ED:
Geraint!
Geraint!
GERAINT:
S'mae, Ed.
Hi, Ed.
ED:
Iawn, diolch, ond sut wyt ti? Mi fyddi di'n priodi cyn bo hir, dw i'n dallt! Llongyfarchiadau.
Fine, thanks, but how are you ? You'll be getting married soon, I understand! Congratulations.
GERAINT:
Bydda. Dw i'n nerfus iawn.
Yes. I'm very nervous.
ED:
Twt, mi fydd y briodas yn hyfryd, ac mi fydd y parti yn y Marina'n grêt. A lle fyddwch chi'n mynd ar eich mis mêl?
Tut, the wedding will be lovely, and the party in the Marina will be great. And where will you be going on your honeymoon?
GERAINT:
Mi fyddwn ni'n mynd i Fenis. Ond dydy Marian ddim yn gwybod eto - syrpreis fydd o.
We'll be going to Venice. But Marian doesn't know yet - it will be a surprise.
ED:
Syrpreis? Mi fydd Marian yn hapus iawn.
A surprise? Marian will be very happy.
GERAINT:
Bydd, gobeithio. Mi fyddwn ni'n aros yn y Ritz yn Llundain am un noson ac wedyn mi fyddwn ni'n hedfan o Gatwick i Fenis.
Yes, hopefully. We'll be staying in the Ritz in London for one night and then we'll be flying from Gatwick to Venice.
ED:
Mae Fenis yn lle rhamantus iawn. Lle fyddwch chi'n aros?
Venice is a very romantic place. Where will you be staying?
GERAINT:
Mi fyddwn ni'n aros mewn gwesty pump seren wrth Sgwâr San Marco.
We'll be staying in a five star hotel near St Mark's Square.
ED:
Fyddwch chi'n mynd mewn gondola?
Will you be going on a gondola?
GERAINT:
Byddwn, wrth gwrs. Dw i wedi bwcio gondola i fynd o'r gwesty i'r opera ar y nos Sadwrn. Ac mi fydd siampên ar y gondola!
Yes, of course. I've booked the gondola to go from the hotel to the opera on the Saturday night. And there'll be champagne on the gondola!
ED:
Y Ritz yn Llundain? Gwesty pump seren yn Fenis? Opera? Siampên? Geraint bach - faint fydd y mis mêl yma'n gostio?
The Ritz in London? A five star hotel in Venice? Opera? Champagne? Geraint - how much is this honeymoon going to cost?
GERAINT:
Dim ots! Mae Marian yn werth pob ceiniog!
It doesn't matter! Marian is worth every penny!