MRS EVANS:
Helo Edward! Sut dych chi?
Hello Edward! How are you?
ED:
Go lew, Mrs Evans! A chi? Sut dych chi?
Not bad, Mrs Evans! And you? How are you?
MRS EVANS:
Da iawn, diolch! Dych chi'n byw yn Sgiwen nawr?
Very well, thank you! Do you live in Skewen now?
ED:
Dw i'n byw yn Llanelli nawr.
I live in Llanelli now.
MRS EVANS:
A beth dych chi'n wneud?
And what do you do?
ED:
Dw i'n gweithio mewn garej.
I work in a garage.
MRS EVANS:
Www, handi iawn!
Ooo, very handy!
ED:
A chi? Dych chi'n gweithio yn yr ysgol nawr, Mrs Evans?
And you? Do you work in school now, Mrs Evans?
MRS EVANS:
Nac ydw! Dw i wedi ymddeol.
No! I'm retired.
MRS EVANS:
Diolch byth!
Thank goodness!
ED:
Beth dych chi'n wneud nawr?
What do you do now?
MRS EVANS:
Dw i'n dawnsio - gyda Mr Evans.
I dance - with Mr Evans.