Mae’n bwysig iawn i ni eich bod chi’n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y BBC wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydyn ni’n defnyddio data personol o'r fath.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â chyfraith diogelu data.
Lawrlwythwch fersiwn o'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn a gynhyrchwyd yn benodol ar gyfer pobl ifanc.
Pam ydyn ni’n gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan?
Mae’r BBC yn chwilio am bobl ifanc 11-18 oed sydd eisiau adrodd ar stori sy’n bwysig i’w bywydau neu’r byd o’u cwmpas, fel rhan o Gystadleuaeth Gohebydd Ifanc y BBC 2024.
Y thema yw Fi a Fy Myd. I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rhaid i chi anfon amlinelliad o’ch syniad am stori gan ddefnyddio’r thema hon. Gall hyn fod naill ai’n gyflwyniad ysgrifenedig, neu’n glip sain neu fideo wedi’i recordio sy’n para dim mwy na thri (3) munud.
Bydd y BBC yn casglu'r data personol drwy lwyfan ar-lein a ddefnyddir gan y BBC.
Bydd straeon yn cael eu rhoi ar y rhestr fer mewn dau grŵp oedran gwahanol: Plant 11-15 oed ac 16-18 oed. Rhaid i bob ymgeisydd ar gyfer Cystadleuaeth Gohebydd Ifanc y BBC roi manylion cyswllt eu rhieni/gwarcheidwaid, er mwyn gallu cadarnhau eu caniatâd i wneud cais.
Bydd y straeon mwyaf gwreiddiol a diddorol yn cael eu rhoi ar y rhestr fer a’u beirniadu gan gyflwynwyr, gohebwyr, uwch-olygyddion a chynhyrchwyr i’w hystyried ar lefel ranbarthol a chenedlaethol. Bydd yr ymgeiswyr buddugol yn cael eu darlledu gan y BBC ar deledu, radio a/neu ar-lein.
Os byddwn yn darlledu eich cyfraniad, gall hyn olygu bod y rhaglen ar gael ar-lein a/neu ar-alw, a gellir defnyddio’r cyfraniad eto mewn darllediad yn y dyfodol. Gall hefyd gynnwys defnydd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y BBC.
I gael gwybodaeth am sut bydd y BBC yn prosesu eich data personol pan fyddwch chi’n cyfrannu at ein rhaglenni, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cyfranwyr yma.
Pa ddata personol fydd y BBC yn ei gasglu?
Mae dau fath o ddata personol: data personol a data categori arbennig. Mae data categori arbennig yn ddata personol hefyd, ond rhaid i’r BBC ddilyn camau cydymffurfio ychwanegol er mwyn prosesu data o’r fath.
Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol amdanoch chi:
- Enw
- Oedran
- Lleoliad
- Recordiadau sain/fideo (os yn berthnasol)
Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol am eich rhiant/gwarcheidwad:
- Enw
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif ffôn cyswllt
Gall y BBC hefyd brosesu data categori arbennig amdanoch chi, yn dibynnu ar gynnwys eich cyflwyniad i ni. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft:
- Tarddiad hiliol neu ethnig
- Credoau crefyddol neu athronyddol
- Gwybodaeth iechyd
- Cyfeiriadedd rhywiol
Pwy yw’r Rheolydd Data?
Y BBC yw rheolydd data eich data personol. Mae hyn yn golygu mai’r BBC fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio, a sut y bydd yn cael ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dim ond at y dibenion sydd wedi’u nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn y bydd eich data personol yn cael ei gasglu a’i brosesu. Fel y rheolydd data, mae gan y BBC gyfrifoldeb i gydymffurfio â chyfraith diogelu data, a dangos ei fod yn cydymffurfio â hi.
Sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol
Mae’r ffordd y mae’r BBC yn prosesu’ch data personol wedi’i seilio’n gyfreithiol ar gyflawni ei rôl gyhoeddus. Y sail gyfreithiol y mae’r BBC yn prosesu eich data categori arbennig arni yw budd cyhoeddus sylweddol.
Rôl y BBC yw gweithredu er budd y cyhoedd a gwasanaethu pob cynulleidfa gyda chynnwys sy’n hysbysu, addysgu a diddanu. Mae hyn yn gyson â dibenion cyhoeddus ehangach y BBC dan ei Siarter Frenhinol sy’n cynnwys adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol holl wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig, a darparu cynnwys addysgol arbenigol i helpu i gefnogi dysgu ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu harddegau ledled y Deyrnas Unedig.
Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol hefyd i brosesu data personol yr enillwyr er mwyn cydymffurfio â rheoliadau cystadleuaeth perthnasol.
Rhannu eich data personol
Mae’r BBC yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Mae’r partneriaid hyn yn defnyddio’ch data personol ar ran y BBC yn unig, ac nid yn annibynnol ar y BBC.
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti, os bydd y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu hynny.
Cadw eich data personol
Os byddwch yn aflwyddiannus, bydd y BBC yn dileu eich data personol ar 31 Gorffennaf 2024.
Bydd cyfraniadau sy’n cael eu darlledu a/neu eu cyhoeddi yn cael eu cadw a’u harchifo am byth.
Bydd data arall gan ymgeiswyr llwyddiannus a’u rhieni/gwarcheidwaid yn cael ei gadw am ddwy (2) flynedd at ddibenion rheoleiddio a chydymffurfio.
Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Eich hawliau a rhagor o wybodaeth
Mae gennych chi hawliau o dan gyfraith diogelu data:
- Gallwch ofyn am gopi o’r data personol mae’r BBC yn ei storio amdanoch chi.
- Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.
- Mae gennych chi hawl i ofyn i’r data personol rydyn ni’n ei gasglu amdanoch gael ei ddileu, ond mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a allai roi’r hawl i’r BBC wrthod eich cais.
- Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych chi hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol neu wrthwynebu prosesu eich data personol.
- Mae gennych chi hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu i sefydliad arall, mewn rhai amgylchiadau.
Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau, neu os ydych chi am gael gwybod mwy am eich hawliau, edrychwch ar Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC yn http://www.bbc.co.uk/privacy.
Os ydych chi’n poeni am y ffordd mae’r BBC wedi delio â’ch data personol, gallwch godi’r pryder gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) https://ico.org.uk/.
Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Byddwn yn diwygio’r hysbysiad preifatrwydd os bydd y ffordd rydyn ni’n defnyddio’ch data personol yn newid yn sylweddol.