TAID:
S'mae.
Hi.
MRS EVANS:
Helo.
Hello.
TAID:
Dach chi'n iawn?
Are you OK?
MRS EVANS:
Nac ydw. Dw i wedi colli 'mhwrs i.
No. I've lost my purse.
TAID:
Eich pwrs? O diar! Lle dach chi wedi bod y bore 'ma?
Your purse? Oh dear! Where have you been this morning?
MRS EVANS:
Dw i wedi bod... yn y banc, dw i wedi bod... yn y swyddfa bost, dw i wedi bod... yn y parc.
I've been... in the bank, I've been... in the post office, I've been in... the park.
TAID:
Dach chi wedi edrych yn y banc?
Have you looked in the bank?
MRS EVANS:
Do. Dw i wedi edrych yn y banc.
Yes. I've looked in the bank.
TAID:
Dach chi wedi edrych yn y swyddfa bost?
Have you looked in the Post Office?
MRS EVANS:
Do. Dw i wedi edrych yn y swyddfa bost.
Yes. I've looked in the Post Office.
TAID:
Dach chi wedi edrych yn y parc?
Have you looked in the park?
MRS EVANS:
Dim eto.
Not yet.
TAID:
Mae'r parc yn fawr.
The park is big.
MRS EVANS:
Ydy. Mae'r parc yn fawr iawn.
Yes. The park is very big.
TAID:
Dw i'n mynd i'r parc rwan. Dach chi isio help?
I'm going to the park now. Do you want help?
MRS EVANS:
Wel, diolch yn fawr.
Well, thank you very much.
TAID:
Dim lwc?
No luck?
MRS EVANS:
Na. Dw i wedi edrych wrth y llyn.
No. I've looked near the lake.
TAID:
A dw i wedi rhedeg o gwmpas y parc.
And I ran around the park.
MRS EVANS:
Wel, diolch yn fawr am eich help...
Well, thank you very much for your help...
MRS EVANS:
O diar...
Oh dear...
MRS EVANS:
Mae'n ddrwg gen i.
I'm sorry.
TAID:
Dim problem. Dach chi wedi ffindio'r pwrs a dw i wedi rhedeg o gwmpas y parc. Mae pawb yn hapus!
No problem. You've found the purse and I've been running around the park. Everybody is happy!