BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

16 October 2014
Catchphrase, Dyma'r NewyddionCatchphrase

BBC Homepage
Wales Home
Learn Welsh


Catchphrase

Ysbyty Brynaber

Original Catchphrase

Cam ymlaen

The Lloyds

Dyma'r Newyddion

Grammar

Message board


Contact Us

lesson, gwers
BWLETIN 7
raGwrandewch
Cwestiynau
Geirfa


1. Yn y Gyllideb, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys, Gordon Brown, na fyddai'n rhaid i bensiynwyr dros saith deg pump oed dalu am eu trwydded deledu o hyn ymlaen. Ychwanegodd y byddai'r dreth ar log rhai buddsoddiadau'n gostwng i ddeg ceiniog yn y bunt.

2. Bu dyn dwy ar hugain oed gerbron llys yn Llundain ar gyhuddiad o osod bomiau hoelion yn Brixton, Brick Lane a Soho. Bu farw tri o bobl yn y ffrwydriadau. Gorchmynwyd cadw David Copeland o Farnborough yn y ddalfa.

3. Mae swyddogion awdurdod yr amgylchedd yn credu bod pum mil o bysgod wedi cael eu lladd gan lygredd yn Afon Tawe. Mae'n nhw wedi bod yn archwilio rhan o'r afon ger Stâd Ddiwydiannol Ynys Cedwyn yn Ystradgynlais er mwyn darganfod o ble y daeth y llygredd.

4. Mae cwmnïau trydan Prydain yn ystyried apelio yn erbyn dyfarniad y Llys Apêl eu bod nhw wedi cymryd miliynau o bunnau allan o gronfeydd pensiwn gweithwyr yn anghyfreithlon.

5. Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Cymru, Caerdydd yn cael triniaeth yn yr ysbyty am lid yr ymennydd. Mae'r myfyrwyr - un o'r flwyddyn gynta' a'r llall o'r drydedd - mewn cyflwr cyfforddus. Doedd yr un o'r ddau wedi cael brechiad rhag yr haint.

6. Cyhoeddodd tîm Formiwla Un Ferrari na fyddai Michael Schumacher yn cystadlu yn Ras Grand Prix yr Eidal ym Monza wedi'r cyfan. Roedd disgwyl iddo gymryd rhan yn y ras ar ôl bod yn segur am gyfnod wedi iddo dorri'i goes. Ond mae'n debyg ei fod yn dal i ddioddef poenau - a does dim golwg y bydd yn dychwelyd i rasio'n fuan.

7. Mewn cynhadledd i'r wasg y bore 'ma, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog, John Prescott, y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal i ddiogelwch ar Afon Tafwys.

8. Parhau'n ddifrifol wael yn Ysbyty Gwynedd mae'r wraig gafodd ei gwasgu gan lori ar fwrdd llong fferi yng Nghaergybi ddoe. Mae'r cwmni llongau'n cynnal ymchwiliad i weld beth achosodd y ddamwain.

9. Mewn cwest yn Norwich ddoe, cyhoeddwyd marwolaeth trwy ddamwain ar fam a'i merch a fu farw wedi iddyn nhw gael eu taro gan fws yn y dre'. Roedden nhw'n cerdded ar y pafin pan yrrodd y bws drostyn nhw, wedi i'r brêcs fethu.

10. Yn Llys y Goron, Rhydychen, cafwyd cynghorydd yn ddi - euog ar ddau gyhuddiad o dreisio. Ond mae'r rheithgor wedi methu â dod i benderfyniad ynglŷn â thri cyhuddiad arall o ymosod yn anweddus.

language tools
dictionary
Help / Cymorth
grammar
A comprehensive print-out grammar guide

links
The best of the rest for learning Welsh online

BBC Vocab: A Window into Welsh. Have trouble understanding Welsh on the web? Here's the answer.

Sites in Welsh for your kids
Bobinogi
Tweenies Cymraeg
Celtiaid yr Oes Haearn



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy