Cystadleuaeth Gohebydd Ifanc y BBC 2024: RHEOLAU (Telerau ac Amodau)

Pwy sy’n gymwys

  1. Dyma’r Rheolau ar gyfer cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Gohebydd Ifanc y BBC 2024.

  2. Mae’r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y DU (gan gynnwys preswylwyr Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) rhwng 11 a 18 oed ar y dyddiad cau sef dydd Sul 24 Mawrth 2024, ac eithrio gweithwyr y BBC neu Grŵp y BBC, eu perthnasau agos neu unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth, neu’r wobr benodol sy’n cael ei chynnig.

  3. Efallai y bydd angen dangos tystiolaeth o bwy ydych chi, eich oedran a’ch bod yn gynnwys i gymryd rhan. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i wahardd unrhyw ymgeisydd neu enillydd sy’n torri’r rheolau hyn. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i ofyn am brawf o oedran yn ogystal â chaniatâd rhiant neu warcheidwad.

Sut mae rhoi cynnig arni?

  1. Gall ceisiadau gael eu cyflwyno gan unigolyn neu grŵp. Ond dim ond UN cais sy’n cael ei ganiatáu i bob unigolyn neu grŵp. Os bydd yr un unigolyn neu grŵp yn cyflwyno nifer o geisiadau, bydd y beirniaid yn cadw’r hawl i ddewis pa gais byddant yn teimlo sydd gryfaf er mwyn mynd ymlaen i rowndiau’r rhestr fer a byddant yn diystyru’r ceisiadau eraill a fydd wedi cael eu cyflwyno gan yr unigolyn neu’r grŵp dan sylw.

  2. Dim ond ceisiadau a fydd yn cael eu cyflwyno drwy’r system ar-lein fydd yn cael eu hystyried. Dim ond ceisiadau Saesneg fydd yn cael eu hystyried oni bai eich bod yn cyflwyno cais o Gymru, lle mae ceisiadau Cymraeg yn cael eu caniatáu hefyd. At ddibenion beirniadu ceisiadau Cymraeg, bydd y ceisiadau'n cael eu cyfieithu i’r Saesneg. Nid oes unrhyw ddull ymgeisio arall yn cael ei ganiatáu (mae hyn yn cynnwys e-bost neu'r post).

  3. Gellir cyflwyno ceisiadau ar ffurf ysgrifenedig neu recordiad sain neu fideo.

  4. Ni ddylai ceisiadau ysgrifenedig fod yn hirach na 350 gair. Ni ddylai fideos neu recordiadau sain fod yn hirach na thri munud. Ni fydd unrhyw gais sy'n rhy hir yn cael ei ystyried, felly gwnewch yn siŵr nad yw eich cais yn hirach na’r hyd mwyaf a ganiateir.

  5. Hefyd, rhaid i bob cais gynnwys, mewn dim mwy na 350 o eiriau, amlinelliad sy'n dweud pam eich bod am rannu eich stori â chynulleidfa'r BBC a'r hyn sy’n gwneud eich persbectif chi ar y stori mor unigryw.

  6. Rhaid i'r cais sy'n cael ei gyflwyno fod yn waith gwreiddiol yr ymgeisydd ei hun ac ni ddylai ddifenwi na thorri unrhyw hawlfraint na chynnwys unrhyw beth a allai gael ei ystyried yn annymunol neu’n amhriodol. Bydd unrhyw ddeunydd sy’n cael ei ystyried yn anaddas yn cael ei ddileu o’r broses feirniadu a’i wahardd. Dylai'r ymgeiswyr gadw copi oherwydd ni fydd unrhyw geisiadau’n cael eu dychwelyd.

  7. Rhaid i’r cais gael ei gyflwyno gyda’r holl wybodaeth y gofynnir amdani drwy'r broses gyflwyno ar-lein. Ni fydd unrhyw gais nad yw’n cynnwys yr wybodaeth yn gais dilys ac ni fydd yn mynd ymlaen yn y gystadleuaeth.

  8. Rhaid cael caniatâd rhiant cyn i bobl ifanc gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Os derbynnir ceisiadau heb ganiatâd rhiant/gwarcheidwad, bydd y BBC yn cysylltu â'r ymgeisydd ac yn gofyn am ganiatâd rhieni cyn bwrw ymlaen ag unrhyw broses arall i lunio rhestr fer. Os na fydd yn cael ei roi ar gais, bydd yr ymgeisydd yn cael ei wahardd.

  9. Bydd unrhyw straeon sy'n codi pryderon am ddiogelwch neu les person ifanc yn cael eu cyfeirio at wasanaethau cymorth perthnasol neu awdurdodau i ymchwilio. Er diogelwch, bydd y ceisiadau hyn yn cael eu tynnu'n ôl o'r broses gystadlu hefyd.

