GERAINT:
Beth wyt ti'n wneud?
What are you doing?
MARIAN:
Dw i eisiau anrheg Nadolig i mam. Mae hi eisiau syrpreis!
I want a Christmas present for my mother. She wants a surprise!
GERAINT:
Syrpreis? O na! Ydy hi eisiau rhywbeth i ddarllen?
A surprise? Oh, no! Does she want something to read?
MARIAN:
Mmmm. Dim llyfrau.
Mmmm. No books.
GERAINT:
Ydy hi eisiau rhywbeth i fwyta?
Does she want something to eat?
MARIAN:
Dim bwyd. Mae hi ar ddeiet.
No food. She's on a diet.
GERAINT:
Ydy hi eisiau CD neu DVD?
Does she want a CD or a DVD?
MARIAN:
Nac ydy. Dyw hi ddim eisiau CD neu DVD. O, dw i ddim yn gwybod.
No. She doesn't want a CD nor a DVD.
Oh, I don't know.
GERAINT:
Ydy hi eisiau rhywbeth i'r tŷ? Radio newydd?
Does she want something for the house?
A new radio?
MARIAN:
Radio newydd? Mmm, syniad da. Diolch yn fawr Geraint! Syniad da iawn.
A new radio? Mmm, good idea.
Thanks, Geraint! A very good idea.
GERAINT:
Marian. Beth wyt ti eisiau?
Marian. What do you want?
MARIAN:
Dw i ddim yn siwr.
I'm not sure.
GERAINT:
Wyt ti eisiau rhywbeth i ddarllen?
Do you want something to read?
MARIAN:
Nac ydw, dim llyfrau.
No, no books.
GERAINT:
Wyt ti eisiau rhywbeth i fwyta?
Do you want something to eat?
MARIAN:
Nac ydw, dim bwyd.
No, no food.
GERAINT:
Wyt ti eisiau CD neu DVD?
Do you want a CD or a DVD?
MARIAN:
Nac ydw.
No.
GERAINT:
Wyt ti eisiau radio newydd hefyd?
Do you want a new radio too?
MARIAN:
Dim diolch!
No thanks!
GERAINT:
Marian! Beth wyt ti eisiau?
Marian! What do you want?
MARIAN:
O Geraint, dw i eisiau syrpreis.
Oh, Geraint, I want a surprise.
GERAINT:
O na!
Oh, no!