SIÂN:
Ed, Wyt ti'n iawn? Beth ddigwyddodd?
Ed, are you OK? What happened?
ED:
Es i i'r clwb karate.
I went to the karate club.
SIÂN:
Ie... Beth ddigwyddodd?
Yes... What happened?
ED:
Ces i ddamwain.
I had an accident.
SIÂN:
Cariad! Sut?
Oh, my love! How?
ED:
Cwympais i.
I fell.
SIÂN:
Naddo! Beth ddigwyddodd wedyn?
Oh, no! Then what happened?
ED:
Es i i'r ysbyty.
I went to the hospital.
SIÂN
Sut?
How?
ED:
Aeth Geraint â fi.
Geraint took me.
SIÂN:
Naddo! Beth ddigwyddodd wedyn?
Oh, no. Then what happened?
ED:
Gwelais i'r meddyg.
I saw the doctor.
SIÂN:
Beth wnaeth e?
What did he do?
ED:
Dim byd llawer. Ces i'r tabledi yma.
Nothing much. I got these tablets.
SIÂN:
Naddo! Druan â ti! Beth ddigwyddodd wedyn?
Oh, no! You poor thing! Then what happened?
ED:
Des i adre.
I came home.
SIÂN:
Sut?
How?
ED:
O... ym... ces i lifft.
Oh... hm... I got a lift.
SIÂN:
Lifft?
A lift?
ED:
Daeth Marian â fi adre.
Marian brought me home.
SIÂN:
Marian?
Marian?
ED:
Aw!
Ouch!
SIÂN:
Sori, Ed. Wel, dim karate i ti nawr.
Sorry, Ed. Well, no karate for you now.