SIÂN
Wel, wnest ti gael noson dda neithiwr?
Well, did you have a good night last night?
MARIAN
Mi wnes i gael noson ffantastig!
I had a fantastic night!
SIÂN
Pam, be' wnaethoch chi?
Why, what did you do?
MARIAN
Mi wnaethon ni fynd i dy bwyta yn y dre.
We went to a restaurant in town.
SIÂN
Lle wnaethoch chi fynd?
Where did you go?
MARIAN
I'r Brasserie.
To the Brasserie.
SIÂN
Neis iawn.
Very nice.
MARIAN
Mi wnaethon ni gael bwyd bendigedig.
We had a wonderful meal.
SIÂN
Be' wnaethoch chi gael i fwyta?
What did you have to eat?
MARIAN
Mi wnaethon ni gael stêcs.
We had steaks.
SIÂN
Lle wnaethoch chi fynd wedyn?
Where did you go afterwards?
MARIAN
Mi wnaethon ni fynd adre.
We went home.
SIÂN
Wnaethoch chi ddim mynd i glybio?
You didn't go clubbing?
MARIAN
Naddo. Mi wnaethon ni fynd adre mewn limo!
No. We went home in a limo!
SIÂN
Mewn Limo?
In a limo?
MARIAN
Do, mi wnaethon ni fynd adre mewn limo.
Yes, we went home in a limo.
SIÂN
Pam? Pam wnaethoch chi fynd adre mewn limo?
Why? Why did you go home in a limo?
MARIAN
Mi wnaethon ni fynd adre mewn limo achos...
We went home in a limo because...
SIÂN
Waw!
Wow!
MARIAN
Mae Geraint a fi wedi dyweddio!
Geraint and I have got engaged!
SIÂN
Waw! Llongyfarchiadau!
Wow! Congratulations!