SIÂN:
Haia Marian.
Hi Marian.
MARIAN:
Haia Siân. Wyt ti'n brysur?
Hi Siân. Are you busy?
SIÂN:
Nac ydw.
No.
MARIAN:
Da iawn. Mae gen i newyddion.
Very good. I've got news for you.
SIÂN:
Newyddion?
News?
MARIAN:
Dan ni wedi bwcio'r briodas.
We've booked the wedding.
SIÂN:
Wedi bwcio'r briodas? Pryd?
Booked the wedding? When?
MARIAN:
Dan ni'n mynd i briodi mis nesa.
We're going to get married next month.
SIÂN:
Mis nesa? Llongyfarchiadau!
Next month? Congratulations!
MARIAN:
Diolch.
Thanks.
SIÂN:
Lle dach chi'n mynd i briodi?
Where are you going to get married?
MARIAN:
Yn y swyddfa gofrestru. Priodas fach fydd hi.
In the registry office. It will be a small wedding.
SIÂN:
Faint o bobl fydd yn y briodas?
How many people will be in the wedding?
MARIAN:
Ti ac Ed.
You and Ed.
SIÂN:
Mi fydd Geraint a ti yno hefyd, gobeithio!
Geraint and you will be there as well, hopefully!
MARIAN:
Wrth gwrs! Geraint, fi, ti ac Ed. Priodas fach.
Of course! Geraint, me, you and Ed. A small wedding.
SIÂN:
Priodas fach iawn! Mi fydd hi'n hyfryd.
A very small wedding! It will be lovely.
MARIAN:
Ac mi fydd parti bach wedyn.
And there'll be a small party afterwards.
SIÂN:
Parti? O, da iawn. Lle fydd y parti?
A party? Oh, very good. Where will be the party?
MARIAN:
Yn y Marina.
In the Marina.
SIÂN:
Parti yn y Marina? Hyfryd iawn! Dw i'n edrych ymlaen yn barod.
A party in the Marina? Very nice! I'm already looking forward!