Ffyrdd hawdd o helpu'ch plentyn i ddysgu drwy weithgareddau crefft (hyd yn oed os nad ydych chi'n meddwl eich bod chi’n greadigol)

Mae gweithgareddau celf a chrefft yn llawn profiadau synhwyraidd i ysbrydoli'ch plentyn, ac maen nhw hefyd yn ffordd hwyliog a hamddenol o dreulio amser gyda’ch gilydd.

Felly, wrth i’r sgwrs lifo’n naturiol wrth beintio, gludo pethau neu greu model (neu beth bynnag rydych chi’n digwydd bod yn ei wneud), mae hynny’n gyfle perffaith i gyflwyno geiriau newydd.

Does dim rhaid i chi fod yn gwirioni ar gelf i fod yn greadigol gyda’ch plentyn, a pheidiwch â phoeni am greu gwaith celf hyfryd ar y diwedd – dim ond canolbwyntio ar feithrin perthynas â’ch plentyn a’i annog. A byddwch yn barod i wneud llanast.

Mae plant yn greadigol iawn yn naturiol, sy'n grêt os ydych chi’n methu meddwl am syniadau. Gadewch i'r plant gymryd yr awenau a phenderfynu beth i’w wneud neu ei greu – efallai bydd eu syniadau nhw’n eich synnu.Dyma ychydig o ffyrdd syml o sgwrsio dros gelf a chrefft…

Mam a merch yn plymio'n uchel gyda dwylo wedi'u paentio.

Chwilio am ysbrydoliaeth yn yr awyr agored

Anghofiwch am becynnau celf ffansi, mae popeth rydych chi ei angen i wneud celf a chrefft ar gael ym myd natur – o wneud collage dail i greu cadwyni concyrs.

Mae bod yn yr awyr agored yn fuddiol iawn i chi a’ch plentyn, ac mae’n hawdd bod yn greadigol pan fyddwch chi yn yr awyr agored hefyd – mae’n gyfle i chi glirio’ch meddwl, ac yn helpu datblygiad eich plentyn hefyd.

  • Casglu eitemau diddorol

Casglwch eitemau o’ch gardd neu o’r parc a chreu gardd fach drwy gasglu glaswellt, pridd, cerrig, dail, blodau neu hyd yn oed chwyn, ac addurno plât papur gyda'r holl bethau hyn. Treuliwch amser yn trafod beth yw enw pethau, a helpu’ch plentyn i’w rhoi mewn trefn mewn ffordd greadigol.

  • Chwilio am liwiau gwahanol

Mae bod yn yr awyr agored yn gyfle perffaith i ddechrau cyflwyno'r geiriau am wahanol liwiau i’ch plentyn. Os ydyn nhw’n hŷn, gall plant bwyntio at bob un o'r lliwiau a mynd ar helfa drysor. Os yw’r eitemau’n ddiogel i’w casglu – er enghraifft dail a glaswellt gwyrdd – gallwch ddefnyddio'r rhain i wneud collage, neu dynnu llun ohonyn nhw gyda chamera cyn mynd ati i dynnu llun â llaw ar ôl cyrraedd gartref.

  • Siarad am anifeiliaid

Gan ddibynnu ar oedran eich plentyn, dylech chi ei annog i bwyntio at anifeiliaid, ceisio eu henwi neu ddynwared sut maen nhw’n symud. Ar ôl cyrraedd gartref, gofynnwch i’ch plentyn a yw’n gallu cofio pa anifeiliaid roedd wedi’u gweld, a’i helpu i dynnu llun o un ohonyn nhw. Wrth i’ch plentyn fynd yn hŷn, gall hyd yn oed ddechrau gwneud storïau syml am yr anifeiliaid mae’n eu gweld.

Merch ifanc yn dal tiwb cardbord wrth ei llygad.

Bod yn greadigol gyda’ch ailgylchu

Er bod llawer o hwyl i’w gael yn yr awyr agored, dydy’r tywydd ym Mhrydain ddim bob amser yn rhywbeth i’w groesawu, felly bydd angen cynllun wrth gefn arnoch chi. Ar gyfer y dyddiau hynny, ceisiwch fod yn greadigol gyda gwahanol drugareddau yn eich cartref.

Er enghraifft, gall rhywbeth mor syml â chaeadau poteli llaeth arwain at ddigonedd o bosibiliadau gyda chelf a chrefft; mae’n bosibl eu defnyddio i helpu i gyfrif, ac i adnabod siapiau a lliwiau. Gallech hyd yn oed eu defnyddio i wneud tŵr, neu eu haddasu i fod yn botiau paent bach.

