Penderfyniad Bwrdd y BBC ar ffioedd trwydded i bobl hŷn

Roedd yr ymgynghoriad hwn ar agor rhwng 20 Tachwedd 2018 a 12 Chwefror 2019, ac mae wedi dod i ben erbyn hyn

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae Bwrdd y BBC wedi penderfynu – o fis Mehefin 2020 ymlaen – y bydd gan unrhyw aelwyd â rhywun sydd dros 75 oed, ac sy’n cael Credyd Pensiwn, hawl i gael trwydded deledu am ddim, gyda’r BBC yn talu am y drwydded.

Ar hyn o bryd, mae gan bob aelwyd sy’n cynnwys rhywun dros 75 oed hawl i gael trwydded deledu am ddim. Bydd y cynllun hwnnw sy’n cael ei ariannu gan y Llywodraeth – ac y disgwylir iddo gostio £745m erbyn 2021/22 – yn dod i ben yn 2020. Cafodd y BBC y cyfrifoldeb – drwy ddeddfwriaeth – o benderfynu ar unrhyw gynllun yn y dyfodol ac o dalu amdano.

Mae’r Bwrdd yn credu mai dyma’r opsiwn tecaf i helpu’r pensiynwyr tlotaf. Dyma hefyd yr opsiwn tecaf i bawb sy’n talu ffi’r drwydded, oherwydd y bydd pawb yn dal i gael y gwasanaethau a’r rhaglenni gorau y gall y BBC eu darparu.

Gallai dros 1.5 miliwn o aelwydydd gael trwyddedau teledu am ddim os bydd rhywun o'r aelwyd honno dros 75 oed ac yn cael Credyd Pensiwn.

Bydd y cynllun newydd yn costio hyd at £250 miliwn i’r BBC erbyn 2021/22, gan ddibynnu ar y broses o roi hyn ar waith.

Wrth wneud y penderfyniad, mae’r Bwrdd wedi cael ei lywio gan dair egwyddor allweddol:

  • Tegwch – yr effaith bosib ar grwpiau oed hŷn, a’r effaith bosib ar bawb sy’n talu ffi’r drwydded, ar draws yr holl genedlaethau.
  • Effaith ariannol – cost unrhyw gonsesiwn i’r BBC, ac effaith bosib hynny ar raglenni a gwasanaethau.
  • Ymarferoldeb – y gallu i gyflwyno unrhyw gonsesiwn newydd mewn ffordd syml ac effeithiol.

Mae dogfen penderfyniad y Bwrdd, yr Asesiad cyfredol o’r Effaith ar Gydraddoldeb, a’r dystiolaeth ategol a ddefnyddiwyd i lywio penderfyniad Bwrdd y BBC wedi’u cyhoeddi isod, ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriad rydym wedi cael caniatâd i’w cyhoeddi.

Os ydych chi’n cael trwydded deledu am ddim ar hyn o bryd, gallwch ddarllen mwy ynghylch beth mae’r penderfyniad hwn yn ei olygu i chi yma.

Penderfyniad y BBC

Mae’r ddogfen hon yn disgrifio sut mae Bwrdd y BBC wedi gwneud ei benderfyniad, a pha ffactorau mae wedi’u hystyried.

Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb

Rydym hefyd yn cyhoeddi Asesiad cyfredol o’r Effaith ar Gydraddoldeb. Cafodd yr Asesiad ei ystyried gan y Bwrdd wrth iddo wneud ei benderfyniad.

Ymatebion i'r ymgynghoriad a thystiolaeth ategol

Ar 20 Tachwedd 2018, agorodd y BBC ymgynghoriad 12 wythnos ar drwyddedau teledu i bobl hŷn. Fe wnaeth dros 190,000 o bobl rannu eu safbwyntiau â ni. Mae’r safbwyntiau hynny wedi’u nodi mewn pedwar adroddiad a gomisiynwyd gan y BBC. Rydym yn cyhoeddi’r adroddiadau hyn yn llawn:

Ymatebion gan randdeiliaid

Cawsom 115 o ymatebion gan randdeiliaid. Os oes caniatâd wedi'i roi neu os yw’r ymatebion wedi’u cyhoeddi’n barod, bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi isod:

Yr Ymgynghoriad (wedi dod i ben erbyn hyn)

Roedd ymgynghoriad y BBC ar drwyddedau teledu i bobl hŷn ar agor rhwng 20 Tachwedd 2018 a 12 Chwefror 2019, ac mae wedi dod i ben erbyn hyn.

Ochr yn ochr â’r dogfennau hyn, mae’r BBC hefyd wedi cyhoeddi adroddiad sydd wedi’i baratoi gan gwmni ymgynghoriaeth economaidd allanol, Frontier Economics. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad manwl o’r ffyrdd posib o ddelio â’r penderfyniad newydd yr oedd yn rhaid i Fwrdd y BBC ei wneud. Hefyd, mae Frontier Economics wedi cyhoeddi papur trafod cysylltiedig, yn trafod sut mae'r sefyllfa wedi newid ers 2000, tegwch rhwng y cenedlaethau a’r newid yn y cyd-destun ariannol.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: