MEERA: Beth am drafod chwyldro?
JAC: Chwyldro? Bach yn dreisgar, nag yw e?
MEG: Dim bob tro.
GETHIN: Wyt ti’n meddwl? Beth am y Chwyldro Ffrengig neu Chwyldro Rwsia?
MEERA: Dim ond os wyt ti’n meddwl am chwyldro fel rhywbeth gwleidyddol bob tro. Ti’n gwbod, fel dymchwel llywodraeth neu ddinistro system gymdeithasol er mwyn creu system newydd.
GETHIN: Yn hollol. Fel y Chwyldro Ffrengig. Yr haen dlotaf o gymdeithas yn llwgu ac yn torri pennau’r bonedd barus i ffwrdd. Trais o’r iawn ryw.
MEG: Ie, ond dydy chwyldro ddim yn gorfod golygu trais eithafol. Beth am y Chwyldro Diwydiannol?
MEERA: Oedd hwnna’n ‘chwyldro’ go iawn?
MEG: Wel, oedd siŵr. Roedd ’na brotestio. Ond gwnaeth y drefn gymdeithasol newid yn llwyr hefyd wrth i beiriannau ddisodli’r gwaith llaw oedd yn cael ei wneud gan bobl. Gwnaeth bywydau pobl newid yn gyfan gwbl. Ond rydyn ni i gyd wedi derbyn y ffordd yna o fyw rŵan, yn do? A mae o wedi gwneud bywyd yn haws. Am wn i, os ydy’r byd newydd ar ôl chwyldro yn plesio mwy o bobl, wel mae’n rhaid fod hynny’n beth da, yn dydy?
MEERA: Ond mae dwy ochr i bopeth, on’d oes e? Meddylia am Margaret Haig Thomas. Heddiw rydyn ni’n meddwl amdani fel rhywun chwyldroadol. Ond ar y pryd roedd pobl yn feirniadol iawn ohoni.
GETHIN: Pwy ydy Margaret Haig Thomas?
MEERA: Arglwyddes Rhondda. Cafodd hi ei geni i deulu Cymreig breintiedig yn ôl yn 1883, a daeth hi’n adnabyddus fel menyw fusnes bwerus.
JAC: Dydy hynna ddim yn swnio fel llawer o chwyldro.
MEERA: Gwnaeth hi ddefnyddio ei phŵer a’i dylanwad i ymladd dros hawliau merched.
JAC: Pam oedd pobl yn feirniadol ohoni ’te?
MEERA: Roedd hi’n cymryd rhan mewn gorymdeithiau gyda mudiad y swffragét, rhoddodd hi flwch post ar dân, a hyd yn oed twlu ei hun ar gar y Prif Weinidog.
JAC: Ond siŵr o fod nid ei dulliau hi’n unig oedd yn cael eu beirniadu? Roedd rhai pobl hefyd doedd ddim yn credu dylai merched gael pleidleisio na chael eu harian eu hunain. Roedd pethau mor wahanol yr adeg honno.
GETHIN: Felly mewn geiriau eraill, mae chwyldro werth yr holl drafferth os ydy o’n golygu rhywbeth gwell ar ôl y newid mawr.
MEERA: Yn union. Oherwydd nawr, mae rhywun fel Margaret Haig Thomas yn arwres.
MEG: Ie, fel Eileen Beasley. Mae hi’n cael ei hadnabod fel Rosa Parks ymgyrch yr iaith Gymraeg.
JAC: Pam?
MEG: Yn ôl yn y 1950au, gwnaeth hi wrthod talu ei threth cyngor achos doedd y biliau ddim yn Gymraeg.
MEG: Gwnaeth y beilïaid ddod, sef pobl sy’n hel dyledion, a mynd â’i heiddo hi gyd. Dair gwaith. Gwnaeth hi a’i theulu ddioddef oherwydd beth oedden nhw’n ei gredu. Wnaeth hi ymgyrchu i gael arwyddion ffordd dwyieithog hefyd. Felly dydy chwyldro ddim yn gorfod bod yn dreisgar bob tro. Mae un neu ddau o bobl yn gallu gwneud gwahaniaeth aruthrol.
MEERA: Peidiwch ag anghofio am y chwyldroadau heddychlon o ganlyniad i benderfyniadau yn y Senedd.
