(Fideo cyfrwng Saesneg gyda isdeitlau Cymraeg)
(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL)
(Fideo cyfrwng Saesneg gyda disgrifiad sain)
(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL a disgrifiad sain)
Mae Abby Cook, cyflwynydd Blue Peter, yn dysgu sut i chwarae boccia gyda’r hyfforddwyr Rafael (Rafa) Young a Natasha Critchley.
Sgiliau
Mae’r gweithgareddau’n datblygu’r sgiliau hyn: sut mae rheoli’r bêl a sut mae rheoli pa mor gyflym mae’r bel yn rhowlio, ymarfer cywirdeb gyda thasg cyfeiriad a chyflymder, ac ymarfer terfynol lle maen nhw’n archwilio ochr dactegol boccia drwy chwarae gêm sgorio targedau syml.
Gweithgareddau
Rheoli’r Rhôl
Mae Rafa yn dangos sut y gallwch reoli cyflymder y bêl drwy ei rhowlio ac anelu at darged. I wneud y gweithgaredd hwn yn fwy heriol, rhowch gynnig ar symud y disgyblion ymhellach oddi wrth eu partneriaid i weld a ydyn nhw’n gallu gwneud i’r bêl rowlio’n gyflymach neu’n arafach, ac yn dal i allu stopio’r bêl.
Parth Conau
Mae hyn yn golygu rheoli cyfeiriad y bêl yn ogystal â’i chyflymder. I herio eich disgyblion yn y gweithgaredd hwn, gallech ddefnyddio targedau sy’n llai ac yn anoddach i lanio’r bêl ynddynt, cynyddu’r pellter rhwng y conau a’r chwaraewyr, neu’r ddau.
Sgorio Mwy
Gêm dîm yw hon. Mewn dau dîm, tîm coch a thîm glas, rydych chi’n cael gwahanol bwyntiau ar gyfer cael eich pêl mewn targedau gwahanol faint. Mewn boccia, y tîm coch sy’n mynd yn gyntaf bob amser.
Cerdyn gweithgaredd
Cerdyn gweithgaredd: boccia 8-11. document
Lawrlwythwch y cerdyn gweithgaredd ar gyfer boccia 8-11

I gael rhagor o wybodaeth am sut i chwarae boccia, ewch i: https://www.bocciaengland.org.uk/how-do-i-play-boccia
Sylwch y bydd y ddolen hon yn mynd â chi o wefan y BBC.