Mae’n bwysig iawn i ni eich bod chi’n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y BBC wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol chi. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydyn ni’n defnyddio gwybodaeth o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â’r ddeddf diogelu data.
Pam ydyn ni’n gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan
Mae gan y BBC gyfle unigryw i roi llais i bobl ifanc yn y sylw a roddir i ddigwyddiad lle mae eu dyfodol yn y fantol, gan roi’r cyfle iddynt rannu eu dealltwriaeth a’u hymgysylltiad penodol â newid yn yr hinsawdd a’u cefnogi i archwilio rhai materion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd. Mae’n gyfle iddynt ymchwilio a chyfleu pam y dylen nhw (a chynulleidfaoedd ehangach nad ydynt yn ymwneud cymaint â chynnwys am yr amgylchedd a gwyddoniaeth) boeni am Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26).
Mae Straeon Hinsawdd Gohebydd Ifanc y BBC yn chwilio am ohebwyr ifanc talentog, sy’n creu cynnwys ledled y DU. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed weithio gyda thimau’r BBC i gynhyrchu straeon gwreiddiol sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd ar gyfer gwasanaethau’r BBC, gan gyfrannu at raglenni o ansawdd uchel y BBC ar gyfer COP26.
Bydd y bobl ifanc a ddewisir yn cynrychioli lleisiau gwahanol o bob rhan o’r DU. Bydd y rhestr fer yn canolbwyntio ar ddod o hyd i ystod eang o safbwyntiau, gan flaenoriaethu’r rhai sydd â’r ddawn o adrodd straeon yn hytrach na rhywun sydd eisoes yn ymwneud â phwnc yr hinsawdd, h.y. fel ymgyrchydd ifanc.
Rydyn ni’n chwilio am 22 o bobl ifanc a fydd yn cael hyfforddiant ymarferol gyda staff y BBC ac yn cynhyrchu cynnwys ar gyfer o leiaf un o raglenni neu lwyfannau’r BBC. Bydd pob un yn cael mentor, hyfforddiant a chefnogaeth i greu cynnwys gyda/ac ar gyfer y BBC.
Gofynnir i bobl ifanc roi manylion am stori maen nhw eisiau adrodd arni sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd a sy’n berthnasol iddyn nhw neu’r ardal maen nhw’n byw ynddi – gall hon fod yn sail i’r adroddiad maen nhw’n ei gynhyrchu gyda’r BBC a/neu ddarparu gwybodaeth sy’n cael ei harwain gan y gynulleidfa i siapio’r broses olygyddol ehangach. Gofynnir iddynt hefyd ddarparu fideo neu glip sain byr sy’n dangos sgiliau darlledu/adrodd straeon blaenorol.
Bydd y BBC yn casglu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion gweinyddu a darlledu “Straeon Hinsawdd Gohebydd Ifanc y BBC”. Bydd tîm cynhyrchu’r BBC yn casglu eich gwybodaeth bersonol drwy lwyfan ar-lein a ddefnyddir gan y BBC.
Beth fydd y BBC yn ei gasglu a sut byddwn yn ei ddefnyddio
Dim ond data angenrheidiol y byddwn yn ei gasglu gennych er mwyn i chi allu cymryd rhan yn y rhaglen. Rhaid i chi fod rhwng 18 a 24 oed i gymryd rhan.
Mae’r data personol y byddwn yn ei gasglu yn cynnwys:
- Enw
- Oedran
- Rhanbarth y DU (er enghraifft, Cymru, yr Alban neu Loegr)
- Sir
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif ffôn
- Eich cyflwyniadau sain neu fideo
- Eich syniad
- Darn enghreifftiol o gyfrwng (gan gynnwys beth oedd eich cymhelliant a’ch rôl)
Pwy yw’r Rheolydd Data?
Y BBC yw “rheolydd data” eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn golygu mai’r BBC fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio, a sut y bydd yn cael ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chasglu a’i phrosesu at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn unig. Fel y rheolydd data, mae gan y BBC gyfrifoldeb i gydymffurfio â chyfraith diogelu data, a dangos ei fod yn cydymffurfio â hi.
Sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth bersonol
Y sail gyfreithiol y mae’r BBC yn prosesu eich data personol arni yw ei rôl gyhoeddus i weithredu er budd y cyhoedd ac i wasanaethu cynulleidfa gyda chynnwys sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu, ac i gefnogi dysgu ar gyfer pobl o bob oed, gan gynnwys meithrin doniau newydd. Mae hefyd o fudd i ni wybod beth yw barn ein cynulleidfaoedd, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud rhywbeth i bawb.
A ydym yn rhannu eich data personol â Thrydydd Partïon?
Rydym yn defnyddio darparwr storfa ddata trydydd parti i storio’r data sy’n cael ei gasglu drwy lwyfan llwytho i fyny y BBC. Mae’r holl gyflenwyr trydydd parti hyn yn defnyddio eich data personol ar ran y BBC yn unig ac nid yn annibynnol ar y BBC.
Ni fyddwn yn rhannu'ch data personol ag unrhyw drydydd partïon eraill, oni bai fod y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu hynny.
Cadw eich gwybodaeth
Bydd data personol yr ymgeisydd yn cael ei gadw tan 31ain Rhagfyr 2022. Ar ôl hynny, bydd yn cael ei dileu.
Bydd data personol y rhai a ddewiswyd yn cael ei gadw tan 31 Rhagfyr 2022. Ar ôl hynny, bydd yn cael ei dileu.
Os bydd eich cyfraniadau yn cael eu defnyddio i’w darlledu, bydd eich data personol yn cael ei gadw a’i archifo gan y BBC am byth.
Bydd eich data’n cael ei storio yn y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Eich hawliau a rhagor o wybodaeth
Mae gennych hawliau o dan y gyfraith diogelu data.
Gallwch ofyn am gopi o’r data personol mae’r BBC yn ei storio amdanoch chi.
Mae gennych hawl i ofyn i’r data personol rydym yn ei gasglu amdanoch gael ei ddileu, ond mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a allai roi hawl i’r BBC wrthod eich cais.
Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol neu wrthwynebu prosesu eich data personol.
Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu i sefydliad arall, mewn rhai amgylchiadau.
Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau neu os ydych am gael gwybod mwy am eich hawliau, ewch i Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC yn www.bbc.co.uk/privacy. Sylwch fod y disgrifiad o’r data personol sy’n cael ei gasglu a sut mae’n cael ei ddefnyddio yn yr hysbysiad hwn yn berthnasol i eithrio unrhyw beth i’r gwrthwyneb a nodir ym Mholisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC.
Os ydych chi’n poeni am y ffordd mae’r BBC wedi delio â’ch gwybodaeth bersonol, gallwch godi’r pryder gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) https://ico.org.uk/.
Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Byddwn yn adolygu’r hysbysiad preifatrwydd os bydd newidiadau sylweddol yn y ffordd rydym ni’n defnyddio eich data personol.