BWLETIN 6
Gwrandewch Cwestiynau Geirfa
1. "Mae'r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon dan straen aruthrol" - Dyna oedd rhybudd y cyn Seneddwr o'r Unol Daleithiau, George Mitchell. Fe wnaeth ei sylwadau yn Nulyn wrth iddo barhau â'i ymchwiliad i gyflwr y broses.2. Mae pwysau newydd heddiw ar i'r Gweinidog Amaeth geisio dwyn perswâd ar Ewrop i ganiatáu i Brydain fwrw ymlaen â chynllun prosesu lloi. Ond yn ôl y Comisiynydd Amaeth, Franz Fischler, mae rhwystrau cyfreithiol i gyflwyno cynllun o'r fath ar hyn o bryd. 3. Methodd cynnig o ddiffyg hyder yn arweinyddiaeth Prif Ysgrifennydd y Cynulliad, Alun Michael. Ond er na lwyddodd cynnig y Ceidwadwyr, cafwyd rhybudd clir gan y gwrthbleidiau ei fod ef ar brawf a bod yn rhaid iddo barchu barn y mwyafrif yn y dyfodol. SYLWCH Mae eitemau am y Llywodraeth Ganolog a/neu gynghorau lleol yn ymddangos ymhob bwletin newyddion, felly mae'n bwysig dysgu'r eirfa arbenigol yma. Mae pob eitem yn y bwletin uchod yn ymwneud â'r Llywodraeth neu â chyngor lleol. |
4. Yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor, Robin Cook, mae'r awdurdodau yn Yemen wedi addo na fydd grym yn cael ei ddefnyddio i achub Prydeiniwr, gafodd ei herwgipio'r wythnos ddiwetha'. 5. Mae'r Ceidwadwr Michael Portillo gam yn nes at ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredin ar ôl iddo ennill enwebiad ei blaid i sefyll yn is - etholiad Kensington a Chelsea. 6. Cyhuddodd y Ceidwadwyr yr Ysgrifennydd Cartref, Jack Straw o gamarwain y cyhoedd gyda'i addewid i benodi pum mil yn rhagor o blismyn. Yn ôl y Ceidwadwyr bydd y rhan fwyaf o'r plismyn newydd yn cymryd lle'r swyddogion sy'n gadael. 7. Cafwyd gostyngiad yng ngraddfa chwyddiant ym mis Medi i dri pwynt pump y cant - y lefel isa' ers mis Mawrth. 8. Yng nghynhadledd flynyddol y Ceidwadwyr yn Brighton, beirniadodd arweinydd yr wrthblaid, William Hague, Y Prif Weinidog Tony Blair, am ildio i ofynion diweddara' Ffrainc ynglŷn â chig eidion. Mae Llywodraeth Ffrainc yn mynnu cael ymchwiliad pellach cyn cytuno i dderbyn cig eidion o Brydain. 9. Mewn cynhadledd Ewropeaidd yn Berlin cyhuddwyd byddin Prydain o fod ymhlith y gwaethaf am recriwtio plant i'w rhengoedd. Mae ymgyrchwyr yn galw am wahardd dynion ifainc dan ddeunaw oed rhag ymuno â'r lluoedd arfog. 10. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi methu â dilyn ei ganllawiau iaith ei hun mewn rhai adrannau. Dyna mae arolwg annibynnol yn ei ddangos. Dywedwyd mai dim ond hanner y galwadau ffôn gafodd eu hateb yn Gymraeg a dim ond ychydig dros hanner staff y dderbynfa sy'n siarad yr iaith.
|