GERAINT:
Ble mae hi?
Where is she?
SIÂN:
Bydd Marian yma mewn munud, dw i'n siwr.
Marian will be here in a minute, I'm sure.
ED:
Ie, paid becso. Bydd hi yma mewn munud.
Yes, don't worry. She'll be here in a minute.
GERAINT:
Marian? Wyt ti'n iawn?
Marian? Are you OK?
MARIAN:
Dw i ar goll!
I'm lost!
GERAINT:
Ar goll?! Ond dyn ni'n priodi mewn deg munud!
Lost? But we're getting married in ten minutes!
MARIAN:
Mae'r traffig yn ofnadwy, felly dyn ni wedi trio ffindio ffordd gefn. Ond nawr, dyn ni ar goll.
The traffic is terrible, so we've tried to find the back road. But we're now lost.
GERAINT:
Ble wyt ti?
Where are you?
MARIAN:
Whitehall Road.
Whitehall Road.
GERAINT:
Reit. Tro i'r chwith ar bwys yr ysgol, cer yn syth ymlaen ac yna tro i'r dde ar bwys y garej.
Right. Turn left near the school, go straight on and then turn right near the garage.
MARIAN:
Eto, yn araf. Rwyt ti'n siarad fel trên.
Again, slowly. You're speaking too fast.
GERAINT:
Tro i'r chwith ar bwys yr ysgol...
Turn left near the school...
MARIAN:
Trowch i'r chwith ar bwys yr ysgol...
Turn left near the school...
GERAINT:
Cer yn syth ymlaen...
Go straight on...
MARIAN:
Cerwch yn syth ymlaen...
Go straight on...
GERAINT:
Yna tro i'r dde ar bwys y garej.
Then turn right near the garage.
MARIAN:
Yna trowch i'r dde ar bwys y garej.
Then turn right near the garage.
GERAINT:
Yna, cer yn syth ymlaen trwy un set o oleuadau traffig ac wedyn tro i'r chwith yn y goleuadau nesa.
Then, go straight on through one set of traffic lights and then turn left at the next lights.
MARIAN:
Yna, cerwch yn syth ymlaen trwy un set o oleuadau traffig ac wedyn trowch i'r dde yn y goleuadau nesa.
Then, go straight on through one set of traffic lights and then turn right at the next lights.
GERAINT:
I'r chwith!
Left!
MARIAN:
Beth? I'r chwith? Ble?
What? Left? Where?
GERAINT:
Yn y goleuadau nesa.
At the next lights.
MARIAN:
Trowch i'r chwith yn y goleuadau nesa.
Turn left at the next lights.
GERAINT:
Mae maes parcio ar y chwith ac mae parc ar y dde. Dere trwy'r parc i'r swyddfa gofrestru.
There's a car park on the left and there's a park on the right. Go through the park to the registry office.
MARIAN:
Beth? Beth? Dw i ddim yn clywed. Does dim batri gyda fi...
What? What? I can't hear. I haven't got any battery...
SIÂN:
Paid becso. Bydd hi yma!
Don't worry. She'll be here!