Comisiynu Radio Cymru

Rowndiau Comisiynu Cyfredol ar gyfer Radio Cymru a BBC Sounds yn Gymraeg
1. Podlediadau Cymraeg - Lleisiau Cymru
Mae’n bleser cyhoeddi y rownd gomisiynu ar gyfer podlediadau Cymraeg 2026-27.
Eleni rydyn ni ni’n comisiynu podlediadau yn benodol ar gyfer Lleisiau Cymru - casgliad o bodlediadau amrywiol lle mae pob math o leisiau yn cael eu clywed; yr hyn sy’n gyffredin iddyn nhw i gyd yw y cyfle i glywed profiadau a straeon pobol.
Mae manylion am y gofynion a’r disgwyliadau golygyddol fan hyn: Lleisiau Cymru (diweddarwyd 16 Chwefror 2026)
Nodyn am y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y broses gomisiynu a chyfleu
Rydyn ni’n gofyn i'n cyflenwyr i gyd i ystyried unrhyw ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn ofalus, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd gyda gwerthoedd golygyddol y BBC parthed disgwyliadau’r gynulleidfa ac ymddiriedaeth.
Os ydych chi’n llwyddiannus yn y broses gomisiynu ac yn ystyried defnyddio deallusrwydd artiffisial o fewn y rhaglen yna mae gofyn i chi drafod hyn o’r dechrau gyda’ch uwch gynhyrchydd.
Mae canllawiau golygyddol y BBC wedi eu diweddaru o Fedi 2025, ac mae'r fersiwn ddiweddaraf fan hyn: https://www.bbc.com/editorialguidelines/guidelines Mae modd lawrlwytho y canllawiau yn Gymraeg fel dogfen pdf.
Amserlen y Rownd Gomisiynu Podlediad Troseddol
- 09 Chwefror 2026 – rownd yn agor
- 03 Mawrth 2026 am ganol dydd – rownd yn cau
- Erbyn 6 Mawrth 2026 – cadarnhau y rhestr fer
- Wythnos y 16 Mawrth 2026 - cyfweliadau
Os oes newid sylweddol i'r amserlen yna fe wnawn ni gysylltu gyda’r cwmnïau sydd wedi cyflwyno syniadau er mwyn rhoi gwybod.
Y Tîm Comisiynu
Gruffudd Pritchard – Golygydd Cynnwys
Gareth Iwan Jones – Uwch Gynhyrchydd
Sioned Lewis – Uwch Gynhyrchydd
Cerian Arianrhod – Rheolwr Amserlennu
Cyflwyno syniad i’r rownd gomisiynu
Mae gofyn i bawb cyflwyno eu ceisiadau cyn 12:00 ar 03 Mawrth 2026. Ni fydd modd derbyn syniadau sy’n cael eu cyflwyno wedi hynny.
Fe fydd nifer o’n cyflenwyr yn ymwybodol bod y BBC yn newid i ddefnyddio system o’r enw PiCos ar gyfer comisiynu. Nid yw Radio Cymru wedi gwneud y newid yma eto ac felly, ar gyfer y rownd yma mae gofyn i chi gyflwyno syniadau trwy system Proteus.
https://proteus-pitching.tools.bbc.co.uk
Ond, os ydych chi'n newydd i'r broses gomisiynu yna mae gofyn i ni greu cyfrif PiCos ar eich cyfer chi yn gyntaf, cyn medru creu cyfrif Proteus. Cysylltwch gyda Syniadau@bbc.co.uk cyn gynted â phosib i drefnu hyn gan fod y broses yna’n cymryd amser.
Rydyn ni’n croesawi syniadau gan unigolion yn ogystal â chwmnïau. Plîs nodwch, petai chi’n derbyn comisiwn mae’n bosib y byddwn yn gofyn i chi weithio trwy gwmni yn hytrach nag fel unigolyn (h.y. sefydlu cwmni neu gydweithio gyda chwmni arall). Fe wnawn ni drafod hyn gyda chi wrth gomisiynu.
Os am sgwrs cyn cyflwyno cynnig yna cysylltwch gyda Syniadau@bbc.co.uk
Sut i gynnig syniad yn Proteus
Cynnig syniad yn Proteus (agorir fel PDF).
Mwy o wybodaeth am Proteus ar gyfer cyflenwyr annibynnol Proteus Guides
Gofynion pan yn cyfleu rhaglenni i Radio Cymru
Mae gofyn cyfleu rhaglenni gorffenedig o leiaf pythefnos cyn y dyddiad darlledu / cyhoeddi ar Sounds, yn ogystal â chyfleu’r holl waith papur deuddydd gwaith cyn y darllediad.
Ffurflen Manylion Darlledu Radio Cymru
Dylid cyfleu ffeiliau sain drwy Dropbox ar y fformat WAV (.wav) - PCM llinol, 48 kHz, 16 bit.
I weld y fanyleb dechnegol lawn ar gyfer BBC Radio a BBC Sounds, gweler Gwybodaeth a Safonau Ansawdd Sain
Peidiwch aros tan y funud ola’ cyn gofyn am gyfrif PiCoS / Proteus nag ychwaith i gyflwyno eich syniadau. Fe fydd y rownd yn cau am hanner dydd ar 3 Mawrth 2026.
Rowndiau eraill
Does dim rowndiau comisiynu arall ar agor gan Radio Cymru ar hyn o bryd. Os hoffech i ni eich hysbysu pan yn agor rownd newydd, neu am drafod syniad yna cysylltwch gyda Syniadau@bbc.co.uk os gwelwch yn dda.





