GERAINT:
Rhuthun, os gwelwch chi'n dda.
Ruthin, please.
GYRRWR TACSI:
Lle yn Rhuthun dach chi'n byw?
Where in Ruthin do you live?
GERAINT:
Forrest Road, os gwelwch chi'n dda.
Forrest Road, please.
MARIAN:
Mae hi'n oer, tydy?
It's cold, isn't it?
GYRRWR TACSI:
Nac ydy, dydy hi ddim yn oer heddiw. Mae hi'n braf iawn.
No, it's not cold today. It's a very fine day.
MARIAN:
Hy!
Huh!
GYRRWR TACSI:
Sut roedd y gwyliau?
How was the holiday?
GERAINT:
Grêt, diolch. Roedd hi'n braf iawn yn Tenerife. Sut roedd y tywydd yma?
Great, thanks. It was very fine in Tenerife. How was the weather here?
GYRRWR TACSI:
Wel, roedd hi'n bwrw glaw dydd Sadwrn a dydd Sul, ond mae hi'n braf iawn ers dydd Llun.
Well, it was raining on Saturday and Sunday, but it's been very fine since Monday.
MARIAN:
Hy!
Huh!
GERAINT:
Sut bydd y tywydd yfory?
What's the weather for tomorrow?
GYRRWR TACSI:
Mi fydd hi'n braf yfory hefyd.
It will be fine tomorrow too.
MARIAN:
Hy!
Huh!
GYRRWR TACSI:
Ond mi fydd hi'n bwrw eira dydd Sadwrn.
But it will be snowing on Saturday.
MARIAN:
Bwrw eira?
Snowing?
GYRRWR TACSI:
Mi fydd hi'n bwrw eira dydd Sadwrn a dydd Sul a mi fydd hi'n oer iawn, iawn.
It will be snowing on Saturday and Sunday and it will be very, very cold.
MARIAN:
Dw i isio mynd yn ôl i Tenerife!
I want to go back to Tenerife!