SIÂN:
Wel, gest ti noson dda neithiwr?
Well, did you have a good night last night?
MARIAN:
Ces i noson ffantastig!
I had a fantastic night!
SIÂN:
Pam, beth wnaethoch chi?
Why, what did you do?
MARIAN:
Aethon ni i dy bwyta yn y dre.
We went to a restaurant in town.
SIÂN:
Ble aethoch chi?
Where did you go?
MARIAN:
I'r Brasserie.
To the Brasserie.
SIÂN:
Neis iawn.
Very nice.
MARIAN:
Caethon ni fwyd bendigedig.
We had a wonderful meal.
SIÂN:
Beth gaethoch chi i fwyta?
What did you have to eat?
MARIAN:
Caethon ni stêcs.
We had steaks.
SIÂN:
Ble aethoch chi wedyn?
Where did you go afterwards?
MARIAN:
Aethon ni adre.
We went home.
SIÂN:
Aethoch chi ddim i glybio?
You didn't go clubbing?
MARIAN:
Naddo. Aethon ni adre mewn limo!
No. We went home in a limo!
SIÂN:
Mewn Limo?
In a limo?
MARIAN:
Do, aethon ni adre mewn limo.
Yes, we went home in a limo.
SIÂN:
Pam? Pam aethoch chi adre mewn limo?
Why? Why did you go home in a limo?
MARIAN:
Aethon ni adre mewn limo achos...
We went home in a limo because ...
SIÂN:
Waw!
Wow!
MARIAN:
Mae Geraint a fi wedi dyweddio!
Geraint and I have got engaged!
SIÂN:
Waw! Llongyfarchiadau!
Wow! Congratulations!