  10. Bydd y gystadleuaeth yn agor ddydd Llun 29 Ionawr 2024. Rhaid cyflwyno'r ceisiadau i’r BBC erbyn 22:59:59 ar ddydd Sul 24 Mawrth 2024 fan bellaf. Bydd ceisiadau hwyr, ceisiadau anghyflawn, ceisiadau nad oes modd eu darllen na’u clywed yn iawn yn cael eu gwahardd. Ni all y BBC dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw fethiant neu ddiffyg technegol, a all arwain at atal unrhyw gais, neu at beidio â chofrestru neu recordio unrhyw gais yn iawn.

  11. Mae’r BBC yn cydnabod mai’r ymgeiswyr sy’n berchen ar unrhyw hawliau eiddo deallusol yn y cais o hyd ond, wrth ymgeisio, mae rhiant neu warcheidwad pob ymgeisydd yn rhoi’r hawl anghyfyngedig i’r BBC ddefnyddio neu ailgynhyrchu, am ddim, y cais neu ran ohono at ddibenion y gystadleuaeth, gan gynnwys rhoi cyhoeddusrwydd i’r gystadleuaeth mewn unrhyw gyfrwng a phob cyfrwng am byth ledled y byd, gan fodloni amodau'r wobr ac unrhyw gyhoeddusrwydd / sylw cysylltiedig yn ymwneud â'r gystadleuaeth ar unrhyw wasanaeth, sianel neu lwyfan ar-lein cwmni'r BBC neu Grŵp y BBC gan y BBC, ei is-gwmnïau neu drydydd partïon y mae wedi’u dewis.

Meini prawf beirniadu

  1. Bydd y ceisiadau'n cael eu beirniadu gan ddefnyddio’r meini prawf canlynol:
    15.1. Gwerth golygyddol - cryfder y stori a’r ongl / addasrwydd y stori i'r rhaglen neu’r llwyfan;
    15.2. Gwreiddioldeb a / neu bersbectif unigryw; a
    15.3. Cymhelliant i adrodd y stori.

  2. Bydd y beirniaid hefyd yn gobeithio gweld ystod o straeon amrywiol yn cynrychioli amrywiaeth o bynciau ledled y Deyrnas Unedig, a bydd y casgliad terfynol o straeon yn adlewyrchu hyn.

  3. Bydd y straeon ar y rhestr fer yn cael eu gwirio cyn y rowndiau beirniadu terfynol. Rhaid i bob stori gydymffurfio â Chanllawiau Golygyddol y BBC, yn ogystal â bod yn gadarn yn gyfreithiol.

  4. Bydd y gwaith o feirniadu a llunio rhestr fer yn digwydd mewn sawl rownd. Byddwn yn cysylltu â'r ymgeiswyr fydd yn cyrraedd y brig ym mhob categori yn y rownd gyntaf er mwyn dilysu eu ceisiadau. Byddant wedi cael eu dilysu erbyn mis Mehefin 2024. Os, ar ôl ymdrechion rhesymol i gysylltu, nad yw’r cais wedi’i ddilysu, mae’r BBC yn cadw’r hawl i ddiystyru’r cais hwnnw.

  5. Yn ystod y broses ddilysu, bydd staff Gohebydd Ifanc y BBC yn cysylltu â rhiant/gwarcheidwad yr ymgeiswyr er mwyn gwirio cymhwysedd a gwreiddioldeb y cais, a all gynnwys siarad ag unigolion a/neu aelodau o’r grŵp sydd wedi cyfrannu at lunio’r cais. Os nad oes modd cysylltu ag ymgeisydd neu ei riant/gwarcheidwad ar ôl ymdrechion rhesymol i wneud hynny, mae’r BBC yn cadw'r hawl i gynnig ei le i’r ymgeisydd gorau nesaf. Ni fyddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr aflwyddiannus.

  6. Ar ôl cwblhau’r broses ddilysu, bydd y ceisiadau'n mynd ymlaen i’r rownd feirniadu nesaf. Bydd paneli beirniadu a fydd yn defnyddio’r un meini prawf, fel y nodir uchod, yn llunio’r rhestr fer derfynol.

  7. Yna bydd y rhain wedyn yn mynd ymlaen i’r rownd feirniadu derfynol, a fydd yn cael ei chynnal gan baneli o olygyddion a newyddiadurwyr y BBC. Bydd y paneli beirniadu hyn yn defnyddio’r un meini prawf, fel y nodir uchod, i bennu’r enillwyr terfynol.

