MRS EVANS:
Darllenais i'r llyfr yna ar y gwyliau yn Torquay.
I read that book on holiday in Torquay.
SIÂN:
Gaethoch chi wyliau da?
Did you have a good holiday?
MRS EVANS:
Do, diolch Sian. Ces i wyliau bendigedig.
Yes, thank you, Siân.
I had a wonderful holiday.
SIÂN:
Ble yn Torquay aethoch chi?
Where did you go to in Torquay?
MRS EVANS:
Es i i glwb Salsa!
I went to a Salsa club!
SIÂN:
Braf iawn.
Very nice.
MRS EVANS:
Mm, bendigedig.
Mm, wonderful.
SIÂN:
Fwynheuoch chi'r llyfr?
Did you enjoy the book?
MRS EVANS:
Beth?
What?
SIÂN:
Fwynheuoch chi'r llyfr?
Did you enjoy the book?
MRS EVANS:
Do, mwynheuais i'r llyfr yn fawr.
Yes, I enjoyed the book very much.
SIÂN:
Gwelais i'r ffilm yn y sinema - yn Sgeti!
I saw the film yn the cinema - in Sketty!
MRS EVANS:
Fwynheuoch chi'r ffilm?
Did you enjoy the film?
SIÂN:
Do, mwynheuais i'r ffilm yn fawr. Es i i'r sinema gyda Dad.
Yes, I enjoyed the film very much. I went to the cinema with Dad.
MRS EVANS:
Gwelais i eich tad, yn y parc.
I saw your father in the park.
SIÂN:
Do?
Did you?
MRS EVANS:
Do. Dyn hyfryd.
Yes. Lovely man.