Y Talwrn- Caernarfon v Y Gler
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'ôl'
Yn wyneb lôn wahanol
Ein natur ni yw troi'n ôl.
Llion Jones9 1/2 pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'ôl'
Ni all llanw pell henoed
Lyfnhau â'i rym ôl fy nhroed.
Eurig Salisbury a Hywel Griffiths10 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell 'Mae gen i dystysgrif sy'n profi'
Er meddwl erioed 'mod i'n Gofi
Mae gen i dystysgrif sy'n profi
Nad wyf un o'r Sêr -
Dwi'n aelod o'r Glêr
Pa ryfedd fy mod i'n gwallgofi.
8Ifor ap Glyn9 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell 'Mae gen i dystysgrif sy'n profi'
Mae gen i dystysgrif sy'n profi
Mai ni yw'r pencampwyr eleni,
Fe'i prynais am 'sgrin'
Gan bum cofi blin
Oedd 'di ddwyn e yn 'Steddfod Tyddewi.
Hywel Griffiths9 pwynt
Trydargerdd: Archeb
Mae'r ebol wedi marw,
bu'n uchel iawn ei barch.
A dyma dwît archebol -
Rwyf am archebu arch.
Geraint Lovgreen8 1/2 pwynt
Trydargerdd: Archeb
Gwerth milltir o fynting
Mawr coch, glas a gwyn,
A phetrol a bocs matsys
I gadw'r fflamau 'nghyn.
Hywel Griffiths8 1/2 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Pwyll
(Maelan wrth draeth Steir ym Mhenmarc'h, Llydaw Mehefin 2012)
Dyma draeth i fynd am dro
Heb rhyw ofal dal dwylo.
Es yn hirgam am y môr -
Yno'n fach wrth fy ochor
I gam o gam, carlamai'n
Agos i'w lle, goesau llai
mor ddi-anel eu helynt;
'Mlaen â hi fel melin wynt
Ac er mai tad profiadol
Ar ei draed âi ar ei hôl
Ni roddais gyngor iddi -
Cawn blaster i'w hyder hi.
Ifan Prys9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Pwyll
Mae 'na hogan o Annwn
Heddi'n byw 'da fi, fe wn,
Hogan hardd a theg iawn, ie,
Ond un rhy bert ei donie ...
Mae'n ffoi sha thre'n hamddenol
Po fwyaf yr af ar ei hôl,
A pho hiraf yr af heb -
Wir, hon sy'n troi ei hwyneb!
Ond tra bo dau, tra bo dydd,
Rhowch i fi ferch Hefëydd,
Hogan Eurig gan Arawn -
Os yw hi'n od, hi sy'n iawn!
Eurig Salisbury9 1/2 pwynt
Pennill Ymson wrth wagio bin
Gofynnodd imi dros y clawdd a wnawn i wagio'i bin.
Cymerais innau hynny fel gwahoddiad,
a symud i fyw ati hi. Roedd hithau braidd yn syn,
ond roedd rhaid iddi edmygu fy ymroddiad.
Aeth deugain mlynedd heibio ac mi drodd ein gwalltiau'n wyn,
a ninnau 'di heneiddio mewn amrantiad;
ond mae hi'n nos Sul eto a dwi'n dal i wagio'r bin,
ac erbyn hyn does dim ar ôl ond cariad.
Geraint Lovgreen9 pwynt
Pennill Ymson wrth wagio bin
Gan fy mod i'n ailgylchu pob papur,
Poteli cwrw a llaeth a sos coch,
Tuniau ffa pob a chawl panas,
A'r pecynnau sy'n dal y cig moch,
Bocsys sgidiau a grawnfwyd ac wyau
A chopïau caled o eiriadur Bruce,
Rwy'n defnyddio'r hyn oedd yn fin sbwriel
I ddal ymbaréls wrth y drws.
Iwan Rhys8 1/2 pwynt
Cân ysgafn (heb fod dros 20 llinell): Trip y Traeth
Mi es ar wyliau Saga am wythnos yn yr haf,
A'm bryd ar dywod Benllech, chips rhad a dwyawr braf:
Ond och - ein cyrchfan, er fy sioc
Oedd traeth nid nepell o Bangkok!
A glan môr noethlymunwyr oedd fama erbyn dallt!
Roedd hyn yn waradwyddus - rhaid ydoedd cwyno'n hallt:
Ond er wylofain a deud plîs
Doedd dim riprîf i'r OAP's.
Ond yna - gweledigaeth, yn codi'n noeth o'r lli;
Sef Angelina Jolie, ac meddai wrthyf fi:
"Stripia, taid bach" - ac w'ch chi be?
Mi wnes i yn y fan a'r lle...
Ar amrant fe'm derbyniwyd - croesawodd fi i'w chôl;
A berwais unwaith eto â nwyf fy ienctid ffôl
Gan ddawnsio o gylch y tân yn ffri,
A thripio'n wyllt ar LSD.
Nid af i Benllech eto - ma fama'n llawar gwell:
Ma'r drygs beth wmbrath cryfach; ac mae o'n ddigon pell
I gynnal deufyd boptu'r don -
Boed borcyn, neu'n fy ngholar gron.
Emlyn Gomer9 pwynt
Cân ysgafn (heb fod dros 20 llinell): Trip y Traeth
Mae'n rhaid cyfaddef - mae'n gas gen i'r traeth.
Ni allaf i feddwl am lawer sy'n waeth!
Mae'r bobol yn chwerthin, yn chwarae a joio,
Tra 'mod innau drwy'r haf yn gorfod gweithio ... iii-ooo!
Ma nhw'n dod yn eu cannoedd i lawr o'r dre
I hala'u Sadyrne mewn twll o le,
Gan lolian a gorwedd wedi hanner dadwisgo -
Am wastraff amser yw bola heulo ... iii-ooo!
A'r plant sy'n talu punt y siot
I gael mynd ar fy nghefn ar araf drot
Cyn rhedeg yn ôl at mami dan grio
Gan ddweud bod yr asyn bach yn gwynto ... iii-ooo!
Ac wedyn daw plant rhyw drip Ysgol Sul
A phob un eisiau reid ar gefn y mul,
A'r trysorydd tyn yn trio cynilo
Drwy roi tri ar y tro, a mi bron â chwympo ... iii-ooo!
Sa i yn deall pam eich bod chi, bobol,
Yn gweld y traeth yn lle mor ddymunol.
Rwyf i wedi cael llond bol ar y lle,
Felly fory fe af ar drip i'r dre ... hwrê!
Iwan Rhys8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Glaw o hyd yw'r gwyliau hâf
Briliant fysa ymbrela
Emlyn Gomer1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Glaw o hyd yw'r gwylie hâf
Heulog yw hwyl y Gaeaf
Englyn: Gig
Gyda'r gitâr yn y to a fyntau
dan fantell parchuso,
daw nodau un i'w hudo
drachefn i far cefn y co'.
Llion Jones9 1/2 pwynt
Englyn: Gig
Mae un o gymun y gân - yn eisiau,
Ond drwy'r nos tu allan
Gwêl ymysg ei elw mân
Docynnau i wlad Canaan.
Hywel Griffiths10 pwynt
Telyneg: Agor Drws.
(yn ystod y protest budr achubodd nifer o garcharorion yr H Blocks ar y cyfle i feistroli'u hiaith frodorol. Ymhlith y darnau y bydden nhw'n dysgu ar eu cof wrth gyrchu at y nod, oedd 'Mise Éire ' ('myfi yw Iwerddon') gan Padraig Pearse.).
Agor Drws.
'Mise Éire...'
-yn sgothi protest dros furiau 'nghell:
mae'r oglau'n cau amdanaf
ac mae 'mhlanced yn dynnach fyth,
yn anwes am agendor sydd ynof.
'Mise Éire... mór mo náire' *
Mae'r sialc rhwng bysedd crapach
yn baglu'n draed brain
dros waliau'r gell,
yn her i'r drefn iaith fain.
A rhaid moeli'r clustiau i'r athro pell
sy'n arthio'i wers o bendraw'r 'Jailtacht',
yn ei bloeddio'n llatai
drwy'r dosbarth llwm
sy'n drewi dros naw cell a chamfa.
A ninnau, ei ddisgyblion, yn rhynnu'n noeth,
ond yn llowcio'i lith o eiriau....
'Mise Éire,
Uaigní mé ná an Cailleach Béara' **
Mae'r cytseiniaid cul a llydan
yn chwalu 'mhen,
ond mae 'nhafod yn sychedu amdanynt,
yn awchu eu gollwng,
fel hedydd, yn rhydd.
Canys felly y disgynno'r blanced o'm hysgwyddau
a blodeua 'Mise Éire'
ar dalcenni'r terasau
ar draws Béal Feirste.......
a gwn wedyn,
y daw ein dydd....
* Mór mo nâire -'mawr fy nghywilydd'....
** 'Uaigní mé ná an Cailleach Béara'
'mwy unig wyf na'r hen wrach o Béara' ....
Ifor ap Glyn....
9 1/2 pwynt
Telyneg: Agor Drws.
Rhyw hanner haf oedd hi, a'r glaw bodlon
wedi cau yn llen am y pedair wal
lle mae rhai'n delio mewn rhagolygon,
ac yn taro bargen â'r haul sy'n dal
i gadw draw.
Ond er hynny roedd gwên
yng ngoleuni'r tyrau arian o hyd,
a chwerthin rhad, a phop potel siampên
yn atsain i'r gwagle o'r bwytai drud.
Ac oedd, roedd yn rhaid i ni droi'r gliced
er mwyn cyfri'n gofid ar filiau'r wledd,
a'r rheini'n llosgi twll ymhob poced;
mynd i'r neuadd lle nad oedd inni sedd,
a gweld ein tymhorau yn nwylo'r llu
sy'n consurio golau dan awyr ddu.
Osian Rhys Jones9 pwynt
Englyn ar y pryd- Tîm GB
Ar alwad imperialaeth tîm GB
rhown bump a'n gwŷr llywaeth
ar fenthyg o'r Gymru gaeth
i wenwyno'n hunaniaeth.
9 pwynt
CYFANSWM- 82 PWYNT.
Englyn ar y pryd- Tîm GB
Er i nu wrth golli'n gaeth alaru,
Galaru'n llawn hiraeth
Bydd galar buddugoliaeth
Heddiw ganmil,ganmil gwaeth.
9 1/2 pwynt
CYFANSWM- 82 1/2 PWYNT.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