JAC: Dyna beth wnaeth Aneurin Bevan. Ers roedd e’n ifanc roedd e’n ymwybodol fod yna bobl doedd ddim yn gallu fforddio gofal iechyd. Daeth e’n Aelod Seneddol a sefydlu y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i roi triniaethau am ddim i bawb.
JAC: Roedd hwnna yn bendant yn chwyldro mewn gofal iechyd yn y Deyrnas Unedig.
MEERA: Felly…
GETHIN: Beth?
MEERA: …o’r holl chwyldroadau hanesyddol ’ma, ym mha un wnaeth…
GETHIN: …y mwyaf o bobol golli eu pennau?
MEERA: Na. Roeddwn i’n mynd i ofyn pa un wnaeth y gwahaniaeth mwyaf, wyt ti’n meddwl?
Mae cymeriadau'r gyfres hon, Meg, Gethin, Jac a Meera, wedi eu sgriptio'n seiliedig ar gyfweliadau a gynhaliwyd gyda phobl ifanc go iawn o Gymru. Yn y ffilm hon, maen nhw'n ymchwilio i chwyldroadau hanesyddol pwysig yng Nghymru a’r byd, ac yn dadansoddi sut mae dehongliadau o’r digwyddiadau yma wedi newid dros amser.
Nodiadau athrawon
Cam Cynnydd 4
Mae pedwar person ifanc yn ymchwilio i chwyldroadau hanesyddol pwysig yng Nghymru a’r byd, ac yn dadansoddi sut mae dehongliadau o’r rhain wedi newid dros amser. Mae Meera, Jac, Gethin a Meg yn trafod nifer o chwyldroadau hanesyddol, o’r chwyldro Ffrainc a chwyldro Rwsia, i fudiad y Swffragetiaid a chreu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Maen nhw’n trafod beth mae’r term chwyldro’n ei olygu, yn ogystal â mathau eraill o chwyldro - gan gynnwys chwyldroadau llywodraethol, cymdeithasol a diwylliannol - ac maen nhw’n siarad am unigolion penodol er mwyn dangos ystyr chwyldro a chwyldroadwyr. Mae’r chwyldroadwyr hyn, sydd oll yn berthnasol i hanes modern Cymru, yn cynnwys Aneurin Bevan (Aelod Seneddol, a chyd-sylfaenydd y GIG); Eileen Beasley (ymgyrchydd mudiad yr iaith Gymraeg); a Margaret Haig Thomas (swffragét).
Nodiadau cwricwlwm
- Gellid gofyn i’r myfyrwyr beth maen nhw’n ei wybod am y term chwyldro cyn gwylio’r ffilm, ac a oes ganddynt unrhyw wybodaeth y gallen nhw ei rhannu. Mewn parau, gallen nhw greu diffiniad o’r gair ‘chwyldro’ cyn gwylio’r ffilm.
- Gellid rhoi tasg ymchwil i’r myfyrwyr a gofyn iddyn nhw ddysgu ffeithiau am nifer o chwyldroadau neu chwyldroadwyr amrywiol.
- Gall myfyrwyr wneud gwaith ymchwil ychwanegol ar rai o'r pynciau yn y ffilm, a chreu darn o waith eu hunain.
- Gall y myfyrwyr ddadlau: a oes rhaid i chwyldroadau fod yn dreisgar?
- Mewn grwpiau, gall y myfyrwyr ddadlau: ai'r chwyldroadau treisgar, neu'r rhai di-drais, sydd wedi cael yr effaith fwyaf?
- Gallai’r myfyrwyr ymchwilio beth mae’n ei olygu i fod yn chwyldroadwr.
- Gall y myfyrwyr greu sloganau i gyd-fynd â’r chwyldroadau sy’n cael eu trafod yn y ffilm.

Rhagor o'r gyfres hon:
Chwyldroadau modern. video
Mae pedwar o bobl ifanc yn trafod chwyldroadau modern, o’r Dwyrain Canol i Gymru.

Argraffiadau cyntaf. video
Caiff pedwar o bobl ifanc o Gymru eu cyfweld ar eu hargraffiadau cyntaf o’i gilydd.

Newid hunaniaeth. video
Mae pedwar o bobl ifanc o Gymru yn trafod newid hunaniaeth a newid barn.
