EMMA
Mae gynnon ni gi newydd. Smotyn.
We have a new dog. Smotyn.
NICOLA
Pam Smotyn?
Why Smotyn?
EMMA
Mae gynno fo smotyn du.
It has a black spot.
NICOLA
Does gen i ddim ci ond mae gen i gwningen. Fflwff.
I don't have a dog but I do have a rabbit. Fflwff.
EMMA
Pam Fflwff?
Why Fflwff?
NICOLA
Mae gynni hi fflwff gwyn.
She has white fluff.
EMMA
Mae Smotyn yn byw mewn cwt ar y fferm.
Smotyn lives in a kennel on the farm.
NICOLA
Mae Fflwff yn byw mewn cwt yn yr ardd.
Fflwff lives in a hut in the garden.
EMMA
Oes gen ti gath?
Do you have a cat?
NICOLA
Nac oes, does gen i ddim cath ond mae gen i fwnci.
No, I haven't got a cat but I do have a monkey.
EMMA
Mwnci?
A monkey?
NICOLA
Ie. Mwnci. Mae gen i frawd.
Yes, a monkey. I have a brother.