BBC micro:bit - Fideo gwasanaeth ysgol cewri codio

Yn gryno...

Themâu: Cyfrifiadura, codio, rhaglennu, sgiliau digidol, gyrfaoedd yn y dyfodol.

Crynodeb: Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o’r ymgyrch BBC micro:bit – cewri codio. Gwyliwch wrth i De’Graft Mensah, Cyflwynydd Newsround ar CBBC, a FalseSymmetry, Chwaraewr Gemau ar YouTube, roi cyflwyniad i chi a’ch disgyblion am hyd a lled y micro:bit. Fe allwch chi hefyd ddysgu am rai o’r gemau a’r gweithgareddau di-ben-draw gallwch chi eu codio a’u creu gyda’r micro:bit.

Adnoddau: Y fframwaith i’w argraffu (pdf). Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnwys llun o’r micro:bit a chlip fideo (isod).

Back to top

Back to top

Hyd

4' 05"

Cwestiynau’r fideo

  • Beth yw micro:bit?
  • Allwch chi roi enghraifft o rywbeth gallwch chi ei godio a’i greu ar y micro:bit?
  • Allwch chi enwi rhai o nodweddion y micro:bit?
  • Pa gêm wnaeth De’Graft a FalseSymmetry chwarae yn erbyn ei gilydd?
Back to top

Dolenni allweddol

Back to top

Fframwaith sy’n cael ei awgrymu

1. Wrth i’r disgyblion gyrraedd.
Wrth i’r disgyblion gyrraedd y gwasanaeth, dangoswch lun y micro:bit: https://teach.files.bbci.co.uk/micro-bit assembly.png

2. Cyflwyniad.
Gofynnwch: Ydych chi’n gwybod beth yw hwn? Esboniwch i’r disgyblion y byddwn yn dod i wybod popeth sydd i’w wybod am y BBC micro:bit a’r holl bethau gallwn ni eu gwneud gyda’r micro:bit.
Eglurwch: Mae’r micro:bit yn ddyfais gyfrifiadurol go iawn y gellir ei haddasu i ddatrys problemau, chwarae gemau a chynnal ymchwiliadau.

3. Chwaraewch y fideo.
Gwyliwch y fideo micro:bit - cewri codio gyda’ch gilydd fel dosbarth. Mae’n para 4' 05".

4. Amser sgwrsio.
Ewch ati i arwain trafodaeth am ddyfeisiau cyfrifiadurol sydd yn ein bywydau bob dydd drwy ofyn cwestiynau fel:Pa ddyfeisiau cyfrifiadurol ydyn ni’n eu gweld a’u defnyddio bob dydd?
Gofynnwch i’r plant am eu profiadau blaenorol o raglennu a chodio. Ydyn nhw’n gallu egluro pam mae ANGEN rhaglen gyfrifiadurol ar ddyfeisiau cyfrifiadurol? A yw codio a rhaglennu yr un peth? Ydyn nhw erioed wedi ysgrifennu rhaglen gyfrifiadurol i wneud i robot tegan symud, neu i greu gêm gyfrifiadurol?
Esboniwch fod angen rhaglennu cyfrifiaduron a bod pobl sy’n gwneud y swydd honno yn cael eu galw’n rhaglenwyr neu’n godwyr cyfrifiaduron.
Dilynwch hyn gyda thrafodaeth am swyddi a gyrfaoedd yn y dyfodol, nad ydynt o bosibl yn bodoli eto.
Gofynnwch gwestiynau fel:Allech CHI fod yn rhaglennydd cyfrifiaduron?

Dylech eu hatgoffa y byddan nhw’n cael cyfle i ysgrifennu eu cod eu hunain a dod yn rhaglenwyr cyfrifiaduron fel rhan o brosiect micro:bit. Pwysleisiwch eu bod NHW yn godwyr ac yn rhaglenwyr cyfrifiadurol.

5. Cyfle i fyfyrio.
Rydyn ni’n ffodus iawn o gael mynediad at dechnoleg sy'n ein helpu gyda bywyd bob dydd ac yn ein diddanu. Dylen ni gofio ei defnyddio’n gyfrifol a’i pharchu.
Dylen ni hefyd feddwl am yr holl adnoddau a phobl a helpodd i greu’r dechnoleg a’r dyfeisiau rydyn ni’n eu defnyddio, ac sy’n gweithio’n galed i sicrhau eu bod yn rhedeg yn ddiogel ac yn effeithlon.

Back to top

Rhagor o adnoddau BBC micro:bit - cewri codio

Gwybodaeth am y micro:bit

Dysgwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am y BBC micro:bit.

Gwybodaeth am y micro:bit

Cyrsiau hyfforddiant yng Nghymru

Cadwch olwg yma am gyrsiau hyfforddiant rhanbarthol yng Nghymru

Cyrsiau hyfforddiant yng Nghymru

Cyngor ar sut i godio ar wefan MakeCode

Dysgwch fwy am sut i ddefnyddio gwefan MakeCode a’r adnoddau hyfforddi sydd ar gael i’ch helpu.

Cyngor ar sut i godio ar wefan MakeCode

Ein partneriaid

Dysgwch fwy am y sefydliadau sy’n cefnogi ein menter micro:bit.

Ein partneriaid

Cwestiynau Cyffredin

Dewch i gael yr atebion i’ch holl gwestiynau am y micro:bit.

Cwestiynau Cyffredin
Back to top