Mae’r gystadleuaeth Straeon Hinsawdd Gohebydd Ifanc y BBC yn agored i holl breswylwyr y DU (gan gynnwys preswylwyr Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) sydd rhwng 18 a 24 oed ar y dyddiad cau, sef 5ed Medi 2021. Efallai y bydd angen dangos tystiolaeth o bwy ydych chi, eich oedran a’ch bod yn gymwys i gymryd rhan.
Nid yw'r gystadleuaeth ar agor i'r rheini sydd â chysylltiad agos ag aelodau staff y BBC neu Grŵp y BBC neu weithwyr llawrydd y BBC. Mae Straeon Hinsawdd Gohebydd Ifanc y BBC yn gystadleuaeth a gynhyrchir gan staff y BBC.
Dim ond ceisiadau a fydd yn cael eu cyflwyno drwy’r system ar-lein, o 26/07/2021 ymlaen, fydd yn cael eu hystyried. Ni ellir enwebu drwy unrhyw ddull arall.
Dim ond ceisiadau Saesneg fydd yn cael eu hystyried oni bai eich bod yn cyflwyno cais o Gymru neu’r Alban, lle mae ceisiadau Cymraeg a Gaeleg yn cael eu caniatáu hefyd. At ddibenion beirniadu ceisiadau Cymraeg a Gaeleg, bydd y ceisiadau'n cael eu cyfieithu i’r Saesneg. Gall y cyflwyniadau gynnwys testun, fideo neu sain.
Ni ddylai ceisiadau ysgrifenedig fod yn hirach na 500 gair. Ni ddylai fideos neu recordiadau sain fod yn hirach na thri munud.
Rhaid i'r cais sy'n cael ei gyflwyno fod yn waith gwreiddiol yr ymgeisydd ei hun ac ni ddylai ddifenwi na thorri unrhyw hawlfraint na chynnwys unrhyw beth a allai gael ei ystyried yn annymunol neu’n amhriodol. Bydd unrhyw ddeunydd sy’n cael ei ystyried yn anaddas yn cael ei ddileu o’r broses feirniadu a’i wahardd. Dylai'r ymgeiswyr gadw copi oherwydd ni fydd unrhyw geisiadau’n cael eu dychwelyd.
Rhaid i’r cais gael ei gyflwyno gyda’r holl wybodaeth y gofynnir amdani drwy'r broses gyflwyno ar-lein. Ni fydd unrhyw gais nad yw’n cynnwys yr wybodaeth yn gais dilys ac ni fydd yn mynd ymlaen yn y gystadleuaeth.
Rhaid cyflwyno'r ceisiadau i’r BBC erbyn 23:59:59 ar 5ed Medi 2021 fan bellaf. Bydd ceisiadau hwyr, anghyflawn, annarllenadwy neu anghlywadwy yn cael eu gwahardd. Ni all y BBC dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiant neu ddiffyg technegol, a all olygu bod atal unrhyw gais yn hwyr, neu beidio â chofrestru neu recordio unrhyw gais yn iawn.
Mae’r BBC yn cydnabod bod perchnogaeth unrhyw hawliau eiddo deallusol yn y cais yn aros gyda’r ymgeiswyr, ond drwy uwchlwytho deunydd mae pob ymgeisydd yn rhoi’r hawl anghyfyngedig i’r BBC ddefnyddio neu atgynhyrchu, yn rhad ac am ddim, eu cais neu ran ohono fel rhan o sylw’r BBC i newid yn yr hinsawdd neu fel cyhoeddusrwydd i Ohebydd Ifanc y BBC a Straeon Hinsawdd Gohebydd Ifanc y BBC mewn unrhyw ffordd, a hynny ym mhob cwr o’r byd.
Bydd ceisiadau’n cael eu rhoi ar y rhestr fer a’u dewis gan ddefnyddio’r meini prawf canlynol:
- Gwerth golygydd - cryfder y stori a’r ongl / addasrwydd y stori i'r rhaglen neu’r llwyfan
- Gwreiddioldeb a / neu bersbectif unigryw
- Cymhelliant i adrodd y stori
- Gallu adrodd straeon
- Sgiliau darlledu
Bydd y beirniaid hefyd yn gobeithio gweld ystod o straeon amrywiol yn cynrychioli amrywiaeth o bynciau ledled y Deyrnas Unedig a bydd y casgliad terfynol o straeon yn adlewyrchu hyn.
Bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu gan o leiaf dau feirniad. Y nod fydd rhoi tri chais ar y rhestr fer ym mhob un o’r meysydd canlynol: Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Cymru a 42 ledled Lloegr. O’r rhestr fer hon, bydd beirniaid rhanbarthol yn dewis o leiaf un Gohebydd Ifanc y BBC ym mhob un o’r meysydd canlynol: Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru a 14 ledled Lloegr.
Bydd gofyn i ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer fynychu cyfweliad ar-lein gyda beirniaid y categori rhwng 06/09/2021 a 24/09/2021.
Bydd y Gohebwyr Ifanc dethol yn cael eu gwahodd a disgwylir iddynt fynychu cyfres o weithdai hyfforddi a gwybodaeth (bydd rhai o’r rhain yn cael eu cynnal o bell a rhai wyneb yn wyneb). Bydd y BBC yn trefnu cludiant i’r ymgeiswyr lle bo angen ac ni fydd disgwyl iddynt dalu am hyn.
Bydd Straeon Hinsawdd Gohebydd Ifanc y BBC yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos a fydd yn dechrau ar 28/09/2021 ar-lein yn www.bbc.co.uk/youngreporter.
Bydd penderfyniad y BBC yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebu’n digwydd mewn perthynas â’r gystadleuaeth.
Mae’r BBC yn cadw'r hawl i ganslo'r gystadleuaeth neu newid unrhyw un o’r rheolau hyn os ar unrhyw adeg y bydd yn credu bod hynny'n angenrheidiol neu os bydd amgylchiadau'n codi sydd y tu hwnt i'w reolaeth. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau o'r fath mewn da bryd. Ni ellir dal y BBC yn gyfrifol am unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl sy'n ymwneud â gorfod canslo neu ohirio’r gystadleuaeth.
Ni chaiff y BBC, ei is-gontractwyr, ei is-gwmnïau a/neu ei asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw fethiant neu ddiffyg technegol neu unrhyw broblem arall ag unrhyw weinydd, mynediad rhyngrwyd, system neu fel arall a all arwain at beidio â chofrestru neu recordio unrhyw gais yn iawn.
Ni fydd y BBC yn gyfrifol am unrhyw gostau a gewch fel rhan o’r broses gyflwyno ar gyfer y prosiect hwn. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i gynnal ymchwil am unrhyw straeon a ddarparwyd i gefnogi’r cais os oes angen.
Mae’r telerau ac amodau hyn yn cael eu rheoli gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.
Mae Telerau Defnyddio ar-lein y BBC yn berthnasol i geisiadau a geir drwy lwyfan llwytho i fyny ar-lein y BBC – www.bbc.co.uk/terms