GERAINT:
Uplands, os gwelwch chi'n dda.
Uplands, please.
GYRRWR TACSI:
Ble yn Uplands dych chi'n byw?
Where in Uplands do you live?
GERAINT:
Forrest Road, os gwelwch chi'n dda.
Forrest Road, please.
MARIAN:
Mae hi'n oer, on'd yw hi.
It's cold, isn't it?
GYRRWR TACSI:
Nac ydy.
No.
MARIAN:
Hy!
Huh!
GYRRWR TACSI:
Sut roedd y gwyliau?
How was the holiday?
GERAINT:
Grêt, diolch. Roedd hi'n braf iawn yn Tenerife. Sut roedd y tywydd yma?
Great, thanks. It was very fine in Tenerife. How was the weather here?
GYRRWR TACSI:
Wel, roedd hi'n bwrw glaw dydd Sadwrn a dydd Sul, ond mae hi'n braf iawn ers dydd Llun.
Well, it was raining on Saturday and Sunday, but it's been very fine since Monday.
MARIAN:
Hy!
Huh!
GERAINT:
Sut bydd y tywydd yfory?
What's the weather for tomorrow?
GYRRWR TACSI:
Bydd hi'n braf yfory hefyd.
It will be fine tomorrow too.
MARIAN:
Hy!
Huh!
GYRRWR TACSI:
Ond bydd hi'n bwrw eira dydd Sadwrn.
But it will be snowing on Saturday.
MARIAN:
Bwrw eira?
Snowing?
GYRRWR TACSI:
Bydd hi'n bwrw eira dydd Sadwrn a dydd Sul a bydd hi'n oer iawn, iawn.
MARIAN:
Dw i eisiau mynd yn ôl i Tenerife!
I want to go back to Tenerife!