NICOLA
Diolch am y bwyd, Mam.
Thanks for the meal, Mam.
BEN
Diolch am y bwyd, Mam.
Thanks for the meal, Mam.
SIÂN
Lle dach chi'n mynd?
Where are you going?
NICOLA
Rhaid i mi ffonio Emma.
I must phone Emma.
BEN
Rhaid i mi decstio Gareth.
I must text Gareth.
SIÂN
Ar ôl i chi glirio, ia?
After you've done the clearing, yes?
SIÂN
Lle dach chi'n mynd?
Where are you going?
NICOLA
Rhaid i mi ffonio Emma...
I must phone Emma.
BEN
Rhaid i mi decstio Gareth.
I must text Gareth.
SIÂN
Ar ôl i mi gael paned, ia? Te, os gwelwch chi'n dda.
After I've had a cuppa, yes? Tea, please.
SIÂN
Diolch. Hyfryd.
Thanks. Lovely.
SIÂN
Lle wyt ti'n mynd?
Where are you going?
BEN
Dw i'n mynd i chwarae tenis efo Gareth.
I'm going to play tennis with Gareth.
SIÂN
Oes gen ti waith cartref?
Have you any homework?
BEN
Oes, tipyn bach.
Yes, a little bit.
SIÂN
Rhaid i ti wneud dy waith cartref gynta.
You must do your homework first.
BEN
Ond Mam...
But Mam ...
SIÂN
Mi gei di chwarae tennis efo Gareth ar ôl i ti wneud dy waith cartref.
You can play tennis with Gareth after you've done your homework.
BEN
Iawn, Mam.
OK, Mam.
SIÂN
A lle wyt ti'n mynd?
And where are you going?
NICOLA
Dw i'n mynd i weld Emma.
I'm going to see Emma.
SIÂN
Oes gen ti waith cartref?
Have you any homework?
NICOLA
Nac oes!
No!
SIÂN
Iawn, mi gei di weld Emma ar ôl i ti glirio dy ystafell.
Right, you can see Emma after you've tidied your room.
NICOLA
Ond Mam...
But Mam ...
SIÂN
Mmm, hyfryd.
Mmm, lovely.