Super Movers i bawb: Beth yw cynghreiriaeth?

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda isdeitlau Cymraeg)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda disgrifiad sain)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL a disgrifiad sain)

Mae Shini Muthukrishnan yn trafod thema cynghreiriaeth.

Mae’r ffilm hon yn edrych ar bwysigrwydd cynghreiriaeth. Mae Shini Muthukrishnan, sy’n gyflwynydd Blue Peter, yn siarad am bwysigrwydd gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a chefnogi ei gilydd wrth gymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae’r ffilmiau’n edrych ar sut gall ddisgyblion wneud i’w cyd-ddisgyblion, eu ffrindiau ac aelodau eraill o’u tîm chwaraeon deimlo eu bod yn cael croeso a sut gallan nhw eu cefnogi gydag anogaeth a charedigrwydd. Mae’n sôn am sut mae pob un ohonom yn wahanol ac mae gennym sgiliau gwahanol, ond weithiau mae pobl yn cael eu trin yn wahanol neu’n annheg. Os yw eich disgyblion yn gweld rhywun yn cael ei drin yn annheg, gallant fod yn gynghreiriad iddo drwy wneud yn siŵr ei fod yn cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon a theimlo’n rhan o dîm.

Rydyn ni’n clywed gan Baralympiaid fel David Smith OBE ac Ellie Simmonds OBE sydd wedi ymddeol sy’n trafod sut mae cefnogaeth gan aelodau’r tîm a ffrindiau wedi eu helpu yn eu gyrfaoedd chwaraeon.