Sut mae gwybod a oes angen bwyd ar y babi?

Dydy’ch babi ddim yn gallu siarad, ond mae’n cyfathrebu â chi mewn llawer o ffyrdd eraill heb ddefnyddio geiriau. Mae babis yn defnyddio eu corff i ddweud wrthych chi beth maen nhw ei eisiau a sut maen nhw’n teimlo, gan gynnwys pan fyddan nhw eisiau bwyd.

“Mae babis yn cyfathrebu drwy eu hymddygiad o’r eiliad maen nhw’n cael eu geni. A dweud y gwir, maen nhw’n cyfathrebu cyn cael eu geni, drwy ymateb i synau fel cerddoriaeth neu weithgareddau fel mam yn cael bath. Maen nhw’n wych am gyfleu eu neges,” eglura Inge Nickell, Cyfarwyddwr Brazelton Centre UK, sef elusen genedlaethol sy’n hybu dealltwriaeth o’r ffordd mae babis newydd-anedig yn cyfathrebu. “Maen nhw’n dangos pob math o bethau i ni drwy eu hymddygiad – beth maen nhw’n ei hoffi a beth dydyn nhw ddim yn ei hoffi, eu cryfderau a’u sensitifrwydd.”

Mam yn bwydo ei babi ar y fron.
Image caption,
Efallai nad yw babis yn gallu defnyddio eu llais i siarad gyda chi, ond maen nhw’n ceisio dweud rhywbeth wrthych chi’n aml, gan gynnwys pan fyddan nhw’n barod i gael bwyd.

Mae adnabod arwyddion bwydo yn broses o ddysgu

Mae Inge yn egluro bod dod i adnabod arwyddion eich babi yn rhan o’r holl broses o ddod i adnabod eich babi.

Mae’ch babi’n unigryw, a’r unig ffordd o ddod i’w adnabod – fel unrhyw berson newydd yn eich bywyd – yw treulio amser gyda'ch gilydd. Ac mae’n cymryd amser: dydych chi ddim yn cwrdd â rhywun am y tro cyntaf ac yn meddwl, ‘Iawn, rydyn ni’n adnabod ein gilydd!’, a dydy hynny ddim yn wahanol gyda’ch babi.

Mae gwybod beth yw chwe chyflwr bywiogrwydd eich babi yn rhan bwysig o adnabod ei arwyddion. Mae tri chyflwr cysgu: cwsg trwm, cwsg gweithredol neu gwsg ysgafn – pan fydd babis yn gwneud llawer o symudiadau bach, gan gynnwys amrannau’n crynu ac yn gysglyd. Ac mae tri chyflwr effro: yn dawel effro – cyfnod gwych i’w bwydo, yn effro ond yn anodd eu plesio, a chrïo. Mae babis yn symud rhwng y cyflyrau hyn yn gyflym, ond nid yn yr un drefn bob amser.

“Pan fyddwch chi’n gallu adnabod y cyflyrau hyn a gwybod beth maen nhw’n ei olygu, byddwch chi’n gallu ymateb i’ch babi a deall ei anghenion. Bydd eich babi'n cynhyrfu llai oherwydd bod ei anghenion yn cael eu diwallu, a bydd yn dysgu ei fod yn gallu ymddiried ynoch chi. Mae hyn yn galluogi'ch babi i ganolbwyntio'n benodol arnoch chi, sef y person mae'n dibynnu arno i ddysgu am y byd. A’r rhyngweithio yma rhyngoch chi sy’n eich helpu chi a’ch babi i deimlo’n ddiogel ac i greu perthynas glós,” ychwanega Inge.

Arwyddion bwydo cyffredin

Mae angen bwyd yn aml ar fabis sydd newydd gael eu geni, ac mae dysgu arwyddion personol eich babi pan fydd angen cael ei fwydo yn helpu i’ch arwain pan fydd hynny’n digwydd.

Mae gwybod pryd mae’ch babi eisiau cael ei fwydo, ac ymateb i'ch babi cyn iddo ypsetio a dechrau crïo, yn broses raddol, ond bydd cadw’ch babi’n agos atoch chi yn eich helpu gyda’r broses ddysgu yma.

“Mae pob babi’n wahanol, felly mae hi’n bwysig bod rhieni’n gwylio eu babi ac yn cadw golwg am ei arwyddion penodol,” medd Inge.

Cliciwch drwy'r sioe sleidiau i weld rhai o'r arwyddion mwyaf cyffredin – mae'r rhain yn cynnwys:

  • Chwilio am ffynhonnell fwyd trwy droi ei ben ac agor ei geg pan fydd rhywbeth yn cyffwrdd â’i geg neu ei foch, neu agor ei geg yn syml
  • Clecian/llyfu gwefusau
  • Ymestyn
  • Sugno bysedd
  • Gwneud dwrn
  • Symud a bod yn aflonydd

Arwydd arall i gadw llygad amdano yw babis yn agor/cau ac yn symud eu llygaid.

Ymhen amser, byddwch chi hefyd yn dysgu pa arwyddion sydd gan eich babi i ddweud: “Dw i’n llawn, diolch!”

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 6, Babi yn chwilio am fwyd., Chwilio am fwyd gyda’i geg neu agor ei geg

A dysgu pan nad yw'ch babi angen cael ei fwydo

Crïo yw’r arwydd cryfaf y bydd eich babi’n ei ddefnyddio i gyfleu ei fod angen llaeth – y dewis olaf er mwyn cael eich sylw. Ond os yw eich babi’n crïo, dydy hynny ddim o reidrwydd yn golygu ei fod angen cael ei fwydo – mae’n gallu golygu ei fod angen cwtsh neu newid ei safle.

Felly, bydd dysgu adnabod gwahanol arwyddion a chyflyrau ymddygiad eich babi yn eich helpu chi i wybod pryd mae angen iddo gael ei fwydo, yn ogystal â phryd nad oes angen iddo gael ei fwydo,” eglura Inge. “Er enghraifft, yn ystod y cyflwr cwsg gweithredol pan fydd llawer o symudiadau a synau yn digwydd, mae'n bosibl y bydd hyd yn oed yn crïo ychydig bach hefyd. Ac efallai y byddwch chi’n meddwl ei fod angen cael ei fwydo. Ond dydy’r babi ddim yn gwbl barod mewn gwirionedd, a gall fynd yn ffwndrus os byddwch chi’n ceisio ei fwydo.”

Mam yn dal ei babi sy'n crio.
Image caption,
Mae crïo’n gallu bod yn ymgais olaf gan fabi i geisio cael ei fwydo, ond dydy crïo ddim o reidrwydd yn golygu ei fod angen cael ei fwydo.

Ond peidiwch â phoeni: mae hyn i gyd yn rhan o’r broses o ddod i adnabod eich babi, medd Inge.

“Er ei bod yn rhaid i chi roi cynnig ar bethau gwahanol weithiau cyn cael pethau’n iawn, bydd eich babi’n dysgu’n fuan iawn eich bod chi’n gwybod beth mae’n ceisio ei ddweud, ac y byddwch chi’n ei helpu.”

Byddwch chi’n dysgu pethau newydd am eich babi bob dydd – ond 'darllen' eich babi yw’r llyfr a’r arweiniad gorau.

I gael mwy o gyngor (drwy gyfrwng Saesneg) ar fwydo’ch babi newydd-anedig, darllenwch ganllawiau’r GIG.

Ble nesaf?