
Plant ysgol - barod! Dyfeisiau micro:bit - barod!
A yw'r plant rhwng 7 ac 11 oed yn eich ysgol gynradd chi yn barod i ddylunio teclyn a fydd yn helpu i wella perfformiad y Gladiators?
Ddim yn gwybod ble i ddechrau arni? Cymerwch olwg ar ein gweithgareddau Gweithdy Dyfeisiwr Gladiators isod i hyfforddi eich sgiliau dylunio.

Gweithdy Dyfeisiwr Gladiators
Hoffech chi fod yn ddyfeisiwr? Gweithiwch fel dosbarth i ddysgu sut mae’r micro:bit yn gweithio, gan ymchwilio a chreu syniadau dylunio, a chydweithio i wella syniad.
Cliciwch ar y dolenni isod i fynd i’r cynlluniau gwersi a’r taflenni gwaith i ddisgyblion.
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm
Cwricwlwm i Gymru (Cam Cynnydd 3)
- Gallaf ymateb yn greadigol i anghenion a dymuniadau’r defnyddiwr, ar sail y cyd-destun a’r wybodaeth a gasglwyd.
- Gallaf adnabod ac ystyried ffactorau wrth ddatblygu cynigion dylunio.
- Gallaf ddefnyddio dulliau cyfathrebu dylunio i gyflwyno syniadau ac ymateb i adborth.
- Gallaf ystyried sut y bydd fy nghynigion dylunio yn datrys problemau a sut y gallai hyn effeithio ar yr amgylchedd.
- Gallaf ddefnyddio syniadau dylunio i brofi a mireinio fy mhenderfyniadau dylunio heb ofni methu.

Rhagor o adnoddau BBC micro:bit - cewri codio
Gwybodaeth am y micro:bit
Dysgwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am y BBC micro:bit.

Cyrsiau hyfforddiant yng Nghymru
Cadwch olwg yma am gyrsiau hyfforddiant rhanbarthol yng Nghymru

Cyngor ar sut i godio ar wefan MakeCode
Dysgwch fwy am sut i ddefnyddio gwefan MakeCode a’r adnoddau hyfforddi sydd ar gael i’ch helpu.

Ein partneriaid
Dysgwch fwy am y sefydliadau sy’n cefnogi ein menter micro:bit.

Cwestiynau Cyffredin
Dewch i gael yr atebion i’ch holl gwestiynau am y micro:bit.

Arolwg iard chwarae
Adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer gweithgareddau BBC micro:bit - arolwg iard chwarae




