Sut i fod yn hyderus wrth ddefnyddio’r BBC micro:bit i ddysgu codio

Mae Manon Watkins, athrawes ysgol gynradd yng Nghymru, wedi bod yn addysgu disgyblion sut i godio gyda’r micro:bit am bum mlynedd. Roedd hi’n arbrofi gyda gwahanol offer a fyddai’n gallu helpu i ddatblygu sgiliau codio disgyblion, a heb brofiad blaenorol o godio, penderfynodd ddechrau gyda’r micro:bit.

Felly wrth i ysgolion dros y DU ddechrau derbyn eu micro:bits am ddim fel rhan o ymgyrch BBC micro:bit - cewri codio, rydyn ni wedi gofyn i Manon drafod ei thaith yn addysgu gyda’r cyfrifiadur maint poced gyda ni…

Please click here to access this page in English

Manon yn esbonio platfform codio MakeCode i’r disgyblion.
Image caption,
Manon yn esbonio platfform codio MakeCode i’r disgyblion.

1. Mynd i’r afael â’r micro:bit am y tro cyntaf

Heb unrhyw brofiad blaenorol o godio, roeddwn i ychydig yn bryderus am addysgu sgiliau codio i fy nisgyblion. Yr hyn a helpodd fi i fagu hyder oedd cymryd amser i arbrofi a rhoi cynnig ar bethau syml. Siaradais â chyd-weithiwr a oedd yn addysgu sgiliau codio mewn ysgolion cynradd hefyd, ac roedd yn galonogol i glywed nad oedd rhaid gwybod popeth er mwyn addysgu codio. Dechreuwch gyda rhywbeth syml, ac wedyn fe wnewch chi fagu hyder a bydd eich disgyblion yn dod yn fwy hyderus hefyd. Hyd heddiw mae’r disgyblion wrth eu boddau yn gallu dweud eu bod nhw wedi dysgu rhywbeth i fi!

Ychydig o flynyddoedd yn ôl, fe glywais am y ddyfais fach fforddiadwy hon a oedd yn bosib ei defnyddio i ddatblygu sgiliau codio. Pan edrychais i ar y micro:bit am y tro cyntaf, roeddwn i’n chwilfrydig. Cyn hyn roeddwn i’n credu bod rhaid cael cyllideb fawr i wneud gwaith cyfrifiadureg.

Fe wnes i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y micro:bit ar y wefan, lle roeddwn i’n gallu gweld yr holl nodweddion gwahanol fel y golau LED, y mesurydd cyflymu, y microffon a’r seinydd. Dilynais i gwrs ar y wefan er mwyn dysgu mwy am y micro:bit. Roedd hyn yn hawdd i’w wneud, ac roedd yn darparu gwybodaeth a hynny mewn fideos clir ac addysgiadol. Doeddwn i ddim yn gallu aros i weld beth fyddai’n bosib ei wneud gyda’r ddyfais fach ond pwerus hon. Ond yn gyntaf, roedd yn rhaid i fi ddysgu sut i’w defnyddio fy hun…

2. Defnyddio gwefan MakeCode am y tro cyntaf

Wrth edrych ar blatfform codio MakeCode, lle mae modd codio’r micro:bit, roeddwn i’n falch o weld pa mor hawdd oedd i’w ddeall. Roeddwn i’n gallu gweld efelychydd y micro:bit wrth i fi godio ac roedd y blociau codio wedi cael eu trefnu mewn droriau. Gan nad oedd gen i brofiad blaenorol o godio, roedden i’n gwybod bod angen i fi wella fy nealltwriaeth ymhellach gan fy mod i’n gwybod bod codio yn sgil hanfodol i ddisgyblion ei ddatblygu.

“Roeddwn i’n falch o weld pa mor hawdd oedd i’w ddeall”

O fewn ychydig funudau roeddwn i wedi creu cod syml ac wedi llwyddo i gael y goleuadau LED ar yr efelychwr micro:bit i fflachio. Wedyn fe gysylltais y micro:bit i’r cyfrifiadur, ei baru ac wedyn clicio’r botwm llwytho er mwyn rhoi’r cod ar fy micro:bit. Roedd yn wych gweld y cod yn dod yn fyw yn syth ar y ddyfais yn fy llaw. Roeddwn i’n gwybod y byddai’r disgyblion wrth eu boddau gyda hyn, ac roeddwn i’n gallu gweld bod y micro:bit yn ffordd gyffrous o ddatblygu sgiliau meddwl cyfrifiadurol.

3. Paratoi ar gyfer fy ngwers gyntaf

Roeddwn i’n llawn cyffro ond yn bryderus cyn fy ngwers gyntaf yn defnyddio’r micro:bits gyda fy nisgyblion. Defnyddiais wefan y micro:bit i edrych am syniadau ac ysbrydoliaeth wrth i fi baratoi. Mae yna gynlluniau gwersi gwych ar y wefan.

