Technegau ar gyfer Siarad 0-3 mis: Pam ei bod yn wych i fod wyneb yn wyneb â'ch babi

Mae chwarae a sgwrsio wyneb yn wyneb yn ffordd wych i fabis ddechrau dysgu o’r dechrau un.

O’r diwrnod cyntaf, mae babis yn ymateb i gyswllt llygaid ac yn gallu adnabod y lleisiau maen nhw'n eu clywed amlaf. Drwy weld ystumiau wyneb a gwylio cegau’n symud wrth wneud synau, mae babis yn dechrau dysgu am iaith.Felly un o’r pethau gorau galli di ei wneud o’r dechrau un yw closio at dy fabi a gadael iddo fe neu iddi hi wylio dy wyneb wrth i ti siarad.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 4, Mae babis yn dysgu cymaint oddi wrth dy wyneb – gan wylio dy geg a chlywed dy lais., Mae babis yn dysgu cymaint oddi wrth dy wyneb – gan wylio dy geg a chlywed dy lais.

Rhag ofn ichi ei golli