NICOLA:
Diolch am y bwyd, Mam.
Thanks for the meal, Mam.
BEN:
Diolch am y bwyd, Mam.
Thanks for the meal, Mam.
SIÂN:
Ble dych chi'n mynd?
Where are you going?
NICOLA:
Rhaid i fi ffonio Emma.
I must phone Emma.
BEN:
Rhaid i fi decstio Gareth.
I must text Gareth.
SIÂN:
Ar ôl i chi glirio, ie?
After you've done the clearing, yes?
SIÂN:
Ble dych chi'n mynd?
Where are you going?
NICOLA:
Rhaid i fi ffonio Emma.
I must phone Emma.
BEN:
Rhaid i fi decstio Gareth
I must text Gareth.
SIÂN:
Ar ôl i fi gael paned, ie? Te, os gwelwch chi'n dda.
After I've had a cuppa, yes?
Tea, please.
SIÂN:
Diolch. Hyfryd.
Thanks. Lovely.
SIÂN:
Ble wyt ti'n mynd?
Where are you going?
BEN:
Dw i'n mynd i chwarae tenis gyda Gareth.
I'm going to play tennis with Gareth.
SIÂN:
Oes gwaith cartref gyda ti?
Have you any homework?
BEN:
Oes, tipyn bach.
Yes, a little bit.
SIÂN:
Cei di chwarae tennis gyda Gareth ar ôl i ti wneud dy waith cartref.
You can play tennis with Gareth after you've done your homework.
BEN:
Iawn, Mam.
OK, Mam.
SIÂN:
A ble wyt ti'n mynd?
And where are you going?
NICOLA:
Dw i'n mynd i weld Emma.
I'm going to see Emma.
SIÂN:
Oes gwaith cartref gyda ti?
Have you any homework?
NICOLA:
Nac oes!
No!
SIÂN:
Iawn, cei di fynd i weld Emma ar ôl i ti glirio dy ystafell.
Right, you can go to see Emma after you've tidied your room.
NICOLA:
Ond Mam...
But Mum...
SIÂN:
Mmm, hyfryd.
Mmm, lovely.