personol.