MRS EVANS
Mi wnes i ddarllen y llyfr yna ar y gwyliau yn Torquay.
I read that book on holiday in Torquay.
SIÂN
Wnaethoch chi gael gwyliau da?
Did you have a good holiday?
MRS EVANS
Do, diolch Siân. Mi wnes i gael gwyliau bendigedig.
Yes, thank you, Siân. I had a wonderful holiday.
SIÂN
Lle yn Torquay wnaethoch chi fynd?
Where did you go to in Torquay?
MRS EVANS
Mi wnes i fynd i glwb Salsa!
I went to a Salsa club!
SIÂN
Braf iawn.
Very nice.
MRS EVANS
Mm, bendigedig.
Mm, wonderful.
SIÂN
Wnaethoch chi fwynhau'r llyfr?
Did you enjoy the book?
MRS. EVANS
Be'?
What?
SIÂN
Wnaethoch chi fwynhau'r llyfr?
Did you enjoy the book?
MRS EVANS
Do, mi wnes i fwynhau'r llyfr yn fawr iawn.
Yes, I enjoyed the book very much.
SIÂN
Mi wnes i weld y ffilm yn y sinema - yn y Rhyl.
I saw the film yn the cinema - in Rhyl.
MRS EVANS
Wnaethoch chi fwynhau'r ffilm?
Did you enjoy the film?
SIÂN
Do, mi wnes i fwynhau'r ffilm yn fawr. Mi wnes i fynd i'r sinema efo Dad.
Yes, I enjoyed the film very much. I went to the cinema with Dad.
MRS EVANS
Mi wnes i weld eich tad, yn y parc.
I saw your father in the park.
SIÂN
Do?
Did you?
MRS EVANS
Do. Dyn hyfryd.
Yes. Lovely man.