BWLETIN 3
Gwrandewch Cwestiynau Geirfa
1. Cofnodwyd rheithfarn o hunanladdiad yn achos carcharor a ganfuwyd wedi crogi yn ei gell yng ngharchar y Parc, Pen - y - Bont ar Ogwr. Roedd Dallas Lee wedi'i garcharu am oes am lofruddio Gerry Hales yn y Bontfaen.2. Lladdwyd o leiaf ugain o bobl ac anafwyd dros gant pan drawodd dau drên yn erbyn ei gilydd ger gorsaf Paddington yn Llundain. Roedd un trên yn teithio o Cheltenham a'r llall ar ei ffordd i Wiltshire. Digwyddodd y ddamwain toc wedi wyth o'r gloch y bore. 3. Ar y môr ger Pwllheli dros y Sul, cynhaliwyd seremoni i goffáu damwain a ddigwyddodd union gan mlynedd yn ôl, pan foddodd tri oedolyn a naw o blant, oedd ar drip Ysgol Sul yn yr ardal. SYLWCH Mae rhaid i fwletinau newyddion fod mor fyr â phosibl felly'n aml iawn - ond nid bob amser - mae ffurfiau berfau amhersonol cryno, yn cael eu ddefnyddio. Wrth gwrs, mae'r geiriau bach "Fe / Mi" yn cael eu gadael allan.
ee. Cofnodwyd rheithfarn - a verdict was recorded a ganfuwyd - who was found Lladdwyd o leiaf ugain . . . - at least 20 were killed Cynhaliwyd seremoni - a ceremony was held Gwelwyd golygfeydd - scenes were seen Carcharwyd Cymro - a Welshman was imprisoned amlinellwyd mesurau - measures were outlined cyhoeddwyd cynlluniau - plans were announced Sylwch ar y berfau cryno ymhob un o'r eitemau yn y bwletin uchod. |
4. Y tu allan i wersyll y Llu Awyr yn Y Fali, Ynys Môn, cynhaliwyd protest gan gangen Gwynedd o'r gryp atal awyrennau Hawk. Yn ôl y protestwyr mae'r awyrennau a pheilotiaid gafodd hyfforddiant yn y Fali wedi bod yn gormesu pobl Dwyrain Timor. 5. Gwelwyd golygfeydd o drais yng Nghaerdydd ar ddechrau'r tymor pêl droed. Cafodd canol y ddinas ei hamgylchynu gan blismyn wrth i gannoedd o gefnogwyr Millwall a Chaerdydd herio'i gilydd cyn y gêm ym Mharc Ninian. 6. Yn Llys y Goron, Caer ddydd Gwener, carcharwyd Cymro Cymraeg o'r Rhyl am chwe mis oherwydd iddo fod yn dysgu mewn ysgol leol heb y cymwysterau priodol. Plediodd Norman Francis yn euog i dwyllo er mwyn cael gwaith fel athro cemeg. Roedd e hefyd wedi twyllo i fod yn arholwr allanol. 7. Yng nghynhadledd y cyflogwyr, y CBI, yn Birmingham amlinellwyd mesurau newydd i ostwng treth i berchnogion busnesau bach gan y Canghellor, Gordon Brown. Ond beirniadwyd ei gynlluniau gan rai undebau, sy'n honni na fyddai'r bobl gyffredin yn elwa. 8. Yng Nghaerdydd, cyhoeddwyd cynlluniau newydd i gynorthwyo ffemwyr mynydd ac i ddiogelu'r amgylchedd gan Ysgrifennydd Amaeth y Cynulliad, Christine Gwyther. Bydd y cynllun yn cymryd lle'r drefn bresennol o daliadau i ffermwyr ucheldir. 9. Gwnaed dros gant a deugain o geisiadau am iawndal gan Gymry sy'n diodde' o drawma ac anafiadau ar ôl y ddamwain ym maes awyr Gerona fis Medi diwetha'. Ond mae cyfreithwyr yn ofni y gallai gymryd dwy flynedd i arbenigwyr gwblhau eu hymchwiliad i'r ddamwain. 10. Cafwyd gostyngiad sylweddol unwaith eto yn elw cwmni Marks and Spencer. Dros y chwe mis diwetha' cwympodd yr elw i gant a phedair ar ddeg o filiynau o bunnau - sef cwymp o bum deg wyth y cant o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
|