MARIAN
Bore da, Mrs Evans.
Good morning, Mrs Evans.
MRS EVANS
Marian, sut dach chi?
Marian, how are you?
MARIAN
Da iawn, diolch. Lluniau gwyliau?
Very well, thank you. Holiday photos?
MRS EVANS
Ia, lluniau gwyliau.
Yes, holiday photos.
MARIAN
Lle wnaethoch chi fynd?
Where did you go?
MRS EVANS
Mi wnes i fynd i Torquay.
I went to Torquay.
MARIAN
Pryd wnaethoch chi ddwad adre?
When did you come home?
MRS EVANS
Mi wnes i ddwad adre dydd Sadwrn.
I came home on Saturday.
MARIAN
Wnaethoch chi gael tywydd braf?
Did you have fine weather?
MRS EVANS
Do, diolch.
Yes, thanks.
MARIAN
Wnaethoch chi gael hwyl?
Did you have fun?
MRS EVANS
Do diolch.
Yes, thanks.
MARIAN
Wel, wel, Mrs. Evans. Mi wnaethoch chi gael llawer o hwyl!
Well, well, Mrs Evans. You had lots of fun!
MRS EVANS
Do, mi wnes i gael llawer o hwyl.
Yes, I had lots of fun!
MARIAN
Mrs. Evans!! Pwy ydy o?!
Mrs Evans!! Who is he?
MARIAN
Mi wnaethoch chi gael llawer iawn o hwyl yn Torquay, Mrs. Evans. Twt, twt...
You did have lots of fun in Torquay, Mrs Evans. Tut, tut ...