Y Talwrn - Crannog v Y Rhelyw
Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o'r Talwrn.
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'ail'
Yn ei blaen â'r Jiwbili
Ar ôl oes yr ail Lisi.
Hywel Rees8 pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'ail'
Nid oes wlad â chofadail
i enw neb ddaeth yn ail.
Karen Owen8 1/2 pwynt
LIMRIG yn cynnwys y llinell, "Nid oedd neb o'r cymdogion yn synnu"
Nid oedd neb o'r cymdogion yn synnu
Fod gwallt Mrs Jones wedi gwynnu,
'Rodd ei gŵr hi'n 'au fait'
'Da pob gwraig yn y dre
Ac ambell i foi - ma nhw'n honni.
Dewi Pws8 pwynt
LIMRIG yn cynnwys y llinell, "Nid oedd neb o'r cymdogion yn synnu"
Nid oedd neb o'r cymdogion yn synnu
fod William a Kate wedi prynu
tŷ twt yn Sir Fôn;
bydd y plant, 'nôl y sôn,
er yn Saeson, yn blant bach Mam Cymru.
Dafydd Williams 8 1/2 pwynt
TRYDARGERDD - Ensyniad
Ni all Brenhines Arfon
Ddod 'nôl i wadu'r straeon
Am gusan fach, am gyffro'r gwaed,
Gan fod ei thraed mewn cyffion.
Hywel Rees9 pwynt
TRYDARGERDD - Ensyniad
ceirhoniad@crannog
Trwy'r hwyr, yn llofft Hywel Rees, mi welais
ymwelydd â mwclis;
ar y naw, roedd ei rhan is
yn edrych fel gwraig Idris.
Geraint Roberts8 1/2 pwynt
CYWYDD - Hanner Amser
A oes rif all fesur hyd
Yr aeonau a'r ennyd?
A oes lathen all bennu
Ehangder y dyfnder du?
A oes gof, rhyw broffes gau,
Ry i funud derfynau?
Yr oriau oll yw'r awr hon,
Eiliadau heb waelodion,
Y gwagle hwnt i ddeall
Clociau'n hamser cwarter call;
Y Nawr sydd o'i haneru
O'r un faint â'r hyn a fu.
Idris Reynolds10 pwynt
CYWYDD - Hanner Amser
Teitl hunangofiant Nigel Owens, y dyfarnwr rygbi
Wedi'r chwib, daw hoe i'r chwys
ar ei hanner yn raenus;
dod i egwyl y deugain
a wna'r llais rhwng lliwiau'r llain.
Dyma giaffar y chwarae
a iaith Cwm yn britho cae,
hwn yw'r Bont a'r IRB,
y meysydd a'r sgarmesi;
reff y wên a'r garden goch
sy' eto'n agos-atoch
yn y floedd, y sgrym aflêr
a leiniau yr ail hanner.
Geraint Roberts 9 pwynt
PENNILL YMSON - Mewn ciw traffig
Mae tasgau'r talwrn o fy mla'n,
'Rwy'n estyn am y beiro,
Fe gefais syniad am y gân -
O, diawl, Mae'r ciw yn clirio!
Dai Jones8 1/2 pwynt
PENNILL YMSON - Mewn ciw traffig
Rhai oriau yn ôl, goddiweddais
hen grwban â'i drwyn ar y maen;
a bellach, mae'n dwedyd y cyfan,
fod y crwban ddeg cerbyd o'm blaen.
Mari Lisa8 1/2 pwynt
Cân ysgafn - Lwc o Anlwc.
R'odd Wil yn foi anlwcus iawn,
O'dd e byth yn ca'l pethe'n reit -
Pan fydde'n dadle â'i hunan, hyd yn o'd,
Y fe fydde'n colli'r ffeit.
Ond wedyn enillodd ar raffl
Ac ar gost o ffiffti pi
Cas ddeg fidio lliw o bigion
'Heno' ar Es Ffor Si.
Un Gwanwyn ac yntau yn drigen a mwy
Clywodd glychau'r Llan yn ei alw,
R'odd dewis o ddwy i ga'l gyda Wil
Ond fe briododd e'r un salw.