  • Siarad am sut mae pethau’n teimlo

Gofynnwch gwestiynau sy’n gwneud i blant deimlo'r pethau o’u cwmpas. Dywedwch wrth eich plentyn o beth mae pethau wedi cael eu gwneud (coed, plastig ac ati), a gofyn a yw’n gallu dyfalu drwy ddim ond eu teimlo. Efallai y bydd yn gallu dweud yr enw, neu bwyntio at rywbeth arall sydd wedi’i wneud o’r un deunydd.

  • Rhoi pethau o'r un lliw gyda’i gilydd

Mae’r gweithgaredd yma’n wych i blant hŷn os oes gennych chi ormod o hen drugareddau – o focsys grawnfwyd i gaeadau poteli. Ar ôl eu gosod mewn pentyrrau lliw, neu hyd yn oed eu gosod fel enfys, mae’n bosibl eu defnyddio i wneud collage neu gardiau ar gyfer ffrindiau a theulu.

  • Creu cymeriadau

Gallwch drawsnewid pethau fel hen diwbiau cardfwrdd, llinynnau a hen sbyngau i greu cymeriadau sgrap. Anogwch eich plentyn i esbonio beth mae'n ei wneud ym mhob cam ac i siarad am liwiau, gweadau a phatrymau. Os yw'ch plentyn yn rhy ifanc i greu rhywbeth, gallech chi greu pyped a defnyddio llais gwirion i wneud i'ch plentyn chwerthin.

Teulu yn paentio gyda bysedd yn yr awyr agored

Rhoi cynnig ar chwarae blêr

Mae gwaith celf a chrefft i fod i wneud llanast, felly ewch amdani. Paratowch fan penodol i wneud celf a chrefft, drwy orchuddio’ch llawr neu fwrdd gyda phapurau newydd neu hen gylchgronau (a gwneud yn siŵr bod gennych chi liain wrth law). Does dim ots a ydych chi’n peintio, yn chwarae gyda swigod neu’n pobi, mae’n grêt bwrw iddi a siarad am yr hyn rydych chi’n ei wneud. Mae chwarae blêr yn helpu i ddatblygu dychymyg eich plentyn, ac yn rhoi hyder iddo ddefnyddio geiriau newydd.

Ac os ydych chi'n gwneud rhywbeth rydych chi'n mynd i'w gadw, gadewch i'ch plentyn benderfynu ble i'w roi neu i bwy i'w roi. Bydd hyn yn ei wneud yn atgof arbennig iawn, gan fod eich plentyn wedi cael helpu i benderfynu i ble mae’n mynd.

  • Gweadau gwahanol

Mae creu'ch bwrdd neu’ch llyfr gweadau eich hun yn syniad gwych ar gyfer chwarae gyda dwylo. Wrth i’ch plentyn fwrw iddi, siaradwch am sut mae gwahanol bethau’n teimlo, er enghraifft gwlân cotwm ‘gwlanog’, a ffoil tun sy'n ‘crensian’.

  • Gwneud sŵn

P’un ai ydych chi’n crensian dail neu’n tasgu dŵr, cofiwch ddefnyddio sŵn gyda gweithgareddau chwarae blêr. Gall hyd yn oed babis gymryd rhan: maen nhw wrth eu bodd â sŵn papur yn rhwygo, felly beth am lapio eitem a’u helpu i’w rwygo ar agor?

  • Paratoi a thacluso gyda’ch gilydd

Ar ôl i chi wneud llanast sawl gwaith, bydd eich plentyn yn dechrau dysgu'r drefn. Bydd yn gwybod bod angen gosod hen gylchgronau allan i atal llanast cyn dechrau, a bod angen gwisgo ffedog. Holwch eich plentyn beth sydd ei angen i weld beth mae’n ei gofio (fe gewch chi’ch synnu!). Drwy wneud hyn, bydd eich plentyn wir yn teimlo’n rhan o’r gweithgaredd, ac yn dechrau sgwrsio â chi’n syth.

Gall eich plentyn helpu gyda’r gwaith clirio hefyd (hyd yn oed os yw hynny’n golygu ei fod yn cymryd ychydig mwy o amser) – mae’n gyfle gwych arall i ryngweithio a sgwrsio am beth sydd angen digwydd.

Cyngor pwysig ar ddiogelwch

Cadwch lygad ar eich plentyn drwy’r amser yn ystod gweithgareddau crefft ac amser chwarae. A chofiwch gadw gwrthrychau bach a miniog allan o afael eich plentyn.

Os ydych chi'n cyffwrdd â phlanhigion, cofiwch fod rhai’n gallu bod yn niweidiol. Edrychwch ar y rhestr ddefnyddiol yma gan y Royal Horticultural Society (RHS).

Ble nesaf?