ED:
Geraint!
Geraint!
GERAINT:
Shwmai, Ed.
Hi, Ed.
ED:
Iawn, diolch, ond sut wyt ti? Byddi di'n priodi cyn bo hir, dw i'n deall! Llongyfarchiadau.
Fine, thanks, but how are you? You'll be getting married soon, I understand! Congratulations.
GERAINT:
Bydda. Dw i'n nerfus iawn.
Yes. I'm very nervous.
ED:
Twt, bydd y briodas yn hyfryd, a bydd y parti yn y Marina'n grêt. A ble byddwch chi'n mynd ar eich mis mêl?
Tut, the wedding will be lovely, and the party in the Marina will be great. And where will you be going on your honeymoon?
GERAINT:
Byddwn ni'n mynd i Fenis. Ond dyw Marian ddim yn gwybod eto - syrpreis fydd e.
We'll be going to Venice. But Marian doesn't know yet - it will be a surprise.
ED:
Syrpreis? Bydd Marian yn hapus iawn.
A surprise? Marian will be very happy.
GERAINT:
Bydd, gobeithio. Byddwn ni'n aros yn y Ritz yn Llundain am un noson ac wedyn byddwn ni'n hedfan o Gatwick i Fenis.
Yes, hopefully. We'll be staying in the Ritz in London for one night and then we'll be flying from Gatwick to Venice.
ED:
Mae Fenis yn lle rhamantus iawn. Ble byddwch chi'n aros?
Venice is a very romantic place. Where will you be staying?
GERAINT:
Byddwn ni'n aros mewn gwesty pump seren ar bwys Sgwâr San Marco.
We'll be staying in a five star hotel near St Mark's Square.
ED:
Fyddwch chi'n mynd mewn gondola?
Will you be going on a gondola?
GERAINT:
Byddwn, wrth gwrs. Dw i wedi bwcio gondola i fynd o'r gwesty i'r opera ar y nos Sadwrn. A bydd siampên ar y gondola!
Yes, of course. I've booked the gondola to go from the hotel to the opera on the Saturday night. And there'll be champagne on the gondola!
ED:
Y Ritz yn Llundain? Gwesty pump seren yn Fenis? Opera? Siampên? Geraint bach - faint fydd y mis mêl yma'n gostio?
The Ritz in London? A five star hotel in Venice? Opera? Champagne? Geraint - how much is this honeymoon going to cost?
GERAINT:
Dim ots! Mae Marian yn werth pob ceiniog!
It doesn't matter! Marian is worth every penny!