Mewn tristwch fe brynodd e focs 'After Eights'
Fel trît iddo'i hunan 'rôl gwaith,
Ond O! Gwae ag och, a'th e'n dost am 'whech
A bu farw am gwarter i saith.
Pan gyrhaeddodd y gatie aur mas o law
Daeth Pedr i'w gyfarch yn glên
'Wil bach, gest ddigon o anlwc, dere mewn'
Ac agorodd y porth gyda gwên.
Dewi Pws8 1/2 pwynt
Cân ysgafn - Lwc o Anlwc.
Yr wythnos d'wetha bu trychineb fawr:
fe losgwyd rhif pedwar ein stryd ni i'r llawr
pan ffrwydrodd y gas. Ond, yn waeth na hynny,
roedd Meri, ein cymdoges, yn dal yn ei gwely.
Gwnaed pethau yn waeth pan glywyd y niws
nad oedd hi ei hunan - roedd hi yno 'da Huws
nymbar sefn - a brawychwyd yr ardal
o weld dau o'n cymdogion fel hyn wedi'n gada'l.
Ond mae rhimyn o heulwen i bob cwmwl du,
a rhyw air bach o ddiolch a roddais i,
gan ei sibrwd yn dawel o dan fy ngwynt:
achos fi oedd 'da Meri ddau ddiwrnod ynghynt.
Dafydd Williams 8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Ers oes yr un ydyw'r sîn
heddiw a ddoe'n newyddion.
0 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Bu erioed rhyw sibrydion
Ers oes yr un dyw'r sôn.
1/2 pwynt
ENGLYN - Ysgol.
(Ysgol T. Llew Jones sydd ar fin agor ym Mrynhoffnant).
Weithiau fe fydd lleisiau'r lli a'r ogof
O gragen yn codi
A'r môr yn adrodd stori
Y mannau hallt o'i mewn hi.
Idris Reynolds9 1/2 pwynt
ENGLYN - Ysgol.
Ysgol Ddringo.
Nid oes gŵyn os disgynni nac un dyn
odanat i'th godi,
am nad oes ond goroesi
rhwng ei dur a'i hawyr hi. .
Karen Owen9 1/2 pwynt
TELYNEG NEU SONED - Blas.
Ymunai gyda'i deulu
Yn dawel wrth y bwrdd,
Y clefyd yn ei fwyta
Ar swper heb ei gwrdd,
Ganchwennych yn ei wendid,
Yn gaeth i wres y tŷ,
Am dracht o surni'r enwyn
O laethdy ei Famgu.
Owen James9 1/2 pwynt
TELYNEG NEU SONED - Blas.
Tyddewi, Dydd Gwener y Groglith, 2012
Eisteddem yn y Tŷ, wrth fwrdd y wledd,
gan ddrachtio'n awchus offrymiadau'r côr.
Y Pasiwn, Stabat Mater, oedd ein medd
a'r tristwch yn pupuro nodau'r sgôr.
Er bod yr oratorio'n ffynnon bur
a lenwodd ein cwpanau oll yn llawn,
cardodwyd inni hefyd ddafnau sur
y disychedu fu am dri'r prynhawn.
Ac fel y treigla'r byd rhwng nos a dydd,
yn ddistyll ac yn llanw bob yn ail,
bydd hallt a melys, a bydd caeth a rhydd,
bydd rhai o hyd yn rhoi a rhai yn cael;
a bydd un rhan ohonom ni ar goll,
a finegr ac isop ynom oll.
Mari Lisa9 pwynt
Englyn ar y pryd- Râs-Clare Squires
Ar y daith rhoes o'i heitha- a marw
I'r samariaid elw
Marathonj hon a barha
Drw 'hell' y filltir ola
Dai Jones9 1/2 pwynt
Englyn ar y pryd- Râs
Rhed i ennill ar dy union,- a rhed
gyda'r iaith yn faton,
Rhed ei haur i dy wyrion
Am mai'r ras yw'r Gymru hon
Harri Williams9 pwynt
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

