Super Movers i bawb: Beth yw pêl-droed dall?

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda isdeitlau Cymraeg)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda disgrifiad sain)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL a disgrifiad sain)

Dysgwch beth yw pêl-droed dall gyda Martin Dougan, a Megan Brierley a Selina Prieto o Dîm Menywod Pêl-droed Dall Lloegr.

Mae pêl-droed dall yn cael ei chwarae mewn timau o bump a nod y gêm yw sgorio mwy o goliau na’r tîm arall. Mae gêm yn cael ei chwarae mewn dau hanner 20 munud o hyd.

Oherwydd bod gan wahanol chwaraewyr wahanol lefelau o olwg, i wneud y gêm yn deg, mae’r chwaraewyr yn gwisgo mwgwd (a elwir hefyd yn orchudd llygaid) fel bod pob chwaraewr yn gweld yr un peth.

Y gôl-geidwad yw’r unig chwaraewr sydd ddim yn gwisgo mwgwd ac sy’n gallu gweld yn iawn.

Mae’r bêl yn un glywadwy. Mae ratl neu gloch ynddi er mwyn i chwaraewyr allu clywed ble mae hi ar y cae. Pan fydd chwaraewyr yn mynd i daclo i gael y bêl, mae angen iddo weiddi voy (sef y gair Sbaeneg ar gyfer ‘mynd’).

Mae angen i chwaraewyr feddu ar sgiliau gwrando a chyfathrebu da, a bod yn gyflym!