SIÂN:
Dyma ti.
Here you are.
ED:
Dw i ddim isio cinio.
I don't want lunch.
SIÂN:
Ond mae'r bws yn mynd mewn munud.
But the bus is leaving in a minute.
ED:
Dw i ddim yn mynd ar y bws. Dw i ddim yn mynd ar y fferi. Dw i ddim yn mynd i Iwerddon.
I'm not going on the bus. I'm not going on the ferry. I'm not going to Ireland.
SIÂN:
Ddim yn mynd i Iwerddon?
Not going to Ireland?
ED:
Dw i'n sâl. Mae gen i ffliw.
I'm ill. I've got the flu.
SIÂN:
Y ffliw?
The flu?
ED:
Ia. Y ffliw. Mae gen i ffliw.
Yes. The flu. I've got the flu.
SIÂN:
Ffliw, wir! Mae gen ti annwyd. Tipyn bach o annwyd. Dim ffliw!
The flu, indeed! You've got a cold. A little bit of a cold. Not the flu!
ED:
Mae gen i ffliw. Dw i'n sâl iawn, a dw i ddim yn mynd i Iwerddon.
I've got the flu. I'm very ill, and I'm not going to Ireland.
SIÂN:
S'mae. Newyddion drwg, mae'n ddrwg gen i.
Hi. Bad news, I'm afraid.
MARIAN:
Newyddion drwg?
Bad news?
SIÂN:
Ia. Dydy Ed ddim yn mynd i Iwerddon.
Yes. Ed's not going to Ireland.
MARIAN:
Ddim yn mynd i Iwerddon?
Not going to Ireland?
SIÂN:
Nac ydy. Mae gynno fo ffliw.
No, he's not. He's got the flu.
ED:
Oes. Mae gen i ffliw.
Yes. I've got the flu.
MARIAN:
Mae gen i newyddion drwg hefyd. Dydy Geraint ddim yn mynd i Iwerddon chwaith. Mae gynno fo'r ddannodd.
I've got some bad news as well. Geraint's not going to Ireland either. He's got a toothache.
SIÂN:
Y ddannodd? O diar.
Toothache? Oh dear.
MARIAN:
Wel. Mae gan Ed ffliw ac mae gan Geraint y ddannodd. A sut wyt ti, Siân?
Well. Ed's got the flu and Geraint's got a toothache. And how are you, Siân?
SIÂN:
Dw i'n iawn, diolch. Does dim byd yn bod arna i. A sut wyt ti, Marian?
I'm fine, thanks. There's nothing wrong with me. And how are you, Marian?
MARIAN:
Grêt, diolch. Does dim byd yn bod arna i chwaith.
Great, thanks. There's nothing wrong with me either.
SIÂN:
Reit, dw i'n mynd i bacio.
Right. I'm going to pack.
MARIAN:
A fi.
And me.
ED:
Pacio? Pam? Lle dach chi'n mynd?
Pack? Why? Where are you going?
SIÂN:
I Iwerddon, wrth gwrs. Dan ni'n mynd i weld y rygbi!
To Ireland, of course. We're going to see the rugby!