EMMA:
Mae ci newydd gyda ni. Smotyn.
We have a new dog. Smotyn.
NICOLA:
Pam Smotyn?
Why Smotyn?
EMMA:
Mae smotyn du gyda fe.
He has a black spot.
NICOLA:
Does dim ci gyda fi ond mae cwningen gyda fi. Fflwff.
I don't have a dog but I do have a rabbit. Fflwff.
EMMA:
Pam Fflwff?
Why Fflwff?
NICOLA:
Mae fflwff gwyn gyda hi.
She has white fluff.
EMMA:
Mae Smotyn yn byw mewn cwb ar y fferm.
Smotyn lives in a kennel on the farm.
NICOLA:
Mae Fflwff yn byw mewn cwt yn yr ardd.
Fflwff lives in a hut in the garden.
EMMA:
Oes cath gyda ti?
Do you have a cat?
NICOLA:
Nac oes, does dim cath gyda fi ond mae mwnci gyda fi.
No, I haven't got a cat but I do have a monkey.
EMMA:
Mwnci?
A monkey?
NICOLA:
Ie. Mwnci. Mae brawd gyda fi!
Yes, a monkey. I have a brother!