  8. Enillwyr Cenedlaethol - Bydd tri (3) enillydd yn cael eu dewis gan raglenni/platfformau “cenedlaethol” y BBC o’r ddau gategori oedran, sef 11-15 oed ac 16-18 oed. Bydd yr enillwyr “cenedlaethol” yn wahanol i’r enillwyr a fydd wedi cael eu dewis gan Wledydd y BBC a Rhanbarthau Lloegr y BBC. Bydd enillwyr pob ardal yn cael gwobr a bydd y penderfyniad ar y wobr honno yn cael ei wneud ystod y broses feirniadu, yn ôl disgresiwn y beirniaid.

  9. Enillwyr Rhanbarthol – Bydd cyfanswm o bymtheg (15) enillydd “rhanbarthol”. Bydd un Enillydd ym mhob un o Wledydd y BBC a Rhanbarthau Lloegr y BBC a ganlyn: Cymru, Gogledd Iwerddon, Yr Alban, Gogledd Orllewin Lloegr, Gogledd Ddwyrain Lloegr a Cumbria, Swydd Efrog (Leeds a Hull), Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Dwyrain Lloegr, De Ddwyrain Lloegr, De Orllewin Lloegr a De Orllewin Lloegr (sef Plymouth ac Ynysoedd y Sianel) a Llundain.

  10. Enillydd y Gymraeg - Bydd un Enillydd yn y Gymraeg hefyd yn cael ei ddewis gan BBC Wales/Cymru.

  11. Bydd yr holl Enillwyr yn cael eu cyhoeddi i’r cyhoedd ar-lein ym mis Mehefin 2024 ar www.bbc.co.uk/youngreportercompetition ac ar wefan Gohebydd Ifanc y BBC ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gwobr

  1. Bydd yr holl Enillwyr yn cael cyfle i weithio gyda newyddiadurwr neu dîm cynhyrchu’r BBC i greu eu stori ar gyfer naill ai radio, teledu, ar-lein neu gyfryngau cymdeithasol, a bydd y stori’n cael ei darlledu ar un o’r llwyfannau hyn gan y BBC yn 2024. Bydd y rhaglen/llwyfan yn seiliedig ar deilyngdod golygyddol ar gyfer pob stori. Cytunir ar ddyddiadau cynhyrchu a darlledu unigol gyda phob Enillydd a thîm cynhyrchu priodol y BBC (bydd hyn yn caniatáu ar gyfer yr angen golygyddol i ddarlledu neu wneud y cynnwys ar adeg arall i gyd-fynd ag angen o ran agenda newyddion/darlledu). Bydd y BBC yn talu costau teithio rhesymol ar gyfer pob enillydd.

  2. Hefyd, bydd pob Enillydd yn cael pecyn “bag nwyddau” Gohebydd Ifanc y BBC.

  3. Nid oes modd cyfnewid y gwobrau, nid oes modd eu trosglwyddo, ac ni ellir eu cyfnewid am arian parod na gwobrau eraill.

Cyffredinol

  1. Bydd penderfyniad y BBC a’r beirniaid yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebu’n digwydd mewn perthynas â’r gystadleuaeth.

  2. Bydd disgwyl i'r ymgeiswyr gymryd rhan mewn darlledu ar ôl y gystadleuaeth, yn ogystal â chyhoeddusrwydd ar-lein neu brint. Bydd enwau'r enillwyr yn cael eu gwneud yn gyhoeddus.

  3. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i ganslo’r gystadleuaeth neu newid unrhyw un o’r rheolau hyn ar unrhyw adeg os tybir bod hynny’n angenrheidiol yn ei farn ef neu os bydd amgylchiadau’n codi y tu allan i’w reolaeth, a gwahardd unrhyw ymgeisydd sy’n torri’r rheolau, sydd wedi ymddwyn yn dwyllodrus mewn unrhyw ffordd neu sy’n wedi dwyn anfri ar y BBC (yn ôl ei ddisgresiwn llwyr). Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau o'r fath mewn da bryd. Ni ellir dal y BBC yn gyfrifol am unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl sy'n ymwneud â gorfod canslo neu ohirio’r gystadleuaeth.

  4. Mae’r gystadleuaeth hon yn cydymffurfio â Chod Ymddygiad y BBC ar gyfer Cystadlaethau a Phleidleisio, sydd i’w weld yma.

  5. Ni chaiff y BBC, ei is-gontractwyr, ei is-gwmnïau a/neu ei asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw fethiant neu ddiffyg technegol neu unrhyw broblem arall ag unrhyw weinydd, mynediad rhyngrwyd, system neu fel arall a all arwain at beidio â chofrestru neu recordio unrhyw gais yn iawn.

  6. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y BBC yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod (boed difrod neu golledion o’r fath wedi’u rhagweld, yn rhagweladwy, yn hysbys neu fel arall) gan gynnwys colled neu siom ariannol neu i enw da.

  7. Mae’r telerau ac amodau hyn yn cael eu rheoli gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.