GERAINT
Marian! S'mae?
Marian! How are you?
MARIAN
Geraint!
Geraint!
GERAINT
Wyt ti isio help?
Do you want some help?
MARIAN
Diolch.
Thanks.
GERAINT
Sut wyt ti?
How are you?
MARIAN
Wedi blino.
Tired.
GERAINT
Dw i wedi blino hefyd.
I'm tired too.
GERAINT
Ga' i lifft adre?
Can I have a lift home?
MARIAN
Cei, wrth gwrs.
Of course you can.
GERAINT
Ga' i lifft i'r dosbarth karate erbyn pump o'r gloch?
Can I have a lift to the karate class by five o'clock?
MARIAN
Wel, dw i'n mynd i siopa efo Mam am hanner awr wedi pedwar.
Well, I'm going shopping with Mum at half past four.
MARIAN
A dw i'n cael coffi efo Mam wedyn am bump o'r gloch.
And I'm having coffee with Mum afterwards at five o'clock.
GERAINT
Ond mae hi'n chwarter wedi pedwar rwan. Mae'r dosbarth karate am bump o'r gloch.
But it's quarter past four now. The karate class is at five o'clock.
MARIAN
Mm. problem. Wel, mae'r bws yn mynd am un deg saith munud wedi pedwar.
Hm, problem. Well, the bus goes at seventeen minutes past four.
GERAINT
Un deg saith munud wedi pedwar?
Seventeen minutes past four?
GERAINT
Diolch yn fawr am y lifft Marian!
Thanks a lot for the lift, Marian!
MARIAN
Hwyl!
Bye!