Penderfynais i ddechrau gyda rhywbeth syml. Cysylltais y micro:bit gyda’r cyfrifiadur a dangosais MakeCode ar y sgrin fawr yn y dosbarth. Yr elfen gyntaf wnes i ei chyflwyno oedd ‘mewnbwn’, a dangosais fod gwahanol ffyrdd i gael y micro:bit i wneud gwahanol bethau, er enghraifft ‘ar ddechrau’ neu ‘pan rwy’n gwasgu botwm A’. Dangosais i’r dror ‘sylfaenol’ ar wefan MakeCode, lle gallwch chi ddod o hyd i’r rhan fwyaf o’r blociau codio fydd eu hangen arnoch chi wrth ddechrau project micro:bit. Dangosais enghraifft o ddefnyddio bloc ‘ar ddechrau’ a dangos sut i arddangos delwedd calon yn defnyddio’r goleuadau LED.

Microsoft MakeCode platform
Image caption,
Mae disgyblion yn gallu dod o hyd i’r blociau codio sydd eu hangen arnyn nhw i ddechrau project micro:bit yn yr adran hon o wefan MakeCode.

4. Gwrando ar adborth disgyblion

Ar ôl dangos rhai enghreifftiau, roedd yn wych clywed adborth a syniadau’r disgyblion. Roedden nhw’n gallu gweld llawer o bosibiliadau gyda’r blociau codio yn barod ac roedden nhw’n awyddus iawn i gael dechrau codio. Y dasg gyntaf wnes i ei rhoi iddyn nhw oedd gweithio mewn parau o allu cymysg i godio’r goleuadau LED er mwyn dangos delwedd ar y micro:bit. I ddechrau roedd pob pâr yn gweithio ar liniadur heb y micro:bits, gan fy mod eisiau iddyn nhw ganolbwyntio ar wefan MakeCode a gwirio’r cod ar yr efelychydd micro:bit. Cefais i syndod pa mor gyflym roedd y disgyblion yn medru codio ac roedd 'na fwrlwm arbennig yn y dosbarth.

“Roedd yn wych clywed adborth a syniadau’r disgyblion”

Ar ôl i bawb greu eu cod a defnyddio’r efelychydd, daethon ni at ein gilydd fel dosbarth fel fy mod i’n gallu dangos iddyn nhw sut i lwytho’r cod i’r micro:bit. Cafodd bob pâr micro:bit a chebl USB. Roedd rhai disgyblion yn gweld yr elfen hon ychydig yn fwy heriol, yn enwedig y disgyblion gyda sgiliau llygoden gwan. Dyma’r rhan lleiaf trefnus o’r wers wrth i fi geisio helpu pawb, ond fe wnaeth y disgyblion a drosglwyddodd y cod yn hyderus i’r micro:bit helpu’r disgyblion eraill i gwblhau’r dasg hon.

Roedd yn ddiddorol arsylwi ar y disgyblion ADY gydag anghenion cymdeithasol ac emosiynol yn ystod y wers. Roedden nhw’n llawn cynnwrf, yn dangos diddordeb, a thuag at ddiwedd y project roedden nhw’n arddangos mwy o sgiliau dyfalbarhau a gwytnwch. Roedd un disgybl nad oedd yn siarad yn aml yn hollol frwdfrydig ac yn siaradus wrth drafod yr hyn roedd wedi llwyddo i greu.

Sylweddolais i pa mor dda roedd cael cefnogaeth gan gyfoedion yn gweithio ac fe wnes i ystyried tybed a fyddai hyn yn rhywbeth y gallwn ddatblygu ymhellach, nid yn unig i helpu disgyblion, ond athrawon hefyd.

Ymhlith projectau gwahanol y disgyblion roedd cyfrifydd pump y dydd ar gyfer ffrwythau a llysiau.
Image caption,
Ymhlith projectau gwahanol y disgyblion roedd cyfrifydd pump y dydd ar gyfer ffrwythau a llysiau.

5. Hyfforddi athrawon i ddefnyddio’r micro:bit

Yn dilyn gwersi micro:bit llwyddiannus yn fy nosbarth ac ar ôl cael ymateb brwdfrydig gan y disgyblion, rhannais fy mhrofiadau gyda’r athrawon eraill yn yr ysgol. Roedden nhw wedi synnu bod codio yn gallu cael ei addysgu mewn ffordd hwyliog sy’n ennyn diddordeb. Roedden nhw wedi cael eu syfrdanu gan rai o’r pethau roedd y disgyblion wedi gallu eu creu, gan ddatblygu sgiliau meddwl cyfrifiadurol ynghyd â sgiliau datrys problemau.

