BWLETIN 1
Gwrandewch
Cwestiynau
Geirfa1. Yng nghynhadledd flynyddol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru yn Abertawe, cafodd cynllun y Llywodraeth i wobrwyo athrawon yn ôl canlyniadau eu disgyblion ei gondemio'n hallt. Mynegwyd pryder hefyd ynglyn â phrinder athrawon yng Nghymru.
2. Mewn cyfarfod yn Aberystwyth neithiwr, cadarnhaodd penaethiaid y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru eu bod yn ystyried sefydlu ymddiriedolaeth elusennol i gynnal gwasanaeth ambiwlans awyr. Mae cymdeithas foduro'r A.A wedi cynnig talu peth o'r gost ond mae angen dod o hyd i weddill yr arian.
3. Yn yr Almaen, mae'n ymddangos bod gweinidogion tramor gwledydd yr G8 (Eg Wyth) wedi dod i gytundeb ar sut i ddatrys argyfwng Kosovo. Mewn cyfarfod yn Bonn derbyniwyd cynllun heddwch drafft, sy'n cynnwys defnyddio llu rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig i amddiffyn y ffoaduriaid fydd yn dychwelyd i Kosovo.
SYLWCH Yn aml iawn mewn bwletinau newyddion - ond nid bob amser - mae gwybodaeth bwysig am amser a lle yn cael ei osod o flaen y brif ferf. ee. Yng nghynhadledd flynyddol U.C.A.C yn Abertawe, cafodd . . . . . Mewn cyfarfod yn Aberystwyth neithiwr, cadarnhaodd . . . . . Yn yr Almaen, mae'n ymddangos . . . . . Yn Blackpool heddiw, agorodd . . . . . Mewn damwain rhwng car a lori ar y ffordd rhwng Bangor a Chaernarfon ddoe, lladdwyd . . . . . Mae pob eitem yn y bwletin uchod yn cynnwys gwybodaeth bwysig o flaen y ferf. |
4. Yn Blackpool heddiw, agorodd Cynhadledd flynyddol y Blaid Lafur. Un o brif ddigwyddiadau'r wythnos fydd y drafodaeth ar ddiwygio'r Gwasanaeth Iechyd.
5. Ym Memphis, mae heddlu arfog yn dal i amgylchynu ysbyty lle mae meddyg ifanc wedi'i ddal yn wystl ers neithiwr. Dechreuodd y gwarchae pan gerddodd gŵr tua deugain oed i mewn i'r ysbyty'n cario gwn - a dal y meddyg yn gaeth mewn ystafell yn erbyn ei ewyllys.
6. Yn Llys y Goron, Bryste, cafwyd meddyg teulu o'r ddinas yn ddi - euog ar ddau ar hugain o gyhuddiadau o ymosod yn anweddus ar wragedd. Roedd Dr Stanley wedi'i gyhuddo o gyflawni'r troseddau dros gyfnod o bymtheng mlynedd.
7. Mewn damwain rhwng car a lori ar y ffordd rhwng Bangor a Chaernarfon ddoe, lladdwyd dau o bobl oedd yn teithio yn y car. Aethpwyd â David Rogers a'i wraig Mary i Ysbyty Gwynedd ond dywedwyd eu bod nhw'n farw pan gyrhaeddon nhw.
8. Mae'r Uchel Lys yn Llundain wedi caniatáu mechiniaeth amodol i gyn unben Chile, y Cadfridog Pinochet, tra mae Ty'r Arglwyddi'n ystyried ei dynged.
9. Yn Ne Korea, mae'r banciau wedi penderfynnu peidio â chaniatau rhagor o gredyd i gwmni L.G, sy'n adeiladu ffatri yng Nghasnewydd. Mae'r sefydliadau ariannol yn dial ar y cwmni ar ôl i L.G wrthod gorchymyn llywodraeth De Korea i uno â chwmni Hyundai.
10. Mewn cyfarfod yn Llandrindod heddiw, dywedodd y Dr Elizabeth Heywood, cyfarwyddwr CBI Cymru, fod penderfyniad Banc Lloegr i godi'r gyfradd llog o chwarter un y cant yn ergyd fawr i ddiwydiannau ledled Cymru. Bwriad y banc yw cadw chwyddiant dan reolaeth ond yn ôl y CBI mae'r codiad yn peryglu tŵf yr economi sy'n dal i ddiodde' oherwydd cryfder y bunt.