“Roedden nhw wedi synnu bod codio yn gallu cael ei addysgu mewn ffordd hwyliog sy’n ennyn diddordeb. Roedden nhw wedi cael eu syfrdanu gan y pethau roedd y disgyblion wedi eu creu”

Ar gyfer hyfforddiant athrawon, dilynais i’r un fformat â gwersi’r disgyblion, gan annog yr athrawon i addasu’r cod a gweld beth oedden nhw’n gallu ei greu. Wedyn fe wnes i eu hannog i edrych ar wefan micro:bit i archwilio’r dudalen projectau a’r dudalen datblygiad proffesiynol lle gallen nhw ddatblygu eu gwybodaeth ymhellach.

Fe wnaeth disgyblion ddefnyddio’r micro:bits i greu gweithgaredd yn seiliedig ar rygbi.
Image caption,
Fe wnaeth disgyblion ddefnyddio’r micro:bits i greu gweithgaredd yn seiliedig ar rygbi.

6. Datblygu rhaglen pencampwyr micro:bit gyda disgyblion

Fe wnaeth llawer o athrawon groesawu’r micro:bits a magu hyder wrth eu defnyddio yn y dosbarth. Roedd rhai athrawon yn fwy amharod i’w defnyddio o achos diffyg hyder yn eu hunain ac yn poeni bod disgyblion yn gwybod mwy na nhw.

Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, penderfynais drefnu grŵp o bencampwyr micro:bits neu arweinwyr digidol. Roedd y grŵp hwn yn cynnwys disgyblion oedd â diddordeb mewn micro:bits a chodio. Roedd eu rôl nhw yn un hynod werthfawr wrth geisio cyrraedd fy nod o ddatblygu’r defnydd o micro:bits yn ein hysgol. Nid yn unig yr oedden nhw’n cefnogi disgyblion ac athrawon wrth iddyn nhw ddefnyddio micro:bits, roedden nhw hefyd yn rhannu syniadau, cynnal gwasanaethau, trefnu cystadlaethau a helpu i greu adnoddau.

Roedden ni eisiau datblygu ardaloedd STEM yn ein dosbarthiadau, a gyda chymorth yr Arweinwyr Digidol, fe ddatblygais gardiau her a oedd yn dangos esiamplau o god a phrojectau gwahanol. Un esiampl oedd ‘Fedrwch chi greu thermomedr?’ ac roedd y cod roedd ei angen i greu thermomedr i’w weld ar y cerdyn her. Roedd y cardiau her hyn yn effeithiol iawn, gan roi hyder i ddisgyblion ac athrawon i roi cynnig ar bethau newydd, ac yna i arbrofi ac addasu’r cod oedd ar y cardiau. Rhoddodd hyn ysbrydoliaeth a chefnogaeth i athrawon wrth iddyn nhw gynnwys y micro:bit mewn projectau trawsgwricwlaidd.

7. Cefnogi athrawon i fagu hyder

Fe wnes i ddarparu hyfforddiant pellach ar gyfer ein hathrawon, gan gynnwys dangos Micro:bit Classroom, sydd yn gwneud rhannu ac arbed cod yn llawer haws. Wrth i’r athrawon fagu hyder a gyda chefnogaeth yr arweinwyr digidol, roedd disgyblion nid yn unig yn datblygu nifer cynyddol o sgiliau codio ond hefyd yn datblygu syniadau creadigol a dyfeisgar wrth ddefnyddio’r micro:bit yn yr ardaloedd STEM ac o fewn projectau amrywiol yn y dosbarth.

Mae’r micro:bit yn ychwanegiad hynod o werthfawr i fy ystafell ddosbarth. Mae’n cynnig cyfleoedd arbennig i archwilio maes meddwl cyfrifiadurol ac yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau digidol fy nisgyblion ar draws y cwricwlwm.

Am fwy o wybodaeth am hyfforddiant am ddim sydd ar gael ar gyfer addysgu gyda'r micro:bit ewch i’n tudalen hyfforddiant athrawon.

Cyngor ar sut i godio ar wefan MakeCode

Dysgwch fwy am sut i ddefnyddio gwefan MakeCode a’r adnoddau hyfforddi sydd ar gael i’ch helpu.

Cyngor ar sut i godio ar wefan MakeCode

Gwybodaeth am y micro:bit

Dysgwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am y BBC micro:bit.

Gwybodaeth am y micro:bit

Cwestiynau Cyffredin

Dewch i gael yr atebion i’ch holl gwestiynau am y micro:bit.

Cwestiynau Cyffredin

Cyrsiau hyfforddiant yng Nghymru

Cadwch olwg yma am gyrsiau hyfforddiant rhanbarthol yng Nghymru

Cyrsiau hyfforddiant yng Nghymru

Ein partneriaid

Dysgwch fwy am y sefydliadau sy’n cefnogi ein menter micro:bit.

Ein